Talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gwirfoddol

Printable version

1. Trosolwg

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu talu cyfraniadau Dosbarth 3 gwirfoddol i lenwi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol er mwyn bod yn gymwys i gael Pensiwn y Wladwriaeth.

Fel arfer, gallwch ond dalu am fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol o’r 6 blwyddyn dreth ddiwethaf. Mae’r flwyddyn dreth yn dod i ben ar 5 Ebrill.

Er enghraifft, mae gennych hyd at 5 Ebrill 2030 i lenwi’r bylchau ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024.

Gallwch hefyd ddewis trefnu taliad rheolaidd i lenwi bylchau yn y flwyddyn dreth bresennol.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Cyn i chi dalu

Gwiriwch eich cofnod Yswiriant Gwladol i gael gwybod:

  • a oes gennych unrhyw fylchau

  • a ydych yn gymwys i dalu cyfraniadau gwirfoddol

  • faint fydd y gost

Nid yw cyfraniadau gwirfoddol bob amser yn cynyddu’ch Pensiwn y Wladwriaeth.

Os ydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, cysylltwch â Chanolfan Pensiwn y Dyfodol i weld a fyddwch yn elwa ar gyfraniadau gwirfoddol.

Os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn i weld a fyddwch yn elwa ar gyfraniadau gwirfoddol.

Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael credydau Yswiriant Gwladol - gallai olygu nad oes rhaid i chi dalu.

Talu ar-lein

Gallwch dalu ar-lein drwy gymeradwyo taliad gan ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein.

Talu nawr

Cadarnhad o’ch taliad

Nid oes angen i chi gysylltu â Chyllid a Thollau EF (CThEF) i wirio a yw’ch taliad wedi dod i law.

Bydd yn ymddangos yn eich cyfrif CThEF. Gall hyn gymryd hyd at 8 wythnos.

Faint o amser y mae’n ei gymryd

Gallwch wneud taliadau sy’n cyrraedd ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf:

Gallwch dalu cyn pen 3 diwrnod drwy ddefnyddio bancio ar-lein neu dros y ffôn (drwy Bacs) neu â siec drwy’r post.

Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud taliad.

Os bydd 5 Ebrill ar benwythnos neu ar ŵyl banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn hynny (oni bai eich bod yn talu drwy ddefnyddio bancio ar-lein neu dros y ffôn (drwy Daliadau Cyflymach).

Os ydych am wneud taliadau rheolaidd

Os ydych chi’n gwybod y bydd gennych fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol yn y flwyddyn dreth bresennol, gallwch wneud taliadau rheolaidd i dalu am y diffyg.

Os ydych am dalu’n chwarterol cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF. Byddant yn anfon cais am daliad atoch bob mis Gorffennaf, Hydref, Ionawr ac Ebrill.

Os hoffech dalu’n fisol, dylech drefnu Debyd Uniongyrchol.

2. Debyd Uniongyrchol

Gallwch ond defnyddio Debyd Uniongyrchol i wneud cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gwirfoddol ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol (6 Ebrill 2024 i 5 Ebrill 2025).

I drefnu taliadau misol, lawrlwythwch y ffurflen Debyd Uniongyrchol a’i hanfon at Gyllid a Thollau EF (CThEF). Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Dylech ganiatáu 21 diwrnod ar gyfer trefnu Debyd Uniongyrchol newydd.

Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn anfon llythyr atoch er mwyn rhoi gwybod i chi pryd bydd taliadau yn cael eu tynnu a beth fydd y symiau.

Bydd y taliadau’n ymddangos ar eich cyfriflen fel ‘HMRC NI-DD’.

Fel arfer, bydd eich taliadau yn dechrau ym mis Mai. Gallwch dalu ôl-ddyledion ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol drwy eich taliad cyntaf os ydych yn trefnu’r Debyd Uniongyrchol ar ôl mis Mai.

3. Cymeradwyo taliad gan ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein

Gallwch dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gwirfoddol yn uniongyrchol drwy ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich manylion bancio ar-lein

  • y cyfeirnod 18 digid a ddangosir ar eich cais am daliad gan Gyllid a Thollau EF (CThEF)

Os nad oes gennych gyfeirnod 18 digid, gallwch gael help gan Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Gwnewch y canlynol, pan fyddwch yn barod i dalu:

  1. Dechreuwch eich taliad Yswiriant Gwladol Dosbarth 3.

  2. Dewiswch yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’.

  3. Wedyn, gofynnir i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol er mwyn cymeradwyo’ch taliad Yswiriant Gwladol Dosbarth 3.

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n cymryd hyd at ddwy awr i ymddangos yn eich cyfrif.

4. Gwneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn

Gwnewch eich taliad i’r cyfrif banc Cyllid a Thollau EF (CThEF) canlynol, oni bai eich bod yn talu o gyfrif dramor:

  • cod didoli - 08 32 20

  • rhif y cyfrif - 12001004

  • enw’r cyfrif - HMRC NIC Receipts

Cyfeirnod

Defnyddiwch eich cyfeirnod 18 digid wrth wneud eich taliad. Gallwch gael hyd iddo ar y cais am daliad a anfonwyd atoch gan CThEF.

Ar gyfer taliadau chwarterol, bydd eich cyfeirnod yn dechrau gydag 11.

Ar gyfer taliadau untro, bydd eich cyfeirnod yn dechrau gyda 60.

Os nad oes gennych gyfeirnod 18 digid, gallwch gael help gan Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Faint o amser y mae’n ei gymryd

Fel arfer, bydd taliadau drwy Daliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn) yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.

Fel arfer, bydd taliadau CHAPS yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod gwaith os ydych yn talu cyn pen amserau prosesu’ch banc.

Fel arfer, bydd taliadau Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith.

Taliadau tramor

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif dramor:

  • Cod Adnabod y Banc (BIC) - BARCGB22

  • rhif y cyfrif (IBAN) - GB49 BARC 2020 4830 9447 93

  • enw’r cyfrif - HMRC NIC Receipts

Cyfeirnod

Defnyddiwch eich rhif Yswiriant Gwladol wedi’i ddilyn gan ‘IC’, eich cyfenw ac yna priflythyren eich enw cyntaf. Os yw’ch banc yn eich cyfyngu i nifer benodol o gymeriadau, dylech ddefnyddio’ch rhif Yswiriant Gwladol wedi’i ddilyn gan ‘IC’ a chymaint o’ch cyfenw ag sy’n bosibl.

Enghraifft

Os mai Anne Jones yw’ch enw, byddech yn ysgrifennu’r cyfeirnod fel QQ123456AICJONESA

Os ydych yn gyflogwr sy’n talu am gyflogai sy’n byw dramor, dylech ddefnyddio’ch rhif cyflogwr 13 cymeriad.

Cyfeiriad bancio

Cyfeiriad bancio CThEF yw:

Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
Llundain
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP

5. Yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu

Talwch ag arian parod neu siec yn eich cangen. Bydd angen y slip talu a anfonodd Cyllid a Thollau EF (CThEF) atoch gyda’ch cais am daliad.

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.

Ysgrifennwch eich cyfeirnod 18 digid ar gefn eich siec. Bydd y cyfeirnod ar y slip talu a anfonwyd atoch gan CThEF.

Os nad oes gennych gyfeirnod 18 digid, gallwch gael help gan Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad pan wnewch y taliad, ac nid y dyddiad pan fydd yn cyrraedd cyfrif banc CThEF, os ydych yn talu rhwng dydd Llun a dydd Gwener.

6. Talu â siec drwy’r post

Gallwch dalu drwy anfon siec at:

Cyllid a Thollau EF
HMRC
BX5 5BD

Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Yr hyn i’w gynnwys

Bydd y cais am daliad a anfonwyd atoch gan CThEF yn cynnwys slip talu gyda chyfeirnod 18 digid arno. Anfonwch y slip talu ynghyd â’ch siec.

Ysgrifennwch eich cyfeirnod 18 digid ar gefn eich siec.

Peidiwch â phlygu’r slip talu na’r siec, a pheidiwch â’u glynu wrth ei gilydd.

Os hoffech dderbynneb, dylech gynnwys nodyn yn gofyn am un.

Os nad oes gennych slip talu CThEF

Dylech gynnwys nodyn sy’n nodi:

  • eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn

  • faint rydych yn ei dalu

  • y cyfnod rydych yn talu ar ei gyfer

  • eich cyfeirnod 18 digid neu’ch rhif Yswiriant Gwladol

Os nad oes gennych gyfeirnod 18 digid, gallwch gael help gan Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.