Treth Incwm: rhagarweiniad

Printable version

1. Trosolwg

Treth a dalwch ar eich incwm yw Treth Incwm. Nid oes rhaid i chi dalu treth ar bob math o incwm.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Rydych yn talu treth ar bethau fel:

Nid ydych yn talu treth ar bethau fel:

Os mai dim ond yn achlysurol y byddwch yn gwerthu eitemau neu’n rhoi eiddo ar osod (er enghraifft drwy wefannau arwerthu neu apiau rhentu tymor byr), gwiriwch a oes angen i chi roi gwybod i CThEF am yr incwm hwn.

Rhyddhadau a lwfansau Treth Incwm

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn y DU yn cael Lwfans Personol o incwm sy’n rhydd o dreth. Dyma swm yr incwm y gallwch ei gael cyn talu treth.

Yn ogystal, gellir gostwng swm y dreth a delir gennych, drwy gyfrwng rhyddhadau treth os ydych yn gymwys i’w cael.

2. Sut rydych yn talu Treth Incwm

Talu Wrth Ennill (TWE)

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn talu Treth Incwm drwy TWE. Dyma’r system y mae’ch cyflogwr neu’ch darparwr pensiwn yn ei defnyddio i ddidynnu Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol cyn talu’ch cyflogau neu’ch pensiwn. Mae eich cod treth yn rhoi gwybod i’ch cyflogwr faint i’w ddidynnu.

Treth ar fudd-daliadau’r Wladwriaeth

Gall eich cod treth ddwyn budd-daliadau trethadwy’r wladwriaeth i ystyriaeth, felly os oes arnoch dreth ar y rheiny (er enghraifft ar gyfer Pensiwn y Wladwriaeth), fel arfer caiff ei didynnu’n awtomatig oddi wrth eich incwm arall.

Os mai Pensiwn y Wladwriaeth yw’ch unig incwm, bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn ysgrifennu atoch os oes arnoch Dreth Incwm. Efallai y bydd angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Ffurflenni Treth Hunanasesiad

Os yw’ch materion ariannol yn fwy cymhleth (er enghraifft os ydych yn hunangyflogedig neu fod gennych incwm uchel), mae’n bosibl y gallwch dalu Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol drwy’r drefn Hunanasesiad. Bydd angen i chi lenwi Ffurflen Dreth bob blwyddyn.

Hefyd, mae’n rhaid i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad os gwnaethoch ennill mwy na naill ai:

  • £1,000 o ganlyniad i hunangyflogaeth
  • £2,500 o incwm arall heb ei drethu, er enghraifft o ganlyniad i gildyrnau neu roi eiddo ar osod

Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os oedd eich incwm o roi eiddo ar osod rhwng £1,000 a £2,500.

3. Budd-daliadau’r Wladwriaeth sy’n rhydd o dreth a rhai sy’n drethadwy

Budd-daliadau’r Wladwriaeth sy’n drethadwy

Y budd-daliadau mwyaf cyffredin yr ydych yn talu Treth Incwm arnynt yw:

  • Lwfans Profedigaeth (Pensiwn Gweddwon yn gynt)
  • Lwfans Gofalwr neu (dim ond yn yr Alban) Daliad Cymorth Gofalwr
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) ar sail cyfraniadau
  • Budd-dal Analluogrwydd (o’r 29ain wythnos ar ôl i chi ei gael)
  • Lwfans Ceisio Gwaith (JSA)
  • pensiynau a delir drwy’r cynllun Budd-dal Marwolaeth Ddiwydiannol
  • Pensiwn y Wladwriaeth
  • Lwfans Rhiant Gweddw

Budd-daliadau’r Wladwriaeth sy’n rhydd o dreth

Y budd-daliadau mwyaf cyffredin a geir gan y Wladwriaeth ac nad oes yn rhaid i chi dalu Treth Incwm arnynt yw:

  • Lwfans Gweini
  • Taliad Cymorth Profedigaeth
  • Budd-dal Plant (ar sail incwm – defnyddiwch y gyfrifiannell treth Budd-dal Plant (yn agor tudalen Saesneg) i weld a fydd yn rhaid i chi dalu treth)
  • Credyd Treth Plant
  • Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
  • trwyddedau teledu rhad ac am ddim i bobl dros 75 oed
  • Lwfans Gwarcheidwad
  • Budd-dal Tai
  • Cymhorthdal Incwm – serch hynny, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu treth ar Gymhorthdal Incwm os byddwch yn rhan o streic
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) sy’n ymwneud ag incwm
  • Budd-dal Anafiadau Diwydiannol
  • cyfandaliadau profedigaeth
  • Lwfans Mamolaeth
  • Credyd Pensiwn
  • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Credyd Cynhwysol
  • Pensiwn Gweddw Rhyfel
  • Taliadau Tanwydd Gaeaf a Bonws Nadolig
  • Credyd Treth Gwaith

4. Cyfrifo a oes yn rhaid i chi dalu Treth Incwm

Er mwyn cyfrifo a ddylech fod yn talu Treth Incwm, dilynwch y camau hyn.

  1. Adiwch eich holl incwm trethadwy ynghyd, gan gynnwys budd-daliadau trethadwy’r wladwriaeth.

  2. Cyfrifwch eich lwfansau rhydd o dreth.

  3. Tynnwch eich lwfansau rhydd o dreth o’ch incwm trethadwy.

Os oes unrhyw beth yn weddill, rydych yn drethdalwr. Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF, os nad ydych eisoes yn talu treth.

Os nad oes unrhyw beth yn weddill, ni ddylech fod yn talu treth ac mae’n bosib bod ad-daliad yn ddyledus i chi.

5. Gwirio eich bod yn talu'r swm cywir

Gallwch weld a ydych yn talu’r swm cywir o Dreth Incwm ar-lein. Ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol (6 Ebrill 2024 i 5 Ebrill 2025), gallwch wneud y canlynol:

Gallwch hefyd:

Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaethau hyn, gallwch wirio eich bod wedi talu’r dreth gywir drwy gysylltu â CThEF neu drwy gael help gan gyfrifydd (yn agor tudalen Saesneg).

Mae yna ffordd wahanol o newid Ffurflen Dreth Hunanasesiad.