Yr hyn sydd wedi’i gynnwys

Mae’n rhaid i’r treuliau neu’r buddiannau rydych yn eu cynnwys mewn Cytundeb Setliad TWE (PSA) fod yn fân, yn afreolaidd neu’n

Mân

Mae enghreifftiau o fân fuddiannau a threuliau’n cynnwys:

  • gwobrau cymhelliant, er enghraifft ar gyfer gwasanaeth hir

  • biliau ffôn

  • rhoddion bach a thalebau

  • adloniant staff, er enghraifft tocyn i ddigwyddiad

  • treuliau nad yw’n ymwneud â busnes wrth deithio dros nos ar fusnes sydd dros y terfyn dyddiol (yn Saesneg)

Nid oes angen i chi gynnwys buddiannau pitw (yn Saesneg) yn eich Cytundeb Setliad TWE.

Afreolaidd

Mae buddiannau a threuliau afreolaidd yn bethau nad ydynt yn cael eu talu’n rheolaidd dros gyfnod o flwyddyn dreth, er enghraifft yn wythnosol neu’n fisol. Maen nhw hefyd yn bethau nad oes gan gyflogeion hawl contractiol iddynt. Mae enghreifftiau o dreuliau a buddiannau’n afreoleidd yn cynnwys:

  • treuliau adleoli dros £8,000 (mae’r rhain yn rhydd o dreth o dan £8,000)

  • cost mynd i gynadleddau tramor

  • treuliau priod sy’n cyd-fynd â chyflogai tramor

  • defnyddio fflat gwyliau cwmni

Anymarferol

Mae treuliau a buddiannau anymarferol yn bethau sy’n anodd rhoi gwerth arnynt neu rannu rhwng cyflogeion unigol. Mae enghreifftiau o dreuliau a buddiannau anymarferol yn cynnwys:

Beth sydd heb ei gynnwys

Ni allwch gynnwys cyflogau, buddiannau gwerth uchel fel ceir cwmni (yn Saesneg), neu daliadau arian parod fel:

Os ydych yn gwneud cais ar ôl dechrau’r flwyddyn dreth, mae cyfyngiadau ychwanegol ar yr hyn y gallwch ei gynnwys (yn Saesneg).