Profi eich bod yn gymwys ar gyfer Budd-dal Plant
Fel arfer gallwch ddefnyddio eich hysbysiad o ddyfarniad Budd-dal Plant i brofi eich bod yn gymwys i gael Budd-dal Plant.
Mae hysbysiad o ddyfarniad Budd-dal Plant wedi disodli rhifau Budd-dal Plant fel y brif ffordd o brofi eich bod yn gymwys. Ni fydd gennych rif Budd-dal Plant os oedd ei hawliad cyntaf ar ôl 23 Chwefror 2021.
Gwiriwch gyda phwy bynnag sy’n gofyn pa dystiolaeth sydd angen arnynt a pa mor ddiweddar sydd raid iddo fod.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Os oes angen tystiolaeth arall arnoch eich bod yn gymwys
Efallai y byddwch yn gallu:
-
defnyddio cyfriflen banc sy’n dangos Budd-daliadau Plant yn mynd i’ch cyfrif
-
defnyddio’r gwasanaeth ar-lein neu ap CThEF i argraffu’ch tudalen ‘tystiolaeth o hawl’ neu ei chadw fel dogfen er mwyn ei defnyddio fel tystiolaeth
Os ydych yn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein
Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn, bydd angen i chi brofi pwy ydych drwy ddefnyddio Porth y Llywodraeth. Byddwch yn gallu cofrestru ar gyfer Porth y Llywodraeth os nad ydych wedi ei ddefnyddio o’r blaen.
Os oes angen help arnoch i gasglu tystiolaeth
I gael rhagor o wybodaeth am sut i gasglu tystiolaeth, gallwch gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.