Gordaliadau a thandaliadau treth
Printable version
1. Os nad ydych wedi talu’r swm cywir o dreth
Os ydych wedi talu naill ai gormod neu dim digon o dreth erbyn diwedd y flwyddyn dreth (5 Ebrill), bydd Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) yn anfon y naill neu’r llall o’r canlynol atoch:
- llythyr cyfrifiad treth (a elwir hefyd yn P800)
- llythyr Asesiad Syml
Bydd hwn yn rhoi gwybod i chi sut i gael ad-daliad neu dalu’r dreth sydd arnoch.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Byddwch yn cael llythyr dim ond os yw’r canlynol yn berthnasol:
- rydych yn gyflogedig
- rydych yn cael pensiwn
Os ydych wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad, bydd eich bil yn cael ei addasu’n awtomatig os ydych wedi tandalu neu ordalu treth. Ni fyddwch yn cael llythyr cyfrifiad treth na llythyr Asesiad Syml.
Pryd bydd y llythyrau’n cael eu hanfon
Bydd y llythyrau yn cael eu hanfon rhwng Mehefin a diwedd Tachwedd.
Pam y gallech gael llythyr cyfrifiad treth
Mae’n bosibl y cewch lythyr cyfrifiad treth naill ai os oes arnoch dreth neu os oes ad-daliad yn ddyledus i chi oherwydd eich bod:
- ar y cod treth anghywir, er enghraifft oherwydd bod gan CThEF yr wybodaeth anghywir am eich incwm
- wedi gorffen un swydd, dechrau un newydd a’ch bod wedi cael eich talu gan y naill a’r llall yn yr un mis
- wedi dechrau cael pensiwn yn y gwaith
- wedi cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Lwfans Ceisio Gwaith
Pam y gallech gael llythyr Asesiad Syml
Efallai y cewch lythyr Asesiad Syml os:
- oes arnoch dreth nad oes modd ei thynnu o’ch incwm yn awtomatig
- oes arnoch dros £3,000 i CThEF
- oes yn rhaid i chi dalu treth ar eich Pensiwn y Wladwriaeth
Dysgwch sut i dalu eich bil Asesiad Syml.
Bydd angen i chi dalu’r dreth sydd arnoch erbyn dyddiad cau penodol.
Os na anfonwyd llythyr cyfrifiad treth na llythyr Asesiad Syml atoch
Os ydych yn credu eich bod wedi talu gormod o dreth ac nad yw CThEF wedi anfon llythyr cyfrifiad treth atoch, dysgwch sut i hawlio ad-daliad.
Os ydych yn meddwl bod arnoch dreth ac nad ydych wedi cael llythyr, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.
2. Os bydd eich llythyr cyfrifiad treth (P800) yn dweud bod ad-daliad yn ddyledus i chi
Bydd eich llythyr cyfrifiad treth (a elwir hefyd yn P800) yn rhoi gwybod i chi sut y gallwch gael eich ad-daliad.
Os bydd eich llythyr cyfrifiad treth yn dweud y cewch hawlio ar-lein
I wneud hawliad ar-lein, bydd angen eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch.
Os nad oes gennych gyfrif Porth y Llywodraeth, gallwch greu un.
I greu cyfrif Porth y Llywodraeth, bydd angen eich rhif Yswiriant Gwladol arnoch, neu’ch cod post, a 2 o’r canlynol:
- pasbort dilys y DU
- trwydded yrru cerdyn-llun y DU a gyhoeddwyd gan y DVLA (neu’r DVA yng Ngogledd Iwerddon)
- slip cyflog o’r tri mis diwethaf, neu ffurflen P60 gan eich cyflogwr ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf
- manylion hawliad am gredyd treth, os gwnaethoch un
- manylion Ffurflen Dreth Hunanasesiad, os gwnaethoch un
- gwybodaeth sy’n cael ei chadw ar eich cofnod credyd, os oes gennych un (megis benthyciadau, cardiau credyd, neu forgeisi)
Gallwch hefyd hawlio eich ad-daliad drwy ap CThEF.
Pryd y cewch eich ad-daliad
Anfonir yr arian atoch cyn pen 5 diwrnod gwaith – bydd yn eich cyfrif yn y DU ar ôl i’ch banc brosesu’r taliad.
Os na fyddwch yn hawlio eich ad-daliad ar-lein cyn pen 21 diwrnod, bydd Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) yn anfon siec atoch. Byddwch yn cael hon cyn pen 6 wythnos i’r dyddiad sydd ar eich llythyr cyfrifiad treth.
Os bydd eich llythyr cyfrifiad treth yn dweud y cewch siec
Bydd eich llythyr cyfrifiad treth yn dweud wrthych os bydd CThEF yn anfon siec atoch.
Does dim angen i chi gysylltu â CThEF i wneud hawliad – byddwch yn cael siec drwy’r post yn awtomatig.
Pryd y cewch eich ad-daliad
Byddwch yn cael eich siec cyn pen 14 diwrnod i’r dyddiad sydd ar eich llythyr.
Os oes treth yn ddyledus i chi am fwy nag un flwyddyn, cewch un siec am y cyfanswm.
3. Os bydd eich llythyr cyfrifiad treth (P800) yn dweud bod arnoch dreth
Bydd Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) yn casglu’r dreth sydd arnoch dros y flwyddyn nesaf. Bydd hyn yn digwydd yn awtomatig os:
- ydych yn talu Treth Incwm drwy gyflogwr neu ddarparwr pensiwn
- ydych yn ennill digon o incwm dros eich Lwfans Personol i dalu am y tandaliad
- oes arnoch lai na £3,000
Bydd CThEF yn ysgrifennu atoch ynghylch sut y gallwch dalu os na all gasglu’r arian fel hyn.