Gwneud cais am ryddhad treth ar gyfer eich treuliau swydd

Printable version

1. Trosolwg

Mae’n bosibl y gallwch hawlio rhyddhad treth os yw’r canlynol yn wir:

  • rydych yn defnyddio’ch arian eich hunan am bethau y mae’n rhaid i chi eu prynu ar gyfer eich swydd
  • dim ond ar gyfer eich gwaith rydych yn defnyddio’r pethau hyn

Ni allwch hawlio rhyddhad treth os yw’ch cyflogwr yn rhoi un o’r canlynol i chi:

  • yr holl arian yn ôl
  • rhywbeth arall, er enghraifft mae’ch cyflogwr yn rhoi gliniadur i chi ond rydych eisiau math neu fodel gwahanol

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Mae’n rhaid i chi fod wedi talu treth yn ystod y flwyddyn rydych yn hawlio ar ei chyfer Ni all swm y rhyddhad treth y gallwch ei gael fod yn fwy na swm y dreth a dalwyd gennych yn y flwyddyn dreth honno.

Cewch ryddhad treth yn seiliedig ar yr hyn rydych wedi’i wario a’r gyfradd yr ydych yn talu treth arni.

Enghraifft
Os ydych yn hawlio £60 ac yn talu treth ar gyfradd o 20% yn y flwyddyn honno, rydych yn gymwys i gael swm o £12 (20% o £60).

Os ydych yn hawlio ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol, bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) fel arfer yn addasu’ch cod treth fel eich bod yn talu llai o dreth.

Os ydych yn hawlio ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol, bydd CThEF naill ai’n addasu’ch cod treth neu’n rhoi ad-daliad treth i chi.

Sut i hawlio

Mae sut yr ydych yn hawlio yn dibynnu ar yr hyn yr ydych yn ei hawlio. Cael gwybod a ydych yn gymwys i hawlio rhyddhad treth:

Os ydych yn gymwys, byddwch fel arfer yn gallu mynd ar-lein i hawlio rhyddhad treth ar eich treuliau swydd.

Os na allwch hawlio ar-lein, mae ffyrdd eraill o wneud hawliad.

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad, mae’n rhaid i chi hawlio drwy’ch Ffurflen Dreth yn lle.

Os ydych yn amcangyfrif eich treuliau swydd

Erbyn diwedd y flwyddyn dreth, os yw’r swm gwirioneddol a wariwyd gennych yn wahanol i’r swm amcangyfrifedig a wnaethoch ei hawlio, mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF drwy un o’r dulliau canlynol:

  • cyflwyno hawliad newydd ar-lein – mae ffyrdd gwahanol o hawlio ar-lein, a rheiny’n dibynnu ar yr hyn yr ydych yn hawlio rhyddhad treth ar ei gyfer
  • llenwi ffurflen bost
  • ffonio’r llinell gymorth

2. Gweithio gartref

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio rhyddhad treth ar gyfer costau ychwanegol yr aelwyd os ydych yn gweithio gartref am yr wythnos gyfan, neu am ran o’r wythnos.

Pwy all hawlio rhyddhad treth

Gallwch hawlio rhyddhad treth os oes rhaid i chi weithio gartref, er enghraifft oherwydd:

  • bod eich swydd yn gofyn i chi fyw ymhell o’ch swyddfa
  • nad oes gan eich cyflogwr swyddfa

Pwy na all hawlio rhyddhad treth

Ni allwch hawlio rhyddhad treth os ydych yn dewis gweithio gartref. Mae hyn yn cynnwys os yw’r canlynol yn wir:

  • mae eich contract cyflogaeth yn caniatáu i chi weithio gartref ychydig neu’r holl amser
  • rydych yn gweithio gartref oherwydd coronafeirws (COVID-19)
  • mae gan eich cyflogwr swyddfa, ond ni allwch fynd yno weithiau am ei fod yn llawn

Yr hyn y gallwch hawlio ar ei gyfer

Gallwch ond hawlio am bethau sy’n ymwneud â’ch gwaith, megis:

  • galwadau ffôn busnes
  • nwy a thrydan ar gyfer eich man gwaith

Ni allwch hawlio am bethau yr ydych yn eu defnyddio at ddibenion preifat a busnes, megis rhent neu gysylltiad band eang.

Faint y gallwch ei hawlio

Gallwch hawlio rhyddhad treth ar y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • £6 yr wythnos o 6 Ebrill 2020 ymlaen – ni fydd angen i chi gadw tystiolaeth o’ch costau ychwanegol
  • union swm y costau ychwanegol a godwyd arnoch uwchben y swm wythnosol – bydd angen tystiolaeth arnoch, megis derbynebau, biliau neu gontractau

Cewch ryddhad treth yn seiliedig ar y gyfradd yr ydych yn talu treth arni.

Enghraifft

Os ydych yn talu’r gyfradd dreth sylfaenol o 20% ac yn hawlio rhyddhad treth ar £6 yr wythnos, byddech yn cael £1.20 yr wythnos mewn rhyddhad treth (20% o £6).

Fel arfer, byddwch yn cael rhyddhad treth drwy newid i’ch cod treth.

Gallwch hawlio ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol a’r 4 blwyddyn dreth flaenorol.

Sut i hawlio

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud y canlynol:

  • gwirio a allwch hawlio
  • gwneud hawliad, os ydych yn gymwys

Dechrau nawr

3. Gwisgoedd unffurf, dillad ac offer ar gyfer gwaith

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio rhyddhad treth ar gyfer y costau canlynol:

  • atgyweirio mân offer sydd eu hangen arnoch i wneud eich gwaith, neu brynu rhai newydd (er enghraifft, siswrn neu ddril trydanol)
  • glanhau neu atgyweirio dillad arbenigol, neu brynu rhai newydd (er enghraifft, oferfôls neu esgidiau diogelwch)

Hawlio rhyddhad ar gyfer gwisg unffurf neu ddillad arbenigol

Gallwch hawlio rhyddhad treth ar gyfer gwisg unffurf. Gwisg unffurf yw set o ddillad sy’n dangos fod gennych chi swydd benodol, er enghraifft nyrs, neu swyddog heddlu.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu hawlio am ddillad arbenigol sydd eu hangen arnoch ar gyfer gwaith, hyd yn oed os nad ydynt yn dangos fod gennych swydd benodol, er enghraifft oferôls neu esgidiau diogelwch.

Ni allwch hawlio rhyddhad treth ar gyfer:

  • y gost gychwynnol o brynu dillad ar gyfer gwaith
  • glanhau neu atgyweirio dillad gwaith bob dydd, neu brynu rhai newydd (hyd yn oed os oes rhaid i chi wisgo dyluniad neu liw penodol)
  • y gost o olchi eich gwisg unffurf neu ddillad arbenigol eich hun os yw’ch cyflogwr yn darparu gwasanaeth golchi dillad, a’ch bod yn dewis peidio â’i ddefnyddio

Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)

Ni allwch hawlio rhyddhad treth ar gyfer Cyfarpar Diogelu Personol. Os yw’ch swydd yn gofyn i chi ddefnyddio Cyfarpar Diogelu Personol dylai’ch cyflogwr wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • rhoi Cyfarpar Diogelu Personol i chi yn rhad ac am ddim
  • gofyn i chi ei brynu ac ad-dalu’r costau i chi

Faint y gallwch ei hawlio

Gallwch hawlio’r naill neu’r llall o’r canlynol:

  • y swm gwirioneddol a wariwyd gennych – bydd angen i chi gadw derbynebau
  • swm penodedig a gytunwyd arno (‘traul gyfradd unffurf’ neu ‘didyniad cyfradd unffurf’)

Gwiriwch a oes gan eich swydd draul gyfradd unffurf (yn agor tudalen Saesneg) y cytunwyd arni.

Gallwch hawlio ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol a’r 4 blwyddyn dreth flaenorol.

Sut i hawlio

Mae sut yr ydych yn gwneud hawliad yn dibynnu ar yr hyn yr ydych yn ei hawlio, sef y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • y swm gwirioneddol a wariwyd gennych
  • swm penodedig a gytunwyd arno

Er mwyn hawlio’r swm gwirioneddol

Bydd angen i chi wneud hawliad drwy’r post gan ddefnyddio ffurflen P87, a chyflwyno’ch derbynebau gyda’r ffurflen.

Er mwyn hawlio swm penodedig a gytunwyd arno

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud y canlynol:

  • gwirio a allwch hawlio
  • gwneud hawliad os ydych yn gymwys

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad, mae’n rhaid i chi hawlio drwy’ch Ffurflen Dreth yn lle.

Dechrau nawr

4. Cerbydau rydych yn eu defnyddio ar gyfer gwaith

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio rhyddhad treth os ydych yn defnyddio ceir, faniau, beiciau neu feiciau modur ar gyfer gwaith.

Nid yw hyn yn cynnwys teithio i’ch gwaith ac yn ôl, oni bai ei fod yn lleoliad gweithio dros dro.

Mae faint y gallwch ei hawlio yn dibynnu ar p’un a ydych yn defnyddio’r canlynol:

  • cerbyd yr ydych wedi ei brynu neu ei rentu ar brydles gyda’ch arian eich hunan
  • cerbyd y mae’ch cyflogwr yn berchen arno neu’n ei roi ar brydles (cerbyd cwmni)

Gallwch hawlio am y flwyddyn dreth hon a’r 4 blwyddyn dreth flaenorol, os ydych yn gymwys.

Defnyddio’ch cerbyd eich hunan ar gyfer gwaith

Os ydych yn defnyddio’ch cerbyd neu’ch cerbydau eich hunan ar gyfer gwaith, mae’n bosibl y gallwch hawlio rhyddhad treth ar y gyfradd milltiroedd gymeradwy. Mae hyn yn talu’r costau am fod yn berchen ar eich cerbyd, a’i redeg. Ni allwch hawlio ar wahân ar gyfer pethau megis:

  • tanwydd
  • trydan
  • treth cerbyd
  • MOT
  • atgyweiriadau

Er mwyn cyfrifo faint y gallwch ei hawlio ar gyfer pob blwyddyn dreth, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • cadw cofnodion o’r dyddiadau a’r milltiroedd o’ch teithiau gwaith
  • adio’r milltiroedd at ei gilydd ar gyfer pob math o gerbyd yr ydych wedi ei ddefnyddio ar gyfer gwaith
  • didynnu unrhyw swm y mae’ch cyflogwr yn ei dalu tuag at eich costau (a elwir weithiau yn ‘lwfans milltiroedd’)

Cyfraddau milltiroedd cymeradwy

Y 10,000 milltir busnes cyntaf yn y flwyddyn dreth Bob milltir busnes dros 10,000 yn y flwyddyn dreth
Ceir a faniau 45c 25c
Beiciau modur 24c 24c
Beiciau 20c 20c

Defnyddio car cwmni ar gyfer busnes

Gallwch hawlio rhyddhad treth ar yr arian yr ydych wedi ei wario ar danwydd a thrydan ar gyfer teithiau busnes yn eich car cwmni. Cadwch gofnodion i ddangos cost wirioneddol y tanwydd.

Os yw’ch cyflogwr yn ad-dalu peth o’r arian, gallwch hawlio rhyddhad ar y gwahaniaeth.

Sut i hawlio

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud y canlynol:

  • gwirio a allwch hawlio
  • gwneud hawliad os ydych yn gymwys

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad, mae’n rhaid i chi hawlio drwy’ch Ffurflen Dreth yn lle.

Dechrau nawr

5. Ffioedd a thanysgrifiadau proffesiynol

Gallwch hawlio rhyddhad treth ar y canlynol:

Ni allwch hawlio rhyddhad treth ar danysgrifiadau aelodaeth oes, na ffioedd aelodaeth neu danysgrifiadau blynyddol proffesiynol:

  • nad ydych wedi talu amdanynt eich hunan (er enghraifft, os yw’ch cyflogwr wedi eu talu)
  • rydych wedi eu talu i sefydliadau proffesiynol sydd heb eu cymeradwyo gan CThEF

Gall eich sefydliad roi gwybod i chi faint o dreth y caniateir i chi ei hawlio’n ôl.

Gallwch hawlio ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol a’r 4 blwyddyn dreth flaenorol.

Sut i hawlio

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud y canlynol:

  • gwirio a allwch hawlio
  • gwneud hawliad os ydych yn gymwys

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad, mae’n rhaid i chi hawlio drwy’ch Ffurflen Dreth yn lle.

Dechrau nawr

6. Teithio a threuliau dros nos

Os oes rhaid i chi deithio ar gyfer eich gwaith, mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio rhyddhad treth ar y gost neu’r arian rydych wedi’i wario ar fwyd a threuliau dros nos.

Ni allwch hawlio ar gyfer teithio i’ch gwaith ac yn ôl, oni bai eich bod yn teithio i leoliad dros dro ar gyfer gwaith.

Gallwch hawlio rhyddhad treth am arian rydych wedi ei wario ar bethau megis:

  • costau trafnidiaeth gyhoeddus
  • cost gwesty os oes rhaid i chi aros dros nos
  • bwyd a diod
  • tâl atal tagfeydd a thollau
  • ffioedd parcio
  • galwadau ffôn busnes a chostau argraffu

Ar gyfer treuliau gwestai a phrydau, bydd angen i chi anfon derbynebau sy’n dangos dyddiad eich arhosiad ac enw’r gwesty, neu’r hyn y gwnaethoch ei fwyta ac enw’r bwyty.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu hawlio rhyddhad treth ar filltiroedd busnes.

Gallwch hawlio ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol a’r 4 blwyddyn dreth flaenorol.

Sut i hawlio

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud y canlynol:

  • gwirio a allwch hawlio
  • gwneud hawliad os ydych yn gymwys

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad, mae’n rhaid i chi hawlio drwy’ch Ffurflen Dreth yn lle.

Dechrau nawr

7. Prynu offer arall

Yn y rhan fwyaf o achosion gallwch hawlio rhyddhad treth ar gost lawn cyfarpar sylweddol, er enghraifft cyfrifiadur, y mae’n rhaid i chi ei brynu er mwyn gwneud eich gwaith. Mae hyn oherwydd ei fod yn gymwys ar gyfer math o lwfans cyfalaf o’r enw lwfans buddsoddi blynyddol.

Ni allwch hawlio lwfansau cyfalaf ar gyfer ceir, beiciau neu feiciau modur a ddefnyddir gennych ar gyfer gwaith, ond mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio ar gyfer milltiroedd busnes a chostau tanwydd.

Rydych yn hawlio mewn ffordd wahanol ar gyfer eitemau bach a fydd yn para am lai na 2 flynedd, megis gwisgoedd unffurf ac offer.

Gallwch ond hawlio rhyddhad treth ar gyfer treuliau offer os yw’r canlynol yn wir:

  • mae eu hangen arnoch i wneud eich swydd
  • rydych yn defnyddio’r offer ar gyfer gwaith ac nid oes unrhyw ddefnydd preifat sylweddol – mae hyn yn cynnwys defnyddio’r offer yn unol â pholisi’ch sefydliad

Os yw’ch cyflogwr yn rhoi arian i chi am yr eitem

Dylech ostwng y swm yr ydych yn ei hawlio rhyddhad treth arno gan y swm o arian a roddir i chi gan eich cyflogwr.

Gwirio p’un a allwch hawlio