Tâl ac Absenoldeb Mabwysiadu Statudol: arweiniad i gyflogwyr

Printable version

1. Hawl

Pan fo cyflogai’n cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith er mwyn mabwysiadu plentyn neu i gael plentyn drwy drefniant mam fenthyg, mae’n bosibl bod ganddo hawl i Dâl ac Absenoldeb Mabwysiadu Statudol.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Absenoldeb Mabwysiadu Statudol

Gall cyflogeion cymryd hyd at 52 wythnos o Absenoldeb Mabwysiadu Statudol. Gelwir y 26 wythnos gyntaf yn ‘Absenoldeb Mabwysiadu Cyffredin’, a’r 26 olaf fel ‘Absenoldeb Mabwysiadu Ychwanegol’.

Gall absenoldeb ddechrau:

  • ar y dyddiad mae’r plentyn yn dechrau byw gyda’r cyflogai neu hyd at 14 diwrnod cyn y dyddiad lleoli disgwyliedig (mabwysiadu yn y DU)
  • pan fo cyflogai wedi’i baru â phlentyn i’w leoli â hwy gan asiantaeth mabwysiadu yn y DU
  • pan fo plentyn yn cyrraedd y DU neu cyn pen 28 diwrnod o’r dyddiad hwn (mabwysiadu o dramor)
  • y diwrnod y cafodd y plentyn ei eni neu’r diwrnod wedyn (rhieni sydd â threfniadau mam fenthyg)

Tâl Mabwysiadu Statudol

Mae Tâl Mabwysiadu Statudol (SAP) ar gyfer cyflogeion yn:

  • 90% o’i enillion wythnosol cyfartalog gros am y 6 wythnos gyntaf
  • £184.03 yr wythnos neu’n 90% o’i enillion wythnosol cyfartalog gros (pa un bynnag sydd isaf) ar gyfer y 33 wythnos nesaf

Mae angen didynnu treth ac Yswiriant Gwladol.

Cyfrifo absenoldeb a thâl mabwysiadu cyflogai gan ddefnyddio cyfrifiannell mamolaeth a thadolaeth.

Mae gan rai mathau o gyflogaeth, megis gweithwyr asiantaeth, cyfarwyddwyr a gweithwyr addysgol, wahanol reolau o ran hawl.

Absenoldeb neu dâl ychwanegol

Gallwch gynnig mwy na’r symiau statudol os oes gennych gynllun cwmni ar gyfer absenoldeb a thâl mabwysiadu. Mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod polisïau eich cynlluniau yn eglur ac ar gael i staff.

Hawliau cyflogaeth

Diogelir hawliau cyflogaeth cyflogai (fel yr hawl i gyflog, gwyliau a dychwelyd i swydd) yn ystod absenoldeb mabwysiadu. Rydych yn dal i orfod talu Tâl Mabwysiadu Statudol hyd yn oed os ydych yn rhoi’r gorau i fasnachu.

2. Cymhwystra

Bydd rhai cyflogeion ddim yn gymwys am absenoldeb a thâl efo’i gilydd.

Absenoldeb Mabwysiadu Statudol

Mae’n rhaid i gyflogeion:

Nid oes yn rhaid iddynt roi tystiolaeth o’r mabwysiadu neu o’r trefniant â mam fenthyg oni bai eich bod yn gofyn amdano.

Absenoldeb ar gyfer cyflogeion sy’n mabwysiadu plentyn o dramor

Rhaid i gyflogai hefyd lofnodi ffurflen SC6 os yw’n mabwysiadu plentyn o dramor gyda phartner. Mae hyn yn cadarnhau nad yw’n cymryd absenoldeb na thâl tadolaeth.

Tâl Mabwysiadu Statudol

Mae’n rhaid i gyflogeion:

Os yw’ch cyflogai fel arfer yn ennill £123 neu fwy yr wythnos ar gyfartaledd, a gwnaeth ond ennill llai mewn rhai wythnosau oherwydd ei fod yn cael ei dalu ond ddim yn gweithio (‘ar ffyrlo’) o dan y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws), gall fod yn gymwys o hyd.

Defnyddiwch y cyfrifiannell tâl mabwysiadu er mwyn gwirio cymhwystra’r cyflogai ac i gyfrifo’i wythnos paru, cyfnod perthnasol, cyfnod hysbysu a thâl mabwysiadu.

Mae rheolau arbennig ar gyfer rhai sefyllfaoedd, er enghraifft os yw’r cyflogai yn gadael neu’n mynd yn sâl, neu mae ei blentyn yn marw.

Tâl ar gyfer cyflogeion sy’n mabwysiadu plentyn o dramor

Mae’r gofynion yr un peth ar gyfer cyflogeion sy’n mabwysiadu o dramor, ar wahân i fod rhaid iddynt fod wedi’u cyflogi’n barhaus gennych am o leiaf 26 wythnos ar ddechrau’r wythnos pan fydd y tâl yn cychwyn.

Rhaid iddynt hefyd lofnodi ffurflen SC6 os ydynt yn mabwysiadu â phartner. Mae hyn yn cadarnhau nad yw’n cymryd absenoldeb na thâl tadolaeth.

Tâl ar gyfer cyflogeion sydd â threfniadau mam fenthyg

Mae’r gofynion yr un peth ar gyfer cyflogeion sydd â threfniadau mam fenthyg, ar wahân i fod rhaid iddynt fod wedi’u cyflogi’n barhaus gennych am o leiaf 26 wythnos hyd at unrhyw ddiwrnod yn y 15fed wythnos cyn bod y baban i fod i gyrraedd.

Os ydych yn gofyn amdano, mae’n rhaid iddynt hefyd roi tystiolaeth i chi eu bod yn bwriadu dod yn rhiant cyfreithiol y baban.

Pwy sydd ddim yn gallu bod yn gymwys

Ni fydd cyflogeion yn gymwys ar gyfer absenoldeb na thâl mabwysiadu os yw’r canlynol yn wir:

  • mae’n dod yn warcheidwad arbennig neu ofalwr sy’n berthynas
  • mae’n mabwysiadu llysblentyn neu aelod o’r teulu
  • mae’n mabwysiadu’n breifat, er enghraifft heb ganiatâd oddi wrth awdurdod yn y DU neu asiantaeth mabwysiadu

3. Cyfnod rhybudd

Nid oes rhaid i rybudd fod ar bapur oni bai eich bod y gofyn am hynny.

Tâl Mabwysiadu Statudol

Mae’n rhaid i gyflogeion roi 28 diwrnod o rybudd cyn eu bod am gael eu talu Tâl Mabwysiadu Statudol, oni bai bod yr amser rhwng paru’r plentyn a’i leoli yn llai na hynny.

Absenoldeb Mabwysiadu Statudol

Mae’n rhaid i gyflogai roi gwybod y canlynol i chi cyn pen 7 diwrnod o gael ei baru â phlentyn:

  • faint o absenoldeb mae am gael
  • dyddiad dechrau ei absenoldeb mabwysiadu
  • ‘dyddiad y lleoli’ - y dyddiad disgwyliedig neu’r dyddiad gwirioneddol y lleolir y plentyn â hwy

Mae gennych 28 diwrnod i ysgrifennu atynt i gadarnhau dyddiad dechrau a dyddiad dod i ben eu habsenoldeb.

Mae yna wahanol reolau ar gyfer mabwysiadu o dramor a threfniadau â mam fenthyg sydd dramor.

Absenoldeb ar gyfer cyflogeion sy’n mabwysiadu plentyn o dramor

Cyn pen 28 diwrnod ar ôl cael eu ‘hysbysiad swyddogol’, rhaid i gyflogeion sy’n mabwysiadu o dramor roi gwybod i chi ddyddiad yr hysbysiad a phryd y maent yn disgwyl i’r plentyn gyrraedd y DU.

Os ydynt wedi gweithio i chi am lai na 26 wythnos, gallant roi gwybod i chi cyn pen 28 diwrnod o’r dydd Sul yn eu 26ain wythnos yn lle hynny.

Rhaid iddynt roi gwybod y canlynol i chi:

  • y dyddiad mae’r plentyn yn cyrraedd y DU mewn gwirionedd - cyn pen 28 diwrnod o’r dyddiad hwn
  • faint o absenoldeb y maent eisiau a pryd maent am iddo ddechrau - gan roi o leiaf 28 diwrnod o rybudd i chi

Mae gennych 28 diwrnod i ysgrifennu atynt i gadarnhau dyddiad dechrau a dyddiad dod i ben eu habsenoldeb.

Absenoldeb ar gyfer cyflogeion sydd â threfniadau gyda mam fenthyg

O leiaf 15 wythnos cyn y dyddiad disgwyl, mae’n rhaid i cyflogeion sydd â threfniadau mam fenthyg roi gwybod i chi pryd mae’r babi i fod i gael ei eni a phryd y maent eisiau dechrau eu habsenoldeb. Gallwch ofyn i gael hyn yn ysgrifenedig.

Mae gennych 28 diwrnod i ysgrifennu atynt i gadarnhau dyddiad dechrau a dyddiad dod i ben eu habsenoldeb.

Newidiadau i ddyddiadau absenoldeb

Rhaid i cyflogeion roi gwybod i chi am newidiadau i ddyddiadau absenoldeb o leiaf 28 diwrnod cyn eu dyddiad dechrau gwreiddiol neu’r dyddiad dechrau newydd - p’un bynnag sydd gynharaf.

Rhaid i chi ysgrifennu atynt os oes rhaid i chi newid dyddiadau dechrau a dyddiadau dod i ben eu habsenoldeb.

Rhaid i gyflogeion roi 8 wythnos o rybudd os ydynt am newid y dyddiad y maent am ddychwelyd i’r gwaith.

4. Tystiolaeth o fabwysiadu

Mae’n rhaid i gyflogeion roi tystiolaeth i chi o’r mabwysiadu er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Tâl Mabwysiadu Statudol. Nid oes angen tystiolaeth ar gyfer Absenoldeb Mabwysiadu Statudol oni bai eich bod yn gofyn amdano.

Ar gyfer mabwysiadu rhaid i’r dystiolaeth ddangos y canlynol:

  • enw a chyfeiriad yr asiantaeth a’r cyflogai
  • y dyddiad y cafodd y plentyn ei baru, er enghraifft y dystysgrif paru
  • y dyddiad disgwyliedig neu’r dyddiad gwirioneddol y lleolir y plentyn, er enghraifft llythyr gan yr asiantaeth
  • ‘hysbysiad swyddogol’ yr awdurdod DU perthnasol yn cadarnhau bod y rhiant yn cael mabwysiadu (mabwysiadu o dramor yn unig)
  • y dyddiad cyrhaeddodd y plentyn yn y DU, er enghraifft ticed awyren (mabwysiadu o dramor yn unig)

Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion o’r dystiolaeth.

Trefniadau mam fenthyg

Nid oes angen tystiolaeth ar gyfer absenoldeb neu dâl oni bai eich bod yn gofyn amdano.

Os ydych yn gofyn amdano mae’n rhaid i gyflogeion roi datganiad ysgrifenedig i chi (‘datganiad statudol’) er mwyn cadarnhau’r canlynol:

  • eu bod yn bwriadu gwneud cais am orchymyn rhieni yn ystod y 6 mis ar ôl enedigaeth y baban
  • maent yn disgwyl i’r gorchymyn cael ei roi (er enghraifft oherwydd nid oes ganddynt unrhyw euogfarnau yn eu herbyn yn ymwneud â phlant, ac mae’r fam fiolegol neu’r tad biolegol yn cytuno i’r trefniant)

5. Gwrthod tâl neu absenoldeb

Absenoldeb Mabwysiadu Statudol

Ni allwch wrthod absenoldeb mabwysiadu na newid swm yr absenoldeb mae cyflogai am ei gymryd.

Ar gyfer mabwysiadu gallwch ohirio’r dyddiad dechrau os nad oes gan y cyflogai esgus rhesymol dros roi’r swm anghywir o rybudd i chi. I’w ohirio, ysgrifennwch ato cyn pen 28 diwrnod o’i gais am absenoldeb.

Tâl Mabwysiadu Statudol

Gallwch wrthod Tâl Mabwysiadu Statudol os nad yw’r cyflogai’n gymwys.

I’w wrthod, rhowch ffurflen SAP1 i’r cyflogai cyn pen 7 diwrnod ar ôl eich penderfyniad. Rhaid iddynt gael y ffurflen hon cyn pen 28 diwrnod ar ôl eu cais am Dâl Mabwysiadu Statudol neu’r dyddiad y cawsant eu paru â’r plentyn (p’un bynnag sydd gynharaf).

6. Cadw cofnodion

Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion ar gyfer Cyllid a Thollau EM (CThEM), gan gynnwys:

Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion am 3 blynedd o ddiwedd y flwyddyn dreth y maent yn berthnasol iddi (er enghraifft drwy ddefnyddio ffurflen SAP2 neu drwy gadw cofnodion eich hun).

7. Help gyda thâl statudol

I gael help ariannol gyda thâl statudol, gallwch:

  • adhawlio taliadau (fel arfer 92%)
  • gwneud cais am daliad ymlaen llaw os na allwch fforddio taliadau