Ymddiriedolaethau a Threth Incwm

Nid yw’r rhan fwyaf o ymddiriedolaethau yn talu Treth Incwm ar incwm hyd at swm rhydd o dreth (sef £500, fel arfer). Mae treth yn ddyledus ar y swm llawn, os yw’r incwm yn fwy na’r swm rhydd o dreth.

Nid yw ymddiriedolwyr yn gymwys ar gyfer y lwfans difidend.

Mae incwm o wahanol fathau o ymddiriedolaethau yn agored i gyfraddau gwahanol o Dreth Incwm.

Trethir pob math o ymddiriedolaeth yn wahanol. Mae ymddiriedolaethau yn cynnwys ‘ymddiriedolwr’, ‘setlwr’ a ‘buddiolwr’.

Ymddiriedolaethau cronnol neu amodol

Mae ymddiriedolwyr yn gyfrifol am dalu treth ar incwm a gafwyd gan ymddiriedolaethau cronnol neu ymddiriedolaethau amodol.

Os oes gan y setlwr fwy nag un ymddiriedolaeth gronnol neu amodol, rhennir y swm rhydd o dreth, sef £500, rhwng nifer yr ymddiriedolaethau cronnol neu amodol sydd gan y setlwr.

Os yw’r setlwr wedi sefydlu 5 neu fwy o ymddiriedolaethau cronnol neu amodol, y swm rhydd o dreth ar gyfer pob ymddiriedolaeth yw £100.

Mae’r cyfraddau treth i’w gweld isod.

Math o incwm Cyfradd dreth
Incwm o fath difidend 39.35%
Pob incwm arall 45%

Y gyfradd dreth ar gyfer incwm a ddefnyddir i dalu am gostau rheoli cymhwysol yr ymddiriedolaeth yw 8.75% ar gyfer incwm difidend a 20% ar gyfer incwm arall. Dysgwch am eitemau trethadwy, cronfeydd treth a didyniadau ar gyfer ymddiriedolaethau a Threth Incwm (yn agor tudalen Saesneg).

Ymddiriedolaethau buddiant mewn meddiant

Yr ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol am dalu Treth Incwm ar y cyfraddau isod.

Math o incwm Cyfradd Treth Incwm
Incwm o fath difidend 8.75%
Pob incwm arall 20%

Weithiau, mae ymddiriedolwyr yn ‘mandadu’ incwm i’r buddiolwr. Mae hyn yn golygu bod yr incwm yn mynd yn syth i’r buddiolwr yn hytrach na mynd drwy’r ymddiriedolwyr.

Os bydd hyn yn digwydd, mae’n rhaid i’r buddiolwr ei gynnwys ar ei Ffurflen Dreth Hunanasesiad a thalu treth arno.

Ymddiriedolaethau gwag

Os ydych yn fuddiolwr ymddiriedolaeth wag, chi sy’n gyfrifol am dalu treth ar incwm ohoni.

Mae angen i chi roi gwybod i CThEF am yr incwm ar Ffurflen Dreth Hunanasesiad. Nid yw’r swm rhydd o dreth ar gyfer ymddiriedolaethau, sef £500, yn berthnasol, ond efallai y bydd modd i chi ddefnyddio’ch Lwfans Personol.

Os nad ydych yn anfon Ffurflen Dreth fel arfer, mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad erbyn 5 Hydref yn dilyn y flwyddyn dreth y cawsoch yr incwm.

Ymddiriedolaethau pan fo buddiant gan setlwr

Mae’r setlwr yn gyfrifol am Dreth Incwm ar yr ymddiriedolaethau hyn, hyd yn oed os nad yw peth o’r incwm yn cael ei dalu allan iddo. Fodd bynnag, caiff y Dreth Incwm ei thalu gan yr ymddiriedolwyr fel y maent yn cael yr incwm.

  1. Mae’r ymddiriedolwyr yn talu Treth Incwm ar incwm yr ymddiriedolaeth drwy lenwi Ffurflen Dreth Ymddiriedolaeth ac Ystâd.

  2. Maent yn rhoi datganiad i’r setlwr o’r holl incwm a’r cyfraddau treth a godir arno.

  3. Mae’r setlwr yn rhoi gwybod i CThEF am y dreth y mae’r ymddiriedolwyr wedi’i thalu ar ei ran ar Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Mae’r gyfradd Treth Incwm yn ddibynnol ar ba fath o ymddiriedolaeth yw’r ymddiriedolaeth pan fo buddiant gan setlwr.

Mathau eraill o ymddiriedolaethau

Mae rheolau arbennig ar gyfer ymddiriedolaethau rhieni ar gyfer plant, ymddiriedolaethau ar gyfer pobl sy’n agored i niwed ac ymddiriedolaethau lle nad yw’r ymddiriedolwyr yn preswylio yn y DU at ddibenion treth. Gelwir y rhain yn ymddiriedolaethau ar gyfer pobl nad ydynt yn breswyl (yn agor tudalen Saesneg).

Os mai chi yw’r buddiolwr

Yn dibynnu ar y math o ymddiriedolaeth ac ar eich incwm, mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio peth o’r Dreth Incwm yn ôl.

Os mai chi yw’r ymddiriedolwr

Gallwch gael help wrth lenwi’r Ffurflen Dreth Ymddiriedolaeth ac Ystâd (yn agor tudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o help arnoch

Mae arweiniad mwy manwl ar ymddiriedolaethau a Threth Incwm (yn agor tudalen Saesneg).

Cysylltwch â CThEF neu ceisiwch gyngor treth proffesiynol (yn agor tudalen Saesneg) os oes angen help arnoch.