Pensiwn Newydd y Wladwriaeth

Printable version

1. Cymhwyster

Byddwch yn gallu gwneud cais am Bensiwn Newydd y Wladwriaeth pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth os ydych:

  • yn ddyn a aned ar neu ar ôl 6 Ebrill 1951
  • yn fenyw a aned ar neu ar ôl 6 Ebrill 1953

Os cawsoch eich geni cyn hyn, nid yw’r rheolau hyn yn berthnasol. Yn lle hynny, byddwch yn cael Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol. Efallai y byddwch hefyd yn cael Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English) a ffurf hawdd ei ddarllen.

Eich cofnod Yswiriant Gwladol

Fel arfer byddwch angen 10 o flynyddoedd cymhwyso ar eich cofnod Yswiriant Gwladol i gael unrhyw Bensiwn y Wladwriaeth.

Mae blwyddyn gymhwyso yn un ble roeddech yn:

Efallai y byddwch hefyd yn gymwys os ydych wedi byw neu weithio dramor neu wedi talu cyfraniadau cyfradd is i ferched priod.

Mae nifer y blynyddoedd cymhwyso ar eich cofnod Yswiriant Gwladol yn effeithio ar faint o Bensiwn y Wladwriaeth a gewch. Gwiriwch eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth i weld beth y gallech ei gael.

Pensiwn eich priod neu bartner sifil

Mae eich Pensiwn Newydd y Wladwriaeth fel arfer yn seiliedig ar eich cofnod Yswiriant Gwladol chi. Mewn rhai achosion efallai y byddwch yn etifeddu Pensiwn y Wladwriaeth neu ei gynyddu trwy briod neu bartner sifil.

2. Beth fyddwch yn ei gael

Mae swm eich Pensiwn y Wladwriaeth yn dibynnu ar eich cofnod Yswiriant Gwladol.

Gwiriwch eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth i weld beth y gallech ei gael a phryd. Mae hefyd yn dangos eich cofnod Yswiriant Gwladol.

Cyfradd llawn Pensiwn Newydd y Wladwriaeth yw £221.20 yr wythnos. Gall eich swm fod yn wahanol yn dibynnu ar:

Os ydych yn cael llai na £221.20 yr wythnos

Efallai y byddwch angen mwy o flynyddoedd cymhwyso Yswiriant Gwladol i gynyddu eich Pensiwn y Wladwriaeth.

Os dechreuodd eich cofnod Yswiriant Gwladol cyn Ebrill 2016 

Efallai eich bod wedi cael eich eithrio allan. Tra roeddech wedi eich eithrio allan, roeddech chi neu’ch cyflogwr yn talu mwy i’ch pensiwn gweithle neu bensiwn preifat a llai i mewn i’ch Pensiwn y Wladwriaeth.

Os oeddech wedi eich eithrio allan, fel arfer byddwch angen mwy na 35 o flynyddoedd cymhwyso i gael y gyfradd lawn o Pensiwn newydd y Wladwriaeth.

Os dechreuodd eich cofnod Yswiriant Gwladol ar ôl Ebrill 2016 

Os dechreuodd eich cofnod Yswiriant Gwladol ar ôl Ebrill 2016, byddwch angen 35 o flynyddoedd cymhwyso i gael y gyfradd lawn o Bensiwn newydd y Wladwriaeth.

Os ydych yn cael mwy na £221.20 yr wythnos

Os ydych wedi talu i mewn i’r Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth cyn 2016 ac y byddech wedi cael mwy o Bensiwn y Wladwriaeth o dan yr hen reolau, byddwch yn cael ‘taliad gwarchodedig’. Telir hyn ar ben cyfradd lawn Pensiwn newydd y Wladwriaeth.

Cynnydd blynyddol

Mae Pensiwn newydd y Wladwriaeth yn cynyddu bob blwyddyn gan ba un bynnag yw’r uchaf:

  • enillion – y twf canrannol cyfartalog mewn cyflogau (ym Mhrydain Fawr)
  • prisiau – y twf canrannol mewn prisiau yn y DU a fesurir gan y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI)
  • 2.5%

Os oes gennych daliad gwarchodedig, mae’n cynyddu bob blwyddyn yn unol â’r CPI.

Gwybodaeth bellach

Gallwch ddarllen ‘Eich Pensiwn Newydd y Wladwriaeth wedi’i egluro’ i gael mwy o wybodaeth fanwl am y cynllun Pensiwn newydd y Wladwriaeth.

3. Sut i wneud cais

Ni fyddwch yn cael eich Pensiwn Newydd y Wladwriaeth yn awtomatig – mae’n rhaid i chi wneud cais amdano.

Byddwch angen:

  • dyddiad eich priodas, partneriaeth sifil neu ysgariad diweddaraf
  • dyddiadau unrhyw amser rydych wedi’i dreulio yn byw neu’n gweithio dramor
  • manylion eich banc neu gymdeithas adeiladu

Os ydych yn gwneud cais ar-lein, byddwch hefyd angen y cod gwahoddiad o’r llythyr am gael eich Pensiwn y Wladwriaeth.

Os nad ydych wedi cael llythyr gwahoddiad ond rydych o fewn 3 mis o gyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch wneud cais am god gwahoddiad.

Gwneud cais nawr

Mae sut i wneud cais yn wahanol os byddwch yn gwneud cais o Ogledd Iwerddon neu os ydych yn gwneud cais o dramor, gan gynnwys Ynysoedd y Sianel.

Ffyrdd eraill o wneud cais

Gwneud cais dros y ffôn

Os ydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn y 4 mis nesaf, gallwch ffonio’r Gwasanaeth Pensiwn i wneud cais.

Gwneud cais trwy’r post

Mae angen i chi ffonio’r Gwasanaeth Pensiwn i gael ffurflen gais Pensiwn y Wladwriaeth wedi’i hanfon atoch.

Anfonnwch eich ffurflen wedi’i chwblhau i:

Pension Service 8
Post Handling Site B
Wolverhampton
WV98 1AF

Ar ôl i chi wneud cais

Rhaid i chi roi gwybod i’r Gwasanaeth Pensiwn os yw’ch amgylchiadau’n newid.

Os ydych eisiau parhau i weithio

Gallwch wneud cais am eich Pensiwn Newydd y Wladwriaeth hyd yn oed os ydych yn parhau i weithio. Fodd bynnag, gallwch oedi (gohirio) gwneud cais am eich pensiwn y wladwriaeth er mwyn cynyddu’r swm a gewch.

Gwneud cais am bensiwn Ynys Manaw

Os ydych yn gymwys i gael pensiwn y wladwriaeth o Ynys Manaw, bydd angen i chi wneud cais amdano ar wahân i’ch Pensiwn Newydd y Wladwriaeth o’r DU.

Darganfyddwch os ydych yn gymwys i wneud cais am eich pensiwn Ynys Manaw.

Byddwch yn cael un taliad ar gyfer eich pensiwn yn y DU a thaliad ar wahân ar gyfer eich pensiwn Ynys Manaw.

Ni allwch ohirio pensiwn Ynys Manaw ar ôl 6 Ebrill 2016.

4. Pryd fyddwch yn cael eich talu

Ar ôl i chi wneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth byddwch yn cael llythyr am eich taliadau.

Fel arfer, mae’r Pensiwn newydd y Wladwriaeth yn cael ei dalu i’ch cyfrif bob 4 wythnos. Os ydych eisiau newid y cyfrif, rhowch wybod i’r Gwasanaeth Pensiwn.

Mae rheolau gwahanol os ydych yn byw dramor.

Eich taliad cyntaf

Gofynnir i chi pryd rydych am ddechrau cael eich Pensiwn y Wladwriaeth pan fyddwch yn gwneud cais. Ni fydd eich taliad cyntaf yn hwyrach na 5 wythnos ar ôl y dyddiad y byddwch yn dewis.

Byddwch yn cael taliad llawn bob 4 wythnos ar ôl hynny.

Efallai y byddwch yn cael rhan o daliad cyn eich taliad llawn cyntaf. Bydd y llythyr sy’n cadarnhau eich taliad Pensiwn y Wladwriaeth yn dweud wrthych beth i’w ddisgwyl.

Eich diwrnod talu

Mae’r diwrnod y caiff eich pensiwn ei dalu yn dibynnu ar eich rhif Yswiriant Gwladol.

Efallai y byddwch yn cael eich talu’n gynharach os bydd eich diwrnod talu arferol ar ŵyl y banc.

Y 2 ddigid olaf o’ch rhif Yswiriant Gwladol Diwrnod talu o’r wythnos
00 i 19 Dydd Llun
20 i 39 Dydd Mawrth
40 i 59 Dydd Mercher
60 i 79 Dydd Iau
80 i 99 Dydd Gwener

5. Sut i gynyddu eich incwm mewn ymddeoliad

Gallwch gael cyngor gan ymgynghorydd ariannol annibynnol os ydych eisiau mwy o wybodaeth am gynyddu eich incwm mewn ymddeoliad.

Ychwanegu at eich cofnod Yswiriant Gwladol

Mae pob blwyddyn gymhwyso a ychwanegir at eich cofnod Yswiriant Gwladol ar ôl 6 Ebrill 2016 yn cynyddu swm eich Pensiwn y Wladwriaeth, hyd at y gyfradd lawn (£221.20 yr wythnos).

Dylech gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth neu edrychwch ar eich llythyr dyfarniad Pensiwn y Wladwriaeth i weld beth fyddwch yn ei gael.

Efallai y byddwch yn gallu ychwanegu mwy o flynyddoedd cymhwyso Yswiriant Gwladol drwy:

Mae blynyddoedd lle cawsoch eich eithrio allan yn cyfrif fel blynyddoedd cymwys ac nid ydynt yn fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol.

Pensiynau gweithle neu bensiynau personol

Gallwch dalu i mewn i bensiwn gweithle neu bensiwn personol.

Gweithio ar ôl oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Gallwch barhau i weithio pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Os byddwch yn gwneud hynny, byddwch yn stopio talu Yswiriant Gwladol.

Oedi (gohirio) eich Pensiwn y Wladwriaeth

Bydd eich Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu bob wythnos y byddwch yn oedi (gohirio) gwneud cais amdano, cyn belled â’ch bod yn gohirio am o leiaf 9 wythnos.

Am bob blwyddyn rydych chi’n oedi cyn hawlio, bydd eich taliadau wythnosol yn cynyddu ychydig o dan 5.8%.

Ni allwch gronni’r Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol hwn os ydych yn cael budd-daliadau penodol. Gall gohirio hefyd effeithio ar faint y gallwch ei gael mewn budd-daliadau.[Oedi (gohirio) eich Pensiwn y Wladwriaeth: Sut mae’n gweithio - GOV.UK

Budd-daliadau eraill os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Os ydych ar incwm isel, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am Gredyd Pensiwn, hyd yn oed os ydych wedi cynilo arian ar gyfer ymddeoliad.

Os oes gennych anabledd a bod rhywun yn helpu i ofalu amdanoch chi, efallai y byddwch yn gymwys i gael Lwfans Gweini.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael budd-daliadau a chymorth ariannol eraill.

6. Etifeddu neu gynyddu Pensiwn y Wladwriaeth gan briod neu bartner sifil

Efallai y byddwch yn gallu etifeddu taliad ychwanegol ar ben eich Pensiwn newydd y Wladwriaeth os ydych yn weddw.

Ni fyddwch yn gallu etifeddu unrhyw beth os byddwch yn ailbriodi neu’n ffurfio partneriaeth sifil newydd cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Etifeddu Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth

Efallai y byddwch yn etifeddu rhan o Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth eich partner ymadawedig os dechreuodd eich priodas neu bartneriaeth sifil gyda nhw cyn 6 Ebrill 2016 ac mae un o’r canlynol yn berthnasol:

  • cyrhaeddodd eich partner oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016
  • gwnaethant farw cyn 6 Ebrill 2016 ond byddent wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw

Bydd yn cael ei dalu gyda’ch Pensiwn y Wladwriaeth.

Etifeddu taliad a ddiogelir

Byddwch yn etifeddu hanner taliad a ddiogelir eich partner os dechreuodd eich priodas neu bartneriaeth sifil gyda nhw cyn 6 Ebrill 2016 a:

  •  bu iddynt gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016
  • gwnaethant farw ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016

Bydd yn cael ei dalu gyda’ch Pensiwn y Wladwriaeth.

Etifeddu Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol neu gyfandaliad

Efallai y byddwch yn etifeddu rhan o neu holl Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol eich partner neu gyfandaliad os:

  • bu iddynt farw tra roedd eu Pensiwn y Wladwriaeth wedi’i oedi (cyn gwneud cais amdano) neu eu bod wedi dechrau ei hawlio ar ôl gohirio
  • bu iddynt gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016
  • roeddech yn briod neu mewn partneriaeth sifil pan fu iddynt farw

Cofnod Yswiriant Gwladol eich partner a’ch Pensiwn y Wladwriaeth

Mae Pensiwn newydd y Wladwriaeth yn seiliedig ar eich cofnod Yswiriant Gwladol chi.

Os gwnaethoch dalu cyfraniadau cyfradd is i ferched priod, efallai y byddwch yn gallu cynyddu eich Pensiwn Newydd y Wladwriaeth os ydych yn gymwys.

Os byddwch yn ysgaru neu ddiddymu eich partneriaeth sifil

Gall y llysoedd wneud ‘gorchymyn rhannu pensiwn’ os ydych yn ysgaru neu ddiddymu eich partneriaeth sifil.

Byddwch yn cael taliad ychwanegol ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth os yw eich cyn-bartner yn cael gorchymyn i rannu eu Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth neu daliad a ddiogelir gyda chi

Bydd eich Pensiwn y Wladwriaeth yn cael ei leihau os cewch orchymyn i rannu eich Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth neu daliad a ddiogelir gyda’ch partner.

7. Byw a gweithio dramor

Os ydych yn byw neu weithio mewn gwlad arall, efallai gallech gyfrannu tuag at gynllun Pensiwn y Wladwriaeth y wlad honno.

Os ydych wedi byw neu weithio mewn gwlad arall yn y gorffennol, gallech fod yn gymwys i bensiwn y wladwriaeth y wlad honno a Phensiwn y Wladwriaeth y DU.

I wirio a ydych yn gallu talu i mewn a chael pensiwn y wladwriaeth gan wlad arall, cysylltwch â gwasanaeth pensiwn y wlad honno.

Gwneud cais am bensiwn y wladwriaeth gwlad arall

Yn dibynnu ar ble rydych wedi byw neu weithio, efallai y bydd rhaid i chi wneud mwy nag un cais am bensiwn.

Gwledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE), Gibraltar a’r Swistir

Dim ond o’r wlad ddiwethaf y gwnaethoch fyw neu weithio ynddi y mae angen i chi wneud cais am eich pensiwn y wladwriaeth. Bydd eich cais yn cynnwys pob gwlad yr AEE, Gibraltar a’r Swistir. Nid oes angen i chi wneud cais i bob gwlad ar wahân.

Gwledydd y tu allan i’r AEE (ac eithrio’r Swistir)

Mae angen i chi wneud cais am eich pensiwn o bob gwlad ar wahân.

I ddarganfod sut i wneud cais cysylltwch â gwasanaeth pensiwn y wlad y buoch yn byw neu weithio ynddi.

Eich Pensiwn y Wladwriaeth y DU os ydych wedi byw neu weithio dramor

Bydd eich Pensiwn y Wladwriaeth y DU yn seiliedig ar eich cofnod Yswiriant Gwladol y DU. Rydych angen 10 mlynedd o gyfraniadau Yswiriant Gwladol y DU i fod yn gymwys i Bensiwn newydd y Wladwriaeth.

Efallai y byddwch yn gallu defnyddio’r amser a dreiluwyd dramor i ychwanegu at y 10 mlynedd cymhwyso. Mae hyn yn fwy tebygol os ydych wedi byw neu weithio yn:

Enghraifft

Mae gennych 7 mlynedd cymhwyso o’r DU ar eich cofnod Yswiriant Gwladol pan rydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Rydych wedi bod yn gweithio mewn gwlad AEE am 16 mlynedd ac wedi talu cyfraniadau i bensiwn y wladwriaeth y wlad honno.

Byddwch yn cwrdd â’r isafswm blynyddoedd cymhwyso i gael Pensiwn newydd y Wladwriaeth oherwydd yr amser y buoch yn gweithio dramor. Bydd eich swm Pensiwn y Wladwriaeth newydd yn seiliedig ar y 7 mlynedd o gyfraniadau Yswiriant Gwladol a wnaethoch yn y DU yn unig.

Rydych eisiau ymddeol tramor

Gallwch wneud cais am Bensiwn newydd y Wladwriaeth tramor yn y rhan fwyaf o wledydd.

Bydd eich Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu bob blwyddyn ond dim ond os ydych yn byw yn: