Tâl ac absenoldeb mabwysiadu

Printable version

1. Trosolwg

Pan fyddwch yn cymryd amser i ffwrdd i fabwysiadu plentyn neu gael plentyn drwy drefniant benthyg croth, mae’n bosibl y byddwch yn gymwys ar gyfer y canlynol:

  • Absenoldeb Mabwysiadu Statudol
  • Tâl Mabwysiadu Statudol

Mae rheolau ar pryd a sut i hawlio eich absenoldeb â thâl ac os ydych am newid eich dyddiadau.

Mae’n bosibl y byddwch hefyd yn gymwys i gymryd Absenoldeb a thâl ar y cyd i rieni.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Eich hawliau cyflogaeth tra rydych ar absenoldeb

Mae eich hawliau cyflogaeth yn cael eu diogelu tra ar Absenoldeb Mabwysiadu Statudol. Mae hyn yn cynnwys eich hawl i’r canlynol:

  • codiadau cyflog
  • cronni gwyliau
  • dychwelyd i’r gwaith

2. Absenoldeb

Mae Absenoldeb Mabwysiadu Statudol yn 52 wythnos. Mae’n cynnwys y canlynol:

  • 26 wythnos o Absenoldeb Mabwysiadu Cyffredin
  • 26 wythnos o Absenoldeb Mabwysiadu Ychwanegol

Dim ond 1 person mewn cwpl all gymryd absenoldeb mabwysiadu. Gallai’r partner arall gael absenoldeb tadolaeth yn lle hynny.

Os cewch absenoldeb mabwysiadu, gallwch hefyd gael amser i ffwrdd o’r gwaith â thâl i fynychu 5 apwyntiad mabwysiadu ar ôl i chi gael eich paru â phlentyn.

Defnyddio’r cynllunydd i weithio allan y dyddiadau ar gyfer eich absenoldeb mabwysiadu.

Dyddiad dechrau

Gall absenoldeb mabwysiadu ddechrau:

  • hyd at 14 diwrnod cyn y dyddiad y mae’r plentyn yn dechrau byw gyda chi (mabwysiadu yn y DU)
  • pan fydd y plentyn yn cyrraedd y DU neu o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad hwn (mabwysiadu tramor)
  • y diwrnod y mae’r plentyn wedi’i eni neu’r diwrnod wedyn (os ydych wedi defnyddio mam fenthyg i gael plentyn)

Newid eich dyddiad

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’ch cyflogwr o fewn 28 diwrnod os bydd dyddiad y lleoliad (neu ddyddiad cyrraedd y DU ar gyfer mabwysiadu dramor) yn newid.

Mae’n rhaid i chi roi o leiaf 8 wythnos o rybudd i’ch cyflogwr os ydych am newid eich dyddiad dychwelyd i’r gwaith.

3. Tâl

Telir Tâl Mabwysiadu Statudol am hyd at 39 wythnos. Y cyfanswm wythnosol yw’r canlynol:

  • 90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog am y 6 wythnos gyntaf
  • £184.03 neu 90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog (pa un bynnag sy’n is) am y 33 wythnos nesaf

Mae’n cael ei dalu yn yr un modd â’ch cyflogau (er enghraifft yn fisol neu’n wythnosol). Bydd Treth ac Yswiriant Gwladol yn cael eu didynnu.

Tâl ychwanegol

Mae’n bosibl y cewch fwy o dâl os oes gan eich cyflogwr gynllun tâl mabwysiadu cwmni. Ni all eich cyflogwr gynnig llai na’r swm statudol i chi.

Dyddiad dechrau

Mae Tâl Mabwysiadu Statudol yn dechrau pan fyddwch yn cymryd eich absenoldeb mabwysiadu.

Problemau ac anghydfodau

Os ydych yn anghytuno â swm y Tâl Mabwysiadu Statudol a gewch neu os na all eich cyflogwr ei dalu, er enghraifft am ei fod yn fethdalwr, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM.

4. Cymhwystra

Mae rheolau cymhwystra gwahanol ar gyfer absenoldeb a thâl.

Absenoldeb mabwysiadu

I gael Absenoldeb Mabwysiadu Statudol, mae’n rhaid i chi hefyd:

Absenoldeb os ydych yn mabwysiadu plentyn o dramor

Mae’n rhaid i chi hefyd lofnodi ffurflen SC6 os ydych yn mabwysiadu o dramor gyda phartner. Mae hyn yn cadarnhau nad ydych yn cymryd absenoldeb tadolaeth na thâl tadolaeth.

Tâl mabwysiadu

I gael Tâl Mabwysiadu Statudol, mae’n rhaid i’r canlynol bod yn berthnasol i chi:

Os ydych fel arfer yn ennill £123 neu fwy yr wythnos ar gyfartaledd, a gwnaethoch ond ennill llai mewn rhai wythnosau oherwydd cawsoch eich talu ond nad oeddech yn gweithio (‘ar ffyrlo’) o dan y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws, gallech fod yn gymwys o hyd.

Talu os ydych yn mabwysiadu plentyn o dramor

Mae’r gofynion yr un fath os ydych yn mabwysiadu o dramor, ac eithrio bod yn rhaid i chi fod wedi cael eich cyflogi’n barhaus gan eich cyflogwr am o leiaf 26 wythnos pan fyddwch yn dechrau cael tâl mabwysiadu.

Mae’n rhaid i chi hefyd lofnodi ffurflen SC6 os ydych yn mabwysiadu o dramor gyda phartner. Mae hyn yn cadarnhau nad ydych yn cymryd absenoldeb tadolaeth na thâl tadolaeth.

Talu os ydych mewn trefniant mam fenthyg

Mae’r gofynion yr un fath os ydych mewn trefniant benthyg croth, ac eithrio mae’n rhaid eich bod wedi cael eich cyflogi’n barhaus gan eich cyflogwr am o leiaf 26 wythnos erbyn y 15fed wythnos cyn disgwyl y babi.

Mae’n rhaid i’r canlynol hefyd fod yn berthnasol i chi:

  • yn bwriadu gwneud cais am orchymyn rhiant
  • disgwyl i’r gorchymyn gael ei roi (er enghraifft am nad oes gennych unrhyw euogfarnau yn ymwneud â phlant, a bod y fam neu’r tad biolegol yn cytuno i’r trefniant)

Os ydych yn gysylltiedig yn enetig â’r plentyn (y rhoddwr wy neu’r rhoddwr sberm), gallwch ddewis cael absenoldeb tadolaeth a thâl tadolaeth yn lle hynny. Ni allwch gael y ddau.

Rydych yn maethu ar gyfer mabwysiadu

Os ydych yn gymwys i gael tâl mabwysiadu ac absenoldeb mabwysiadu, byddwch yn eu cael o’r adeg y daw’r plentyn i fyw gyda chi.

Eithriadau

Nid ydych yn gymwys i gael Absenoldeb Mabwysiadu Statudol neu Dâl Mabwysiadu Statudol os ydych yn gwneud y canlynol:

  • trefnu mabwysiadu preifat
  • dod yn warcheidwad arbennig neu’n gofalwr sy’n berthynas
  • mabwysiadu llysblentyn
  • mabwysiadu aelod o’r teulu

Os nad ydych yn gymwys

Mae’n rhaid i’ch cyflogwr roi ffurflen SAP1 i chi yn esbonio pam na allwch gael Tâl Mabwysiadu Statudol.

Mae’n bosibl y cewch gymorth gan eich cyngor lleol yn lle hynny, os ydych yn mabwysiadu plentyn.

5. Sut i hawlio

Mae’r rheolau ychydig yn wahanol os ydych yn mabwysiadu o dramor neu os ydych yn cael plentyn drwy drefniant benthyg croth.

Absenoldeb Mabwysiadu Statudol

O fewn 7 diwrnod i gael eich paru â phlentyn, mae’n rhaid i chi roi gwybod i’ch cyflogwr ynghylch y canlynol:

  • faint o absenoldeb rydych eisiau
  • dyddiad dechrau’ch absenoldeb
  • ‘dyddiad lleoli’ - y dyddiad y lleolir y plentyn gyda chi

Gall eich cyflogwr ofyn am hyn yn ysgrifenedig ac am brawf o’r mabwysiadu.

Mae’n rhaid i’ch cyflogwr gadarnhau dyddiadau dechrau a dod i ben eich absenoldeb o fewn 28 diwrnod.

Defnyddiwch y cynllunydd i weithio allan pryd y mae’n rhaid i chi hawlio’ch absenoldeb mabwysiadu.

Tâl Mabwysiadu Statudol

Rhowch wybod i’ch cyflogwr eich bod am roi’r gorau i weithio i fabwysiadu plentyn a phryd rydych am i’ch Tâl Mabwysiadu Statudol ddechrau. Mae’n rhaid i chi roi o leiaf 28 diwrnod o rybudd iddynt. Gallant ofyn am hyn yn ysgrifenedig ac am brawf o’r mabwysiadu.

Mae’n rhaid i’ch cyflogwr gadarnhau o fewn 28 diwrnod faint o Dâl Mabwysiadu Statudol a gewch a phryd y bydd yn dechrau ac yn stopio.

Os byddant yn penderfynu nad ydych yn gymwys, mae’n rhaid iddynt roi ffurflen SAP1 i chi o fewn 7 diwrnod i wneud eu penderfyniad ac egluro pam.

Tystiolaeth o fabwysiadu

Mae’n rhaid i chi roi prawf mabwysiadu i’ch cyflogwr i fod yn gymwys ar gyfer Tâl Mabwysiadu Statudol. Nid oes angen prawf ar gyfer Absenoldeb Mabwysiadu Statudol oni bai eu bod yn gofyn amdano.

Mae’n rhaid i’r dystiolaeth ddangos:

  • eich enw a’ch cyfeiriad chi a’r asiantaeth
  • y dyddiad paru - er enghraifft y dystysgrif baru
  • y dyddiad lleoli - er enghraifft llythyr gan yr asiantaeth
  • ‘hysbysiad swyddogol’ awdurdod perthnasol y DU yn cadarnhau eich bod yn cael mabwysiadu (mabwysiadu tramor yn unig)
  • y dyddiad y cyrhaeddodd y plentyn y DU - er enghraifft tocyn awyren (mabwysiadu tramor yn unig)

Mabwysiadu tramor

Rhowch wybod i’ch cyflogwr dyddiad eich ‘hysbysiad swyddogol’ a phryd rydych yn disgwyl i’r plentyn gyrraedd y DU. Fel arfer, mae’n rhaid i chi wneud hyn o fewn 28 diwrnod i gael yr hysbysiad.

Dim ond os ydych wedi gweithio i’ch cyflogwr am lai na 26 wythnos y gallwch gymryd mwy o amser. Rhowch wybod iddynt o fewn 28 diwrnod i’r Sul yn eich 26ain wythnos.

Mae’n rhaid i chi hefyd rhoi gwybod iddynt am y canlynol:

  • y dyddiad gwirioneddol y mae’r plentyn yn cyrraedd y DU - o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad hwn
  • faint o absenoldeb rydych chi ei eisiau a’ch dyddiad dechrau - gan roi 28 diwrnod o rybudd i’ch cyflogwr

Trefniadau benthyg croth

Os ydych yn defnyddio trefniant benthyg croth i gael babi, rhowch wybod i’ch cyflogwr y dyddiad disgwyl a phryd rydych am ddechrau’ch absenoldeb o leiaf 15 wythnos cyn yr wythnos geni ddisgwyliedig. Mae’n bosibl y byddan nhw’n gofyn am hyn yn ysgrifenedig.

Gall eich cyflogwr hefyd ofyn am ddatganiad ysgrifenedig (‘datganiad statudol’) i gadarnhau’ch bod wedi gwneud cais neu y byddwch yn gwneud cais am orchymyn rhiant yn y 6 mis ar ôl genedigaeth y plentyn. Mae’n rhaid i chi lofnodi hyn ym mhresenoldeb gweithiwr cyfreithiol proffesiynol.