Sut mae TAW yn gweithio

Printable version

1. Trosolwg

Mae TAW (Treth ar Werth) yn dreth a ychwanegir at y rhan fwyaf o gynhyrchion a gwasanaethau a werthir gan fusnesau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW.

Mae’n rhaid i fusnesau gofrestru ar gyfer TAW os yw eu trosiant trethadwy TAW yn fwy nag £90,000. Gallant hefyd ddewis cofrestru os yw eu trosiant yn llai nag £90,000.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Eich cyfrifoldebau fel busnes sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW

Fel busnes sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • cynnwys TAW ym mhris yr holl nwyddau a gwasanaethau ar y gyfradd gywir (yn Saesneg)
  • cadw cofnodion o faint o TAW rydych yn ei thalu am bethau rydych yn eu prynu ar gyfer eich busnes
  • rhoi cyfrif am TAW ar unrhyw nwyddau rydych yn eu mewnforio i’r DU
  • rhoi gwybod am faint o TAW y gwnaethoch ei chodi ar eich cwsmeriaid a faint o TAW a dalwyd gennych i fusnesau eraill drwy anfon Ffurflen TAW i Gyllid a Thollau EF (CThEF) - fel arfer bob 3 mis
  • talu unrhyw TAW sydd arnoch i CThEF

Fel arfer, y TAW rydych yn ei thalu yw’r gwahaniaeth rhwng unrhyw TAW rydych wedi’i thalu i fusnesau eraill, a’r TAW rydych wedi’i chodi ar eich cwsmeriaid.

Os ydych wedi codi mwy o TAW nag yr ydych wedi’i thalu, mae’n rhaid i chi dalu’r gwahaniaeth i CThEF.

Os ydych wedi talu mwy o TAW nag yr ydych wedi’i chodi, bydd CThEF fel arfer yn ad-dalu’r gwahaniaeth i chi (yn Saesneg).

Gallwch benodi asiant i ddelio â CThEF ar eich rhan, os yw’n well gennych.

Mae cynlluniau TAW y gallwch ymuno â nhw sy’n effeithio ar sut rydych yn cyfrifo ac yn rhoi gwybod am y TAW sydd arnoch i CThEF.

2. Ar beth mae TAW yn cael ei chodi

Codir TAW ar bethau fel:

  • nwyddau a gwasanaethau (mae gwasanaeth yn unrhyw beth heblaw cyflenwi nwyddau)
  • llogi neu fenthyg nwyddau i rywun
  • gwerthu asedion busnes
  • comisiwn
  • eitemau a werthir i staff - er enghraifft prydau o’r ffreutur
  • nwyddau busnes a ddefnyddir at ddibenion personol
  • ‘diffyg gwerthiant’ fel cyfnewid, rhan-gyfnewid (yn Saesneg) a rhoddion

Gelwir y rhain yn ‘cyflenwadau trethadwy’. Mae rheolau gwahanol ar gyfer elusennau (yn Saesneg).

Nid yw TAW yn cael ei chodi ar nwyddau neu wasanaethau sydd wedi’u heithrio rhag TAW neu nad ydynt yn cael eu heffeithio gan TAW (‘y tu allan i gwmpas’).

3. Faint o TAW y mae’n rhaid i chi ei chodi

Mae 3 gwahanol fath o gyfraddau TAW (yn Saesneg) y gellir eu hychwanegu at gynhyrchion. Mae pa un sy’n berthnasol yn dibynnu ar y nwyddau a’r gwasanaethau, a sut maent yn cael eu defnyddio.

Codir y gyfradd safonol o 20% ar y rhan fwyaf o nwyddau a gwasanaethau. Dylech godi’r gyfradd hon oni bai bod y nwyddau neu’r gwasanaethau’n cael eu hystyried yn rhai ar gyfradd is neu gyfradd sero.

Dewch o hyd i restr o nwyddau a gwasanaethau ar gyfradd is neu gyfradd sero (yn Saesneg).

Mae enghreifftiau o eitemau ar gyfradd sero’n cynnwys:

  • llyfrau a phapurau newydd
  • dillad ac esgidiau i blant
  • helmedau beiciau modur
  • y rhan fwyaf o nwyddau rydych yn eu hallforio o Gymru, Lloegr a’r Alban (Prydain Fawr) i wlad y tu allan i’r DU
  • y rhan fwyaf o nwyddau rydych yn eu hallforio o Ogledd Iwerddon i wlad y tu allan i’r UE a’r DU
  • nwyddau rydych yn eu cyflenwi o Ogledd Iwerddon i fusnes yn yr UE sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW - gallwch wirio a yw’r rhif TAW yn ddilys

4. Trothwyon TAW

Mae angen i chi gofrestru ar gyfer TAW os ydych yn mynd dros y trothwy cofrestru (neu’n disgwyl gwneud hynny).

Mae yna hefyd trothwyon ar gyfer defnyddio rhai cynlluniau cyfrifyddu TAW.

Defnyddiwch eich trosiant trethadwy i gyfrifo a ydych dros drothwy. Dyma gyfanswm gwerth popeth rydych yn ei werthu neu ei gyflenwi nad yw wedi’i eithrio.

Trothwyon cofrestru

Amgylchiadau Trothwy Yr hyn i’w wneud
Cyfanswm trosiant trethadwy Mwy na £90,000 Cofrestru ar gyfer TAW
Dod a nwyddau i mewn i Ogledd Iwerddon o’r UE (‘caffaeliadau’) (yn Saesneg) Mwy nag £90,000 Cofrestru ar gyfer TAW
Gwerthu nwyddau o Ogledd Iwerddon i ddefnyddwyr yn yr UE (‘gwerthu o bell’) Cyfanswm gwerthiannau ledled yr UE dros £8,818 Cofrestru ar gyfer TAW yng ngwledydd yr UE
Wedi cofrestru ar gyfer TAW - trosiant trethadwy Llai na £88,000 Canslo cofrestriad TAW (dewisol)

Mae yna rheolau eraill ynglŷn â rhoi gwybod am TAW os ydych yn gwerthu nwyddau o Ogledd Iwerddon i gwsmeriaid sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW yn yr UE (yn Saesneg).

Trothwyon cynllun cyfrifyddu TAW

Cynllun Trothwy i ymuno â’r cynllun Trothwy i adael y cynllun
Cynllun Cyfradd Unffurf (yn Saesneg) £150,000 neu lai Mwy na £230,000
Cynllun Cyfrifyddu Arian Parod (yn Saesneg) £1.35 miliwn neu lai Mwy nag £1.6 miliwn
Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol (yn Saesneg) £1.35 miliwn neu lai Mwy nag £1.6 miliwn

Mae trothwyon gwahanol ar gyfer cynlluniau eraill fel y cynlluniau manwerthu TAW.

Trothwyon ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol

Gwiriwch wybodaeth hanesyddol am drothwyon TAW (yn Saesneg) os ydych o’r farn y dylech fod wedi’ch cofrestru mewn blynyddoedd treth blaenorol.

5. Cynlluniau TAW

Mae cynlluniau TAW wedi’u cynllunio i symleiddio’r ffordd y mae rhai busnesau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW yn cyfrifo ac yn rhoi cyfrif am TAW i CThEF.

Nid ydynt yn newid swm y TAW y mae busnesau yn ei godi am eu cynnyrch a’u gwasanaethau. Mae’n wirfoddol i ymuno â nhw.

Cynlluniau manwerthu TAW

Gallwch ddefnyddio un o’r 3 chynllun manwerthu TAW (yn Saesneg) os ydych yn fusnes manwerthu ac yn gwerthu i’r cyhoedd swm sylweddol o eitemau gwerth isel neu eitemau swmp bach sydd â rhwymedigaethau TAW gwahanol.

Mae’r cynlluniau’n caniatáu i chi gyfrifo’r TAW unwaith gyda phob Ffurflen TAW yn hytrach na’i chyfrifo ar gyfer pob gwerthiant a wnewch.

Ni allwch ddefnyddio’r cynlluniau manwerthu os ydych yn defnyddio’r Cynllun Cyfradd Unffurf neu gynllun gorswm.

Cynlluniau gorswm TAW

Mae cynllun gorswm TAW (yn Saesneg) yn gadael i chi gyfrifo TAW ar y gwerth rydych yn ei ychwanegu at y nwyddau rydych yn eu gwerthu yn hytrach nag ar bris gwerthu llawn pob eitem.

Mae’r cynllun gorswm TAW yn lleihau’r TAW rydych yn ei thalu os ydych yn gwerthu’r canlynol:

  • nwyddau ail-law
  • gwaith celf
  • hynafolion
  • eitemau prin

Dim ond os nad oeddech yn gallu hawlio unrhyw TAW yn ôl pan brynoch y nwyddau y gallwch ddefnyddio’r cynllun.

Dysgwch ragor am gynlluniau gorswm TAW (yn Saesneg).

Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol TAW

Gallwch ddefnyddio’r Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol TAW (yn Saesneg) os yw’ch trosiant trethadwy TAW blynyddol yn £1.35 miliwn neu lai.

Mae’n gadael i chi gwblhau un Ffurflen TAW bob blwyddyn yn hytrach na 4 (un bob 3 mis).

Rydych yn talu rhandaliadau o’r TAW yr ydych yn disgwyl i fod arnoch, fel na chewch fil TAW mawr ar ddiwedd y flwyddyn.

Gallwch hefyd wneud taliadau ychwanegol tuag at eich bil TAW diwedd blwyddyn.

Cynllun Cyfrifyddu Arian Parod TAW

Gallwch ddefnyddio’r Cynllun Cyfrifyddu Arian Parod TAW (yn Saesneg) os yw’ch trosiant trethadwy TAW blynyddol yn £1.35 miliwn neu lai.

Mae’n golygu eich bod yn talu TAW i CThEF pan fydd eich cwsmer yn eich talu yn hytrach na phan fyddwch yn ei anfonebu.

Dim ond ar ôl i chi dalu’ch cyflenwr y gallwch adennill TAW ar eich pryniannau.

Cynllun Cyfradd Unffurf TAW

Mae’r Cynllun Cyfradd Unffurf TAW (yn Saesneg) yn caniatáu i chi gyfrifo’r hyn sydd arnoch i CThEF mewn TAW fel canran o’ch trosiant gros.

Dim ond os ydych yn fusnes bach gyda throsiant trethadwy blynyddol o £150,000 neu lai heb gynnwys TAW y gallwch ddefnyddio’r cynllun hwn.

Mae swm y TAW rydych yn ei dalu yn dibynnu ar eich diwydiant a’ch math o fusnes.

Os byddwch yn ymuno â’r cynllun hwn, mae’r canlynol yn wir:

  • nid oes rhaid i chi gadw cofnodion manwl o werthiannau ac anfonebau
  • rydych yn talu canran ar gyfradd sefydlog sy’n is na’r gyfradd safonol
  • ni allwch adennill y TAW ar eich pryniannau (ac eithrio asedion cyfalaf penodol dros £2,000)