Taliad Tanwydd Gaeaf

Printable version

1. Trosolwg

Os cawsoch eich geni ar neu cyn 25 Medi 1957, gallech gael rhwng £250 a £600 i’ch helpu i dalu’ch biliau gwresogi. Gelwir hyn yn ‘Daliad Tanwydd Gaeaf’.

Mae’r swm byddwch yn ei gael yn cynnwys ‘Taliad Costau Byw i Bensiynwyr’. Mae hwn rhwng £150 a £300. Byddwch yn cael y swm ychwanegol hwn yn ystod gaeaf 2023 i 2024. Mae hwn yn ychwanegiad at unrhyw Daliad Costau Byw rydych yn ei gael gyda’ch budd-dal neu’ch credydau treth.

Mae’r canllaw hwn ar gael yn Saesneg (English) hefyd ac Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael Taliad Tanwydd Gaeaf yn awtomatig os ydynt yn gymwys.

Os ydych yn gymwys, dylech fod wedi cael llythyr ym mis Hydref neu fis Tachwedd yn dweud faint fyddwch yn ei gael.

Os nad ydych wedi cael llythyr ond rydych yn meddwl eich bod yn gymwys, gwiriwch a oes angen i chi wneud cais

Cafodd y rhan fwyaf o bobl gymwys eu talu ym mis Tachwedd neu fis Rhagfyr. Darganfyddwch beth i’w wneud os nad ydych wedi cael eich talu.

Help arall gyda biliau gwresogi

Gallech hefyd gael:

  • Taliad Tywydd Oer - os ydych yn cael rhai budd-daliadau a bod y tymheredd yn gostwng i radd sero celsius neu is am 7 diwrnod yn olynol
  • y Disgownt Cartref Cynnes - mae hwn yn ostyngiad o £150 ar eich biliau os ydych yn cael Credyd Pensiwn neu os ydych yn byw mewn cartref incwm isel
  • cymorth gan y Gronfa Cymorth i Gartrefi, os ydych yn gymwys o dan reolau eich cyngor lleol - edrychwch ar wefan eich cyngor lleol

2. Cymhwyster

Gallwch gael Taliad Tanwydd Gaeaf os cawsoch eich geni cyn 25 Medi 1957

Fel arfer mae angen i chi fyw yn y DU. Mewn rhai amgylchiadau, gallech fod yn gymwys os ydych yn byw dramor.

Pan na fyddwch yn gymwys

Ni fyddwch yn gymwys os:

  • rydych wedi bod yn yr ysbyty yn cael triniaeth am ddim am fwy na blwyddyn
  • rydych angen caniatâd i ddod i mewn i’r DU ac mae eich caniatâd i aros yn dweud na allwch hawlio arian cyhoeddus
  • roeddech yn y carchar am yr wythnos gyfan rhwng 18 a 24 Medi 2023

Os ydych yn byw mewn cartref gofal

Gallwch gael Taliad Tanwydd Gaeaf os ydych yn byw mewn cartref gofal. Ni fyddwch yn gymwys os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn cael Credyd Pensiwn, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA) neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)

  • roeddech yn byw mewn cartref gofal am yr holl amser rhwng 26 Mehefin a 24 Medi 2023

3. Faint fyddwch chi'n ei gael

Dylech fod wedi cael llythyr ym mis Hydref neu fis Tachwedd yn dweud wrthych faint o Daliad Tanwydd Gaeaf y byddwch yn ei gael, os ydych yn gymwys.

Os nad ydych wedi cael lythyr ond rydych yn meddwl eich bod yn gymwys, gwiriwch a oes angen i chi wneud cais

Mae faint rydych yn ei gael yn seiliedig ar pryd y cawsoch eich geni a’ch amgylchiadau rhwng 18 i 24 Medi 2023. Mae hwn yn cael ei alw yn ‘wythnos gymhwyso’.

Mae’r symiau a restrir yn cynnwys ‘Taliad Costau Byw i Bensiynwyr’. Mae hwn rhwng £150 a £300. Byddwch yn cael y swm ychwanegol hwn yn ystod gaeaf 2023 i 2024.

Mae unrhyw arian a gewch yn ddi-dreth ac ni fydd yn effeithio ar eich budd-daliadau eraill.

Os ydych yn byw ar eich pen eich hun neu os nad oes unrhyw un sy’n byw gyda chi yn gymwys am Daliad Tanwydd Gaeaf

Byddwch yn cael naill ai:

  • £500 os cawsoch eich geni rhwng 25 Medi 1943 a 24 Medi 1957
  • £600 os cawsoch eich geni cyn 25 Medi 1943

Os ydych yn byw gyda rhywun arall sy’n gymwys am Daliad Tanwydd Gaeaf

Gall eich taliad fod yn wahanol os ydych yn cael un o’r budd-daliadau canlynol:

  • Credyd Pensiwn
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
  • Cymhorthdal ​​Incwm

Os nad ydych yn cael un o’r budd-daliadau

Byddwch yn cael taliad o naill ai:

  • £250 os cawsoch chi a’r person rydych yn byw gyda nhw eich geni rhwng 25 Medi 1943 a 24 Medi 1957
  • £250 os cawsoch eich geni rhwng 25 Medi 1943 a 24 Medi 1957 ond ganed y person rydych yn byw gyda nhw cyn 25 Medi 1943
  • £350 os cawsoch eich geni cyn 25 Medi 1943 ond ganed y person rydych yn byw gyda nhw rhwng 25 Medi 1943 a 24 Medi 1957
  • £300 os cawsoch chi a’r person rydych yn byw gyda nhw eich dau eich cyn 25 Medi 1943

Os ydych chi a’ch partner yn hawlio unrhyw un o’r budd-daliadau

Bydd un ohonoch yn cael taliad o naill ai:

  • £500 os cawsoch chi’ch dau eich geni rhwng 25 Medi 1943 a 24 Medi 1957
  • £600 os cafodd un neu’r ddau ohonoch eich geni cyn 25 Medi 1943

Byddwch yn cael eich talu i mewn i’r cyfrif banc mae eich budd-daliadau fel arfer yn cael eu talu i mewn iddo.

Os ydych yn cael unrhyw un o’r budd-daliadau (nid fel rhan o gais ar y cyd)

Byddwch yn cael taliad o naill ai:

  • £500 os cawsoch eich geni rhwng 25 Medi 1943 a 24 Medi 1957
  • £600 os cawsoch eich geni cyn 25 Medi 1943

Os ydych yn byw mewn cartref gofal

Os ydych yn gymwys byddwch yn cael naill ai:

  • £250 os cawsoch eich geni rhwng 25 Medi 1943 a 24 Medi 1957
  • £300 os cawsoch eich geni cyn 25 Medi 1943

4. Edrychwch i weld os ydych angen gwneud cais

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael y Taliad Tanwydd Gaeaf yn awtomatig os ydynt yn gymwys.

Nid oes angen i chi wneud cais os ydych yn cael unrhyw un o’r canlynol:

  • Pensiwn y Wladwriaeth
  • Credyd Pensiwn
  • Lwfans Gweini
  • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
  • Lwfans Gofalwr
  • Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
  • Cymorthdal Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
  • dyfarniad o’r Cynllun Pensiynau Rhyfel
  • Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Budd-dal Marwolaeth Ddiwydiannol

Os nad ydych yn cael unrhyw un o’r rhain, mae angen i chi wneud cais os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:

  • nid ydych wedi cael Taliad Tanwydd Gaeaf o’r blaen
  • rydych wedi gohirio eich Pensiwn y Wladwriaeth ers eich Taliad Tanwydd Gaeaf diwethaf

Efallai y bydd angen i chi wneud cais os ydych yn byw dramor hyd yn oed os ydych yn cael un o’r budd-daliadau hyn.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am Daliad Tanwydd Gaeaf:

  • trwy’r post - o 18 Medi 2023
  • dros y ffôn - o 4 Hydref 2023

Mae ffordd wahanol i wneud cais os ydych yn byw dramor.

Y dyddiad cau i chi wneud cais ar gyfer gaeaf 2023 i 2024 yw 31 Mawrth 2024.

Gwneud cais trwy’r post

Llenwch Ffurflen gais Taliad Tanwydd Gaeaf i breswylwyr y DU a’i hafnon i’r Ganolfan Taliad Tanwydd Gaeaf.

Anfonwch eich cais i’r cyfeiriad canlynol os ydych yn y DU.

Winter Fuel Payment Centre
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1LR

Gwneud cais dros y ffôn

Ffoniwch y Ganolfan Taliadau Tanwydd Gaeaf i wneud cais dros y ffôn.

Canolfan Taliadau Tanwydd Gaeaf
Ffurflen ymholiad e-bost Ffôn: 0800 731 0160 Ffôn testun: cysylltwch â Relay UK ar 18001 ac yna 0800 731 0464 Gwasanaeth video relay Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen Ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm Darganfyddwch am gostau galwadau

Beth i’w baratoi cyn i chi ffonio

Cyn i chi ffonio, byddwch angen gwybod:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • manylion eich banc neu gymdeithas adeiladu
  • y dyddiad gwnaethoch briodi neu d dod yn rhan o bartneriaeth sifil (os yw’n briodol)

Ni ellir gwneud taliadau i gyfrif Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I) oni bai eich bod eisoes yn cael budd-daliadau eraill wedi’u talu i’r cyfrif.

Byddwch hefyd angen dweud os, yn ystod wythnos gymhwyso 18 a 24 Medi 2023, roeddech:

  • yn yr ysbyty yn cael triniaeth am ddim i gleifion mewnol
  • mewn cartref gofal preswyl neu ‘Ilford Park Resettlement Home’
  • yn y carchar

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad

Gallwch herio penderfyniad am eich cais. Gelwir hyn yn gofyn am ailystyriaeth orfodol.

5. Pryd fyddwch chi'n cael eich talu

Mae’r rhan fwyaf o daliadau’n cael eu gwneud yn awtomatig ym mis Tachwedd neu fis Rhagfyr.

Dylech fod wedi cael llythyr yn dweud wrthych:

  • faint fyddwch yn ei gael
  • pa gyfrif banc y bydd yn cael ei dalu iddo - fel arfer mae hwn yr un cyfrif â’ch Pensiwn y Wladwriaeth neu fudd-daliadau eraill

Os nad ydych wedi cael lythyr neu nad yw’r arian wedi’i dalu i’ch cyfrif erbyn 26 Ionawr 2024, cysylltwch â’r Ganolfan Taliadau Tanwydd Gaeaf.

6. Os ydych yn byw dramor

Os nad ydych yn byw yn y DU, rydych ond yn gymwys i gael y Taliad Tanwydd Gaeaf os ydych:

  • wedi symudu i wlad gymwys cyn 1 Ionawr 2021
  • wedi cael eich geni cyn 25 Medi 1957
  • gyda cysylltiad dilys a digonol â’r DU - gall hyn gynnwys cael byw neu weithio yn y DU, a chael teulu yn y DU

Gwledydd cymwys

  • Awstria
  • Gwlad Belg
  • Bwlgaria
  • Croatia
  • Y Weriniaeth Tsiec
  • Denmarc
  • Estonia
  • Ffindir
  • Yr Almaen
  • Hwngari
  • Gwlad yr Ia
  • Iwerddon
  • Yr Eidal
  • Latfia
  • Liechtenstein
  • Lithwania
  • Luxembourg
  • Yr Iseldiroedd
  • Norwy
  • Gwlad Pwyl
  • Romania
  • Slofacia
  • Slofenia
  • Sweden
  • Y Swistir

Pryd i wneud cais

Mae angen i chi wneud cais am Daliad Tanwydd Gaeaf dim ond os nad ydych wedi ei gael ers i chi symud dramor.

Gweddill yr amser, byddwch yn cael y taliad yn awtomatig.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am Daliad Tanwydd Gaeaf:

  • trwy’r post - o 18 Medi 2023
  • dros y ffôn - o 4 Hydref 2023

Y dyddiad cau i chi wneud cais ar gyfer gaeaf 2023 i 2024 yw 31 Mawrth 2024.

Gwneud cais drwy’r post

Bydd angen i chi lawrlwytho a llenwi:

  • ffurflen gais Taliad Tanwydd Gaeaf
  • ffurflen IPCF091, os ydych yn gwladolyn y DU neu gyda chenedligrwydd deuol yn byw mewn gwlad cymwys heblaw Iwerddon.

Lawrlwythwch y ffurflenni

Anfonwch eich ffurflenni wedi’u cwblhau i’r cyfeiriad canlynol.

Winter Fuel Payment Centre
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1ZU
UK

Gwneud cais dros y ffôn

Ffoniwch y Ganolfan Taliadau Tanwydd Gaeaf i wneud cais dros y ffôn.

Canolfan Taliadau Tanwydd Gaeaf
Ffurflen ymholiadau e-bost
Ffôn: +44 (0)191 218 7777
Ffôn testun: cysylltwch â Relay UK ar +44 (0)151 494 2022 ac yna 0800 731 0160
Gwasanaeth video relay Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Beth i’w baratoi cyn i chi ffonio

Cyn i chi ffonio, byddwch angen gwybod:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • manylion eich banc neu gymdeithas adeiladu
  • eich rhifau BIC ac IBAN
  • y dyddiad gwnaethoch briodi neu d dod yn rhan o bartneriaeth sifil (os yw’n briodol)

Ni ellir gwneud taliadau i gyfrif Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I) oni bai eich bod eisoes yn cael budd-daliadau eraill wedi’u talu i’r cyfrif.

Byddwch hefyd angen dweud os, yn ystod wythnos gymhwyso 19 a 25 Medi 2022, roeddech:

  • yn yr ysbyty yn cael triniaeth am ddim i gleifion mewnol
  • mewn cartref gofal preswyl neu ‘Ilford Park Resettlement Home’
  • yn y carchar

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad

Gallwch herio penderfyniad am eich cais. Gelwir hyn yn gofyn am ailystyriaeth orfodol.

7. Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau neu ganslo eich taliad

Cysylltwch â’r Ganolfan Taliad Tanwydd Gaeaf os ydych yn gymwys am Daliad Tanwydd Gaeaf ac rydych:

  • angen rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau
  • angen newid eich cyfeiriad neu fanylion personol
  • eisiau canslo taliadau yn y dyfodol
  • eisiau dychwelyd taliad

Rhowch wybod am unrhyw newid mewn amgylchiadau cyn gynted ag y bo modd - er enghraifft, os byddwch yn stopio cael budd-dal, symud tŷ neu fynd i mewn i gartref gofal. Gall y rhain effeithio faint o Daliad Tanwydd Gaeaf rydych yn ei gael.

Os byddwch yn canslo eich taliadau, gallwch newid hyn ar unrhyw adeg.

Cysylltu â’r Ganolfan Taliad Tanwydd Gaeaf

Pan fyddwch yn cysylltu â’r ganolfan daliadau, byddwch angen dweud wrthynt eich manylion personol fel:

Gallwch unai ffonio’r llinell gymorth neu anfon llythyr trwy’r post..

Os ydych yn y DU

Ffôn: 0800 731 0160
Ffôn testun: cysylltwch â Relay UK ar 18001 ac yna 0800 731 0464
Gwasanaeth video relay Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Winter Fuel Payment Centre 
Mail Handling Site A 
Wolverhampton 
WV98 1LR

Os ydych y tu allan i’r DU

Ffôn: +44 (0)191 218 7777
Ffôn testun: cysylltwch â Relay UK ar +44 (0)151 494 2022 ac yna 0800 731 0160
Gwasanaeth video relay Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Winter Fuel Payment Centre 
Mail Handling Site A 
Wolverhampton 
WV98 1ZU 
UK

Os ydych wedi cael eich gordalu

Efallai y bydd rhaid i chi ad-dalu’r arian os:

  • na wnaethoch ddweud wrthym am newid ar unwaith
  • rydych wedi rhoi gwybodaeth anghywir
  • cawsoch eich gordalu mewn camgymeriad

Darganfyddwch sut i ad-dalu’r arian sy’n ddyledus gennych o ordaliad budd-dal.