Yswiriant Gwladol: rhagarweiniad
Yr hyn y mae Yswiriant Gwladol ar ei gyfer
Mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cyfrif tuag at y budd-daliadau a’r pensiynau yn y tabl.
Dosbarth 1: cyflogeion | Dosbarth 2: hunangyflogedig | Dosbarth 3: cyfraniadau gwirfoddol | |
---|---|---|---|
Pensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth | Iawn | Iawn | Iawn |
Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth | Iawn | Na | Na |
Pensiwn Newydd y Wladwriaeth | Iawn | Iawn | Iawn |
Lwfans Ceisio Gwaith newydd | Iawn | Na | Na |
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail cyfraniadau | Iawn | Iawn | Na |
Lwfans Mamolaeth | Iawn | Iawn | Na |
Taliad Cymorth Profedigaeth | Iawn | Iawn | Na |
Nid yw cyfraniadau Dosbarth 4 sy’n cael eu talu gan bobl hunangyflogedig, sydd ag elw o £12,570 neu fwy, yn cyfrif tuag at fudd-daliadau’r wladwriaeth.