Talu Cytundeb Setliad TWE

Printable version

1. Trosolwg

Mae’n rhaid i chi dalu’r dreth a’r Yswiriant Gwladol Dosbarth 1B sy’n ddyledus o’ch Cytundeb Setliad TWE (PSA) erbyn 22 Hydref yn dilyn y flwyddyn dreth y mae’n berthnasol iddi.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Talu ar-lein

Sicrhewch eich bod yn talu Cyllid a Thollau EF (CThEF) erbyn y dyddiad cau. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosbau a llog os yw’ch taliad yn hwyr.

Gallwch dalu ar-lein drwy’r dulliau canlynol:

  • cymeradwyo gan ddefnyddio’ch cyfrif banc

  • Debyd Uniongyrchol (taliad untro)

  • cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol

Talu nawr

Dulliau eraill o dalu

Gallwch ddewis talu drwy ddulliau eraill. Mae’r amser y mae angen i chi ei ganiatáu yn dibynnu ar eich dull o dalu.

Ni allwch dalu yn Swyddfa’r Post mwyach.

Ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf

3 diwrnod gwaith neu fwy

5 diwrnod gwaith

Os bydd y dyddiad cau ar benwythnos neu ar ŵyl banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn hynny (oni bai eich bod yn talu drwy Daliadau Cyflymach gan ddefnyddio bancio ar-lein neu dros y ffôn).

2. Debyd Uniongyrchol

Sefydlwch Ddebyd Uniongyrchol drwy gyfrif ar-lein Cyllid a Thollau EF (CThEF) eich busnes i wneud taliad unigol. Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi sefydlu taliad bob tro y byddwch yn talu CThEF drwy Ddebyd Uniongyrchol.

Defnyddiwch eich cyfeirnod

Bydd angen eich cyfeirnod Cytundeb Setliad TWE (PSA) arnoch wrth wneud taliad. Mae’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’. Fe welwch hwn ar y slip talu a anfonwyd atoch gan CThEF.

Os nad yw’ch cyfeirnod PSA gennych, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon TWE. Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Faint o amser y mae’n ei gymryd

Caniatewch 5 diwrnod gwaith i brosesu Debyd Uniongyrchol pan fyddwch yn trefnu un am y tro cyntaf. Dylai gymryd 3 diwrnod gwaith y tro nesaf os ydych yn defnyddio’r un manylion banc.

Os ydych yn talu TWE neu gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 drwy Ddebyd Uniongyrchol, gwnewch daliad Debyd Uniongyrchol ar wahân ar gyfer eich PSA.

3. Cymeradwyo taliad gan ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein

Gallwch dalu’ch Cytundeb Setliad TWE yn uniongyrchol drwy ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol.

Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio wrth law cyn i chi ddechrau.

Pan fyddwch yn barod i dalu, dechreuwch eich taliad Cytundeb Setliad TWE. Dewiswch yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’. Wedyn, gofynnir i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol er mwyn cymeradwyo’ch taliad Cytundeb Setliad TWE.

Gallwch ddewis dyddiad talu, cyn belled â’i fod cyn dyddiad dyledus eich taliad.

Gwiriwch eich cyfrif i sicrhau bod y taliad wedi mynd allan ar y diwrnod cywir. Os nad yw’r taliad wedi mynd allan yn ôl y disgwyl, siaradwch â’ch banc.

Fel arfer bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif.

4. Gwneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn

Gallwch dalu drwy ddefnyddio Taliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs.

Cyfeirnod

Bydd angen eich cyfeirnod Cytundeb Setliad TWE (PSA) arnoch wrth wneud taliad. Mae’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’. Fe welwch hwn ar y slip talu a anfonwyd atoch gan Gyllid a Thollau EF (CThEF).

Os nad yw’ch cyfeirnod PSA gennych, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon TWE. Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Os ydych yn talu o gyfrif banc yn y DU

Talwch i mewn i’r cyfrif hwn:

  • cod didoli - 08 32 10
  • rhif y cyfrif - 12001020
  • enw’r cyfrif - HMRC Shipley

Os ydych yn talu o gyfrif banc tramor

Talwch i mewn i’r cyfrif hwn:

  • rhif y cyfrif (IBAN) - GB03 BARC 2011 4783 9776 92
  • cod adnabod y banc (BIC) - BARCGB22
  • enw’r cyfrif - HMRC Shipley

Dylai taliadau tramor fod mewn sterling, ac mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os defnyddiwch unrhyw arian cyfred arall.

Cyfeiriad bancio CThEF yw:

Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
Llundain
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP

Faint o amser y mae’n ei gymryd

Fel arfer, bydd taliadau a wneir gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn) yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.

Fel arfer, bydd taliadau CHAPS yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod gwaith os byddwch yn talu o fewn amserau prosesu’ch banc.

Fel arfer, bydd taliadau Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith.

Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud taliad.

5. Drwy gerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol ar-lein

Gallwch dalu ar-lein.

Bydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn credyd corfforaethol neu gerdyn debyd corfforaethol. Nid yw’r ffi yn ad-daladwy.

Ni fydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn debyd personol.

Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.

Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad (hyd yn oed ar benwythnosau a gwyliau banc) – nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF.

Os na allwch dalu eich Cytundeb Setliad TWE (PSA) yn llawn â cherdyn, dylech ddefnyddio dull arall o dalu, megis trosglwyddiad banc.

Cyfeirnod

Bydd angen eich cyfeirnod Cytundeb Setliad TWE (PSA) arnoch. Mae’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’. Fe welwch hwn ar y slip talu a anfonwyd atoch gan CThEF.

Os nad yw’ch cyfeirnod PSA gennych, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon TWE. Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

6. Yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu

Gallwch dalu yn eich cangen ag arian parod neu siec. Bydd angen i chi ddefnyddio’r slip talu a anfonwyd atoch gan CThEF.

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.

Ysgrifennwch eich cyfeirnod Cytundeb Setliad TWE (PSA) ar gefn y siec. Mae’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’. Fe welwch hwn ar y slip talu a anfonwyd atoch gan CThEF.

Bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad (os ydych yn ei dalu rhwng dydd Llun a dydd Gwener) – nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF.

7. Talu â siec drwy’r post

Gallwch anfon siec i Gyllid a Thollau EF (CThEF) drwy’r post.

CThEF/HMRC
Direct
BX5 5BD

Nid oes angen i chi gynnwys enw stryd, enw dinas na blwch Swyddfa’r Post gyda’r cyfeiriad hwn.

Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Yr hyn i’w gynnwys

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.

Ysgrifennwch eich cyfeirnod Cytundeb Setliad TWE (PSA) ar gefn y siec. Mae’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’. Fe welwch hwn ar y slip talu a anfonwyd atoch gan CThEF.

Sicrhewch eich bod yn cynnwys y slip talu a anfonwyd atoch gan CThEF. Peidiwch â phlygu’r slip talu na’r siec, a pheidiwch â’u glynu wrth ei gilydd.

Os nad yw’ch cyfeirnod PSA gennych, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Mae’n bosibl y caiff eich taliad ei oedi os na fyddwch yn llenwi’ch siec yn gywir.

Os hoffech dderbynneb, dylech gynnwys nodyn yn gofyn am un.

Os nad oes gennych slip talu

Gallwch argraffu slip talu (yn agor tudalen Saesneg) a’i ddefnyddio i dalu drwy’r post. Ni allwch ddefnyddio hwn mewn banc.

8. Gwirio bod eich taliad wedi cyrraedd

Gallwch fwrw golwg dros eich cyfriflen banc neu gymdeithas adeiladu er mwyn cadarnhau bod y taliad wedi gadael eich cyfrif.

Os ydych yn talu drwy’r post, gallwch gynnwys llythyr ynghyd â’ch taliad er mwyn gwneud cais am dderbynneb oddi wrth Gyllid a Thollau EF (CThEF).