Talu cosb am gyflwyno’n hwyr ar gyfer Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS)

Printable version

1. Trosolwg

Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn anfon hysbysiad o gosb am gyflwyno’n hwyr atoch yn rhoi gwybod i chi faint i’w dalu os ydych wedi cyflwyno’ch datganiad misol yn hwyr (yn Saesneg).

Mae’n rhaid i chi dalu cyn pen 30 diwrnod o gael yr hysbysiad, neu gallwch apelio:

Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Talu cosb am gyflwyno’n hwyr ar-lein

Gallwch dalu ar-lein drwy’r dulliau canlynol:

  • cymeradwyo gan ddefnyddio’ch cyfrif banc

  • Debyd Uniongyrchol (taliad untro)

  • cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol

Talu nawr

Dulliau o dalu

Gwnewch yn siŵr eich bod yn talu erbyn y dyddiad cau. Mae’r amser y mae angen i chi ei ganiatáu yn dibynnu ar eich dull o dalu.

Ni allwch dalu yn Swyddfa’r Post mwyach.

Ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf

3 diwrnod gwaith

5 diwrnod gwaith

Os bydd y dyddiad cau ar benwythnos neu ŵyl banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn hynny (oni bai eich bod yn talu drwy Daliadau Cyflymach gan ddefnyddio bancio ar-lein neu ffôn).

2. Debyd Uniongyrchol

Bydd angen i chi drefnu Debyd Uniongyrchol newydd drwy gyfrif Cyllid a Thollau EF (CThEF) ar-lein eich busnes i wneud taliad unigol.

Ni allwch ddefnyddio’ch Debyd Uniongyrchol misol neu chwarterol presennol ar gyfer Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS).

Bydd angen y cyfeirnod talu ar gyfer y gosb am gyflwyno’n hwyr ar gyfer CIS arnoch. Mae’r cyfeirnod hwn yn 14 cymeriad o hyd a gellir dod o hyd iddo ar eich hysbysiad o gosb am gyflwyno’n hwyr. Mae’r cyfeirnod hwn bob amser yn dechrau gydag ‘X’.

Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon. Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Faint o amser i’w ganiatáu

Caniatewch 5 diwrnod gwaith i brosesu Debyd Uniongyrchol pan fyddwch yn trefnu un am y tro cyntaf. Dylai gymryd 3 diwrnod gwaith y tro nesaf os ydych yn defnyddio’r un manylion banc.

3. Cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein

Gallwch dalu’ch cosb am gyflwyno’n hwyr ar gyfer Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) yn uniongyrchol drwy ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol.

Pan fyddwch yn barod i dalu, ewch ati i ddechrau talu’ch cosb am dalu’n hwyr ar gyfer CIS. Dewiswch yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’. Wedyn, gofynnir i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol er mwyn cymeradwyo’ch taliad cosb am gyflwyno’n hwyr ar gyfer CIS.

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n cymryd hyd at ddwy awr i ymddangos yn eich cyfrif.

Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.

4. Gwneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn

Gallwch dalu drwy Daliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs i gyfrif Cyllid a Thollau EF (CThEF).

Cod didoli Rhif y cyfrif Enw’r cyfrif
08 32 10 12001020 HMRC Shipley

Cyfeirnod

Bydd angen y cyfeirnod talu ar gyfer y gosb am gyflwyno’n hwyr ar gyfer Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) arnoch. Mae’r cyfeirnod hwn yn 14 cymeriad o hyd a gellir dod o hyd iddo ar eich hysbysiad o gosb am gyflwyno’n hwyr. Mae’r cyfeirnod hwn bob amser yn dechrau gydag ‘X’.

Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon. Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Faint o amser y mae’n ei gymryd

Fel arfer, bydd taliadau a wneir gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn) yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.

Fel arfer, bydd taliadau CHAPS yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod gwaith os byddwch yn talu o fewn amserau prosesu’ch banc.

Fel arfer, mae taliadau Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith.

Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud taliad.

Taliadau tramor

Defnyddiwch y manylion hyn er mwyn talu o gyfrif tramor.

Rhif y cyfrif (IBAN) Cod Adnabod y Banc (BIC) Enw’r cyfrif
GB03BARC20114783977692 BARCGB22 HMRC Shipley

Cyfeiriad bancio CThEF yw:

Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
London
United Kingdom
E14 5HP

5. Â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol ar-lein

Gallwch dalu ar-lein.

Bydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn credyd corfforaethol neu gerdyn debyd corfforaethol. Nid yw’r ffi yn ad-daladwy.

Ni fydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn debyd personol.

Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.

Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad (hyd yn oed ar wyliau banc a phenwythnosau) – nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF.

Os na allwch dalu’ch cosb am gyflwyno’n hwyr yn llawn â cherdyn, dylech ddefnyddio dull arall o dalu megis trosglwyddiad banc.

Cyfeirnod

Bydd angen y cyfeirnod talu ar gyfer y gosb am gyflwyno’n hwyr ar gyfer Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) arnoch. Mae’r cyfeirnod hwn yn 14 cymeriad o hyd a gellir dod o hyd iddo ar eich hysbysiad o gosb am gyflwyno’n hwyr. Mae’r cyfeirnod hwn bob amser yn dechrau gydag ‘X’.

Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon. Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

6. Yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu

Defnyddiwch y slip talu a anfonodd Cyllid a Thollau EF (CThEF) gyda’ch hysbysiad o gosb am gyflwyno’n hwyr.

Peidiwch â defnyddio slip talu o’ch llyfryn talu gan y bydd eich taliad yn cael ei gredydu i’r cyfrif anghywir a chan ei bod yn bosibl y cewch nodynnau atgoffa i dalu.

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.

Ysgrifennwch eich cyfeirnod, sy’n 14 o gymeriadau, ar gyfer y gosb am gyflwyno’n hwyr ar gyfer Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) ar gefn eich siec. Bydd y cyfeirnod ar eich hysbysiad o gosb. Mae bob amser yn dechrau gydag X.

Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon. Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad, nid y dyddiad y mae’n cyrraedd ei gyfrif banc.

7. Talu â siec drwy’r post

Gallwch anfon siec i Gyllid a Thollau EF (CThEF) drwy’r post.

HMRC
Direct
BX5 5BD

Nid oes angen i chi gynnwys enw stryd, enw dinas na blwch Swyddfa’r Post gyda’r cyfeiriad hwn.

Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Yr hyn i’w gynnwys

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.

Ysgrifennwch eich cyfeirnod, sy’n 14 o gymeriadau, ar gyfer y gosb am gyflwyno’n hwyr ar gyfer Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) ar gefn y siec. Mae hyn bob amser yn dechrau gyda’r llythyren ‘X’. Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon.

Mae’n bosibl y caiff eich taliad ei ohirio os na fyddwch yn llenwi’ch siec yn gywir.

Cofiwch gynnwys y slip talu a anfonodd CThEF atoch gyda’ch hysbysiad o gosb am gyflwyno’n hwyr. Peidiwch â phlygu’r slip talu na’r siec, a pheidiwch â’u glynu wrth ei gilydd.

Gallwch gynnwys llythyr ynghyd â’ch taliad er mwyn gwneud cais am dderbynneb oddi wrth CThEF.

Os nad oes gennych slip talu

Anfonwch eich siec gyda llythyr gyda’r manylion hyn:

  • enw’r cwmni

  • cyfeiriad

  • rhif ffôn

  • cyfeirnod y gosb

  • faint rydych yn ei dalu

8. Gwirio bod eich taliad wedi dod i law

Gallwch fwrw golwg dros eich cyfriflen banc neu gymdeithas adeiladu er mwyn cadarnhau bod y taliad wedi gadael eich cyfrif.

Os ydych yn talu â siec drwy’r post, gallwch gynnwys llythyr ynghyd â’ch taliad er mwyn gofyn am dderbynneb oddi wrth Gyllid a Thollau EF (CThEF).