Yswiriant Gwladol: rhagarweiniad

Printable version

1. Trosolwg

Rydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol er mwyn bod yn gymwys am fudd-daliadau penodol a Phensiwn y Wladwriaeth.

Mae angen rhif Yswiriant Gwladol arnoch cyn y gallwch ddechrau talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Pwy sy’n talu Yswiriant Gwladol

Rydych yn talu Yswiriant Gwladol gorfodol os ydych yn 16 oed, neu’n hŷn, a bod y naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn gyflogai sy’n ennill dros £242 yr wythnos wrth gyflawni un swydd
  • rydych yn hunangyflogedig ac yn gwneud elw o fwy na £12,570 y flwyddyn

Nid ydych yn talu Yswiriant Gwladol fel arfer, ond efallai eich bod yn dal i fod yn gymwys i gael budd-daliadau penodol a Phensiwn y Wladwriaeth, os yw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn gyflogai sy’n ennill rhwng £123 a £242 yr wythnos wrth gyflawni un swydd
  • rydych yn hunangyflogedig, ac mae’ch elw yn £6,725 neu’n fwy y flwyddyn

Caiff eich cyfraniadau eu trin fel pe baent wedi’u talu er mwyn diogelu eich cofnod Yswiriant Gwladol.

Mae’n bosibl y gallwch dalu cyfraniadau gwirfoddol (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn osgoi bylchau yn eich cofnod o gyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Dosbarthiadau Yswiriant Gwladol

Mae yna fathau gwahanol o Yswiriant Gwladol (a elwir yn ‘dosbarthiadau’).

Mae’r math o Yswiriant Gwladol yr ydych yn ei dalu yn dibynnu ar eich statws cyflogaeth a faint rydych yn ei ennill.

Pan rydych yn rhoi’r gorau i dalu

Os ydych yn gyflogedig, rydych yn rhoi’r gorau i dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 (yn agor tudalen Saesneg) pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth (yn agor tudalen Saesneg).

Os ydych yn hunangyflogedig, rydych yn rhoi’r gorau i dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 o 6 Ebrill (dechrau’r flwyddyn dreth) ar ôl i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

2. Eich rhif Yswiriant Gwladol

Mae gennych rif Yswiriant Gwladol er mwyn sicrhau bod eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol a’ch treth yn cael eu cofnodi yn erbyn eich enw chi’n unig.

Mae’n cynnwys llythrennau a rhifau ac nid yw’n newid.

Gallwch ddod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol:

  • ar eich slip cyflog
  • ar eich P60
  • ar lythyrau ynghylch eich treth, pensiynau neu fudd-daliadau
  • yn ap CThEF
  • yn yr adran Yswiriant Gwladol o’ch cyfrif treth personol
  • yn eich Apple Wallet neu Google Wallet (os oeddech wedi ei gadw yno o’ch cyfrif treth personol o’r blaen)

Gallwch wneud cais am rif Yswiriant Gwladol os nad oes un gennych, neu gallwch ddod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol os ydych wedi’i golli.

Cael llythyr sy’n dangos eich rhif Yswiriant Gwladol

Os ydych angen copi o lythyr gyda’ch rhif Yswiriant Gwladol arno, gallwch wneud y canlynol:

Cadw eich rhif Yswiriant Gwladol yn ddiogel

Er mwyn atal twyll hunaniaeth, peidiwch â rhannu eich rhif Yswiriant Gwladol gydag unrhyw un nad oes ei angen arno.

Mae’n bosibl y bydd angen i’r sefydliadau hyn wybod beth yw’ch rhif:

  • Cyllid a Thollau EF (CThEF)
  • eich cyflogwr
  • yr Adran Gwaith a Phensiynau (sy’n cynnwys y Ganolfan Byd Gwaith a’r Gwasanaeth Pensiwn, Anabledd a Gofalwyr), os ydych yn hawlio budd-daliadau’r wladwriaeth, neu’r Adran Datblygu Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon
  • eich cyngor lleol, os ydych yn hawlio Budd-dal Tai, neu Weithrediaeth Tai Gogledd Iwerddon
  • Swyddogion Cofrestru Etholiadol (er mwyn gwirio pwy ydych pan fyddwch yn cofrestru i bleidleisio)
  • y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, os ydych yn gwneud cais am fenthyciad myfyriwr
  • eich darparwr pensiwn os oes gennych bensiwn personol neu bensiwn rhanddeiliaid
  • darparwr eich Cyfrif Cynilo Unigol (ISA), os ydych yn agor ISA
  • darparwyr gwasanaethau ariannol awdurdodedig sy’n eich helpu i brynu a gwerthu buddsoddiadau, megis cyfranddaliadau, bondiau, a deilliadau — gallwch wirio a yw’ch darparwr yn awdurdodedig (yn agor tudalen Saesneg)
  • Cyn-filwyr y DU

3. Dosbarthiadau Yswiriant Gwladol

Mae’r dosbarth yr ydych yn ei dalu yn dibynnu ar eich statws cyflogaeth a faint rydych yn ei ennill. Gweler y cyfraddau presennol ar gyfer cyfraniadau Dosbarth 1, 2 a 4.

Os ydych yn gyflogedig

Bydd eich cyflogwr yn didynnu cyfraniadau Dosbarth 1 o’ch tâl yn awtomatig os yw’r ddau beth canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn iau nag oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • rydych yn ennill mwy na £242 yr wythnos wrth gyflawni un swydd

Caiff cyfraniadau Dosbarth 1A a Dosbarth 1B eu talu gan gyflogwyr ar dreuliau neu fuddiannau eu cyflogeion yn unig.

Os ydych yn ennill llai na £242 yr wythnos wrth gyflawni un swydd

Os ydych yn ennill rhwng £123 a £242 yr wythnos wrth gyflawni un swydd, ni fyddwch fel arfer yn talu Yswiriant Gwladol, ond efallai eich bod yn dal i fod yn gymwys i gael budd-daliadau penodol a Phensiwn y Wladwriaeth.

Os ydych yn ennill llai na £123 yr wythnos wrth gyflawni un swydd, gallwch ddewis talu cyfraniadau Dosbarth 3 gwirfoddol er mwyn osgoi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol (yn agor tudalen Saesneg).

Os ydych yn hunangyflogedig

Mae’r dosbarth rydych yn ei dalu’n dibynnu ar eich elw.

Os yw’ch elw yn £6,725 neu’n fwy y flwyddyn

Caiff cyfraniadau Dosbarth 2 eu trin fel pe baent wedi’u talu er mwyn diogelu eich cofnod Yswiriant Gwladol. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi dalu cyfraniadau Dosbarth 2.

Os yw’ch elw yn fwy na £12,570 y flwyddyn, mae’n rhaid i chi dalu cyfraniadau Dosbarth 4.

Os yw’ch elw yn llai na £6,725 y flwyddyn

Nid oes angen i chi dalu unrhyw beth, ond gallwch ddewis talu cyfraniadau Dosbarth 2 gwirfoddol er mwyn osgoi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol (yn agor tudalen Saesneg).

Os nad ydych yn gweithio

Gallwch ddewis talu cyfraniadau Dosbarth 3 gwirfoddol er mwyn osgoi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol (yn agor tudalen Saesneg).

4. Faint rydych yn ei dalu

Mae swm yr Yswiriant Gwladol yr ydych yn ei dalu yn dibynnu ar eich statws cyflogaeth a faint rydych yn ei ennill.

Gallwch fwrw golwg dros gyfraddau ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol (yn agor tudalen Saesneg).

Os ydych yn gyflogedig

Rydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1.

Y cyfraddau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 ar gyfer y rhan fwyaf o bobl ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025 yw:

Eich cyflog O 6 Ebrill 2024 hyd at 5 Ebrill 2025
£242 i £967 yr wythnos (£1,048 i £4,189 y mis) 8%
Dros £967 yr wythnos (£4,189 y mis) 2%

Byddwch yn talu llai os yw’r canlynol yn wir:

Mae cyflogwyr yn talu cyfradd wahanol o Yswiriant Gwladol yn dibynnu ar lythrennau categori (yn agor tudalen Saesneg) eu cyflogeion.

Sut i dalu

Rydych yn talu Yswiriant Gwladol gyda’ch treth. Bydd eich cyflogwr yn ei ddidynnu o’ch cyflog cyn i chi gael eich talu. Bydd eich slip cyflog yn dangos eich cyfraniadau.

Os ydych yn gyfarwyddwr cwmni cyfyngedig (yn agor tudalen Saesneg), efallai y byddwch hefyd yn gyflogai i chi’ch hun, ac felly yn talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 drwy’ch cyflogres TWE.

Os ydych yn hunangyflogedig

Rydych yn talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 (yn agor tudalen Saesneg), yn dibynnu ar eich elw. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwneud y taliadau hyn drwy Hunanasesiad.

Os yw’ch elw yn £6,725 neu’n fwy, caiff eich cyfraniadau Dosbarth 2 eu trin fel pe baent wedi’u talu er mwyn diogelu eich cofnod Yswiriant Gwladol.

Mae’n bosibl y gallwch dalu cyfraniadau gwirfoddol (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn osgoi bylchau yn eich cofnod o gyfraniadau Yswiriant Gwladol os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae gennych elw sy’n llai na £6,725 y flwyddyn yn sgil eich hunangyflogaeth
  • mae gennych swydd benodol (megis arholwr neu berchennog busnes sy’n ymwneud ag eiddo neu dir) ac nid ydych yn talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 drwy Hunanasesiad

Os oes gennych fylchau ac os nad ydych yn talu cyfraniadau gwirfoddol, gallai hyn effeithio ar y budd-daliadau y gallwch eu cael, megis Pensiwn y Wladwriaeth.

Os oes gennych swydd benodol ac os nad ydych yn talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 drwy Hunanasesiad, bydd angen i chi gysylltu â Chyllid a Thollau EF (CThEF) i drefnu taliad gwirfoddol.

Os ydych yn gyflogedig ac yn hunangyflogedig

Mae’n bosibl eich bod yn gyflogai ond eich bod hefyd yn gwneud gwaith hunangyflogedig. Yn yr achos hwn, bydd eich cyflogwr yn didynnu’ch Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 oddi wrth eich cyflog, ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 ar gyfer eich gwaith hunangyflogedig.

Bydd faint rydych yn ei dalu yn dibynnu ar eich cyflog cyfunol a’ch gwaith hunangyflogedig. Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi faint o Yswiriant Gwladol sy’n ddyledus ar ôl i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Cyfarwyddwyr, landlordiaid a physgotwyr cyfran

Mae rheolau gwahanol ar gyfer Yswiriant Gwladol os ydych yn un o’r canlynol:

Gallwch wneud cais i CThEF i wirio’ch cofnod Yswiriant Gwladol a hawlio ad-daliad os ydych o’r farn eich bod wedi gordalu.

5. Yr hyn y mae Yswiriant Gwladol ar ei gyfer

Mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cyfrif tuag at y budd-daliadau a’r pensiynau yn y tabl.

Dosbarth 1: cyflogeion Dosbarth 2: hunangyflogedig Dosbarth 3: cyfraniadau gwirfoddol
Pensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth Iawn Iawn Iawn
Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth Iawn Na Na
Pensiwn Newydd y Wladwriaeth Iawn Iawn Iawn
Lwfans Ceisio Gwaith newydd Iawn Na Na
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail cyfraniadau Iawn Iawn Na
Lwfans Mamolaeth Iawn Iawn Na
Taliad Cymorth Profedigaeth Iawn Iawn Na

Nid yw cyfraniadau Dosbarth 4 sy’n cael eu talu gan bobl hunangyflogedig, sydd ag elw o £12,570 neu fwy, yn cyfrif tuag at fudd-daliadau’r wladwriaeth.

6. Cymorth os nad ydych yn gweithio

Gallai unrhyw fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol effeithio ar eich budd-daliadau. Gall credydau Yswiriant Gwladol helpu i osgoi bylchau yn eich cofnod a diogelu eich budd-daliadau.

Gallwch gael credydau os na allwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol, er enghraifft os yw’r canlynol yn wir:

  • na allwch weithio o ganlyniad i salwch

  • rydych yn gofalu am rywun

Os nad ydych yn gweithio, nac yn derbyn credydau, gallwch hefyd gyfrannu at eich Yswiriant Gwladol gyda chyfraniadau gwirfoddol (yn agor tudalen Saesneg).

7. Newid mewn amgylchiadau

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) os yw’r canlynol yn berthnasol: