Talu’ch bil treth Asesiad Syml
Mae’n rhaid i chi dalu’ch bil treth Asesiad Syml os ydych wedi cael llythyr oddi wrth Gyllid a Thollau EF (CThEF).
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Mae’n bosibl y cewch lythyr Asesiad Syml os yw’r canlynol yn berthnasol:
- mae arnoch Dreth Incwm nad oes modd ei didynnu oddi wrth eich incwm yn awtomatig
- mae arnoch £3,000 neu fwy i CThEF
- mae’n rhaid i chi dalu treth ar Bensiwn y Wladwriaeth
Os ydych yn meddwl bod unrhyw wybodaeth yn y llythyr yn anghywir, neu os na allwch dalu’ch bil mewn pryd, mae’n rhaid i chi gysylltu â CThEF cyn pen 60 diwrnod.
Bydd angen eich cyfeirnod talu arnoch wrth wneud taliad. Mae’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’. Bydd hwn i’w weld ar eich llythyr Asesiad Syml.
Talu ar-lein
Gallwch dalu drwy un o’r dulliau canlynol:
- cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein – gofynnir i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein
- cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol
Bydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn credyd corfforaethol neu gerdyn debyd corfforaethol. Nid yw’r ffi yn ad-daladwy.
Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.
Os byddwch yn dewis talu drwy eich cyfrif banc ar-lein, gallwch naill ai wneud taliad ar unwaith neu ddewis dyddiad talu. Mae angen i’r dyddiad fod cyn dyddiad dyledus eich taliad.
Gofynnir i chi a ydych am fewngofnodi i’ch Cyfrif Treth Personol pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein.
Mae mewngofnodi’n gadael i chi weld a thalu unrhyw dreth sydd arnoch, ond rydych yn dal i allu talu heb fewngofnodi.
Os oes arnoch dreth o’r cyfnod cyn 6 Ebrill 2022, ni allwch weld a thalu treth gan ddefnyddio’ch Cyfrif Treth Personol.
Talu drwy ap CThEF
Gallwch hefyd ddefnyddio ap CThEF i dalu’ch bil gan ddefnyddio gwasanaeth bancio ar-lein eich banc, neu ap eich banc.
Gwneud trosglwyddiad banc
Gallwch dalu gan ddefnyddio gwasanaethau bancio ar-lein neu dros y ffôn, Taliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs.
Fel arfer, mae’n cymryd hyd at 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF. Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud taliad.
Os ydych yn talu o gyfrif banc yn y DU
Talwch i mewn i’r cyfrif hwn:
- cod didoli - 08 32 10
- rhif y cyfrif - 12001020
- enw’r cyfrif - HMRC Shipley
Os ydych yn talu o gyfrif tramor
Defnyddiwch y manylion banc canlynol i dalu CThEF o gyfrif banc tramor:
- Cod Adnabod y Banc (BIC) - BARCGB22
- rhif y cyfrif (IBAN) - GB03BARC20114783977692
- enw’r cyfrif - HMRC Shipley
Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
London
United Kingdom
E14 5HP
Anfon siec
Gallwch dalu â siec drwy’r post. Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’ a’i hanfon i:
HMRC
Direct
BX5 5BD
Ysgrifennwch eich cyfeirnod talu, sy’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’, ar gefn y siec – bydd hwn i’w weld ar eich llythyr Asesiad Syml.
Fel arfer, mae’n cymryd hyd at 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.