Newid neu ganslo Cytundeb Setliad TWE

Gallwch wneud cais i newid neu ganslo’ch Cytundeb Setliad TWE ar-lein. Os nad ydych yn gallu gwneud cais ar-lein, gallwch wneud cais drwy’r post.

Gwneud cais i newid neu ganslo ar-lein

Mae angen eich cyfeirnod TWE y cyflogwr arnoch. Mae hwn yn rhif 3 digid, yn flaenslaes ac yna’n gymysgedd o lythrennau a rhifau, fel 123/AB456. Gallwch ddod o hyd i hyn ar lythyrau sydd gennych gan CThEF am TWE.

Rydych hefyd angen manylion cyswllt, gan gynnwys:

  • enw’r busnes

  • cyfeiriad, os ydych yn gwneud cais i newid eich Cytundeb Setliad TWE

  • eich rhif ffôn

  • eich cyfeiriad e-bost (oni bai eich bod yn mewngofnodi gyda Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair Porth y Llywodraeth)

Gwneud cais ar-lein

Ar ôl gwneud y newidiadau neu ganslo, fe gewch gadarnhad mewn e-bost neu lythyr.

Os ydych wedi gwneud cais i ganslo’ch Cytundeb Setliad TWE, bydd CThEF yn ei ganslo o’r dyddiad y byddwch yn gofyn amdano ar y ffurflen.

Gwneud cais i newid neu ganslo drwy’r post

Os ydych am newid eich Cytundeb Setliad TWE, anfonwch fanylion y newidiadau i’r swyddfa a gyhoeddodd eich yn eich Cytundeb Setliad TWE. Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn anfon P626 diwygiedig atoch fod angen i chi ei lofnodi a’i ddychwelyd.

Os ydych am ganslo’ch Cytundeb Setliad TWE, gofynnwch i’r swyddfa a gyhoeddodd eich Cytundeb Setliad TWE i anfon P626 atoch. Llenwch adran slip dychwelyd y P626 a’i anfon at CThEF.

Cytundebau Setliad TWE
Cyllid a Thollau EF / HM Revenue and Customs
BX9 2AN

Os ydych wedi gwneud cais i ganslo’ch Cytundeb Setliad TWE, bydd CThEF yn ei ganslo ar y dyddiad y byddwch yn ei roi ar y slip dychwelyd.

Os ydych yn canslo’ch Cytundeb Setliad TWE

Mae angen i chi roi gwybod am unrhyw dreth a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG) heb ei dalu oherwydd buddiannau a threuliau gan ddefnyddio ffurflen P11D (yn Saesneg) a ffurflen PSA1.

Mae angen i chi dalu unrhyw dreth a CYG heb ei dalu (yn Saesneg) erbyn 22 Hydref ar ôl y flwyddyn dreth mae’r Cytundeb Setliad TWE yn berthnasol i (19 Hydref os ydych yn talu trwy’r post).

Mae angen i chi dalu unrhyw CYG sy’n ddyledus ar dreuliau neu fuddiannau a restrir ar y ffurflen P11D erbyn 22 Gorffennaf ar ôl y flwyddyn dreth mae’n berthnasol iddo (19 Gorffennaf os ydych yn talu trwy’r post).

Os ydych yn parhau i ddarparu buddiannau ar ôl i chi ganslo’ch Cytundeb Setliad TWE, mae angen i chi naill ai:

Gallwch dalu unrhyw dreth neu CYG sy’n ddyledus drwy TWE.