Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth

Printable version

1. Pwy sy'n cael Pensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth

Mae pawb sy’n gymwys i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth bellach wedi cyrraedd Oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Er mwyn ei gael mae angen i chi gael digon o flynyddoedd cymhwyso Yswiriant Gwladol.

Mae angen i chi hefyd fod naill ai:

  • yn ddyn a anwyd cyn 6 Ebrill 1951
  • yn fenyw a anwyd cyn 6 Ebrill 1953

Os cawsoch eich geni ar y dyddiadau hyn neu ar ôl y dyddiadau hyn, bydd rhaid i chi wneud cais am Bensiwn newydd y Wladwriaeth yn lle hynny.

Byddwch eisoes wedi gwneud cais am eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth oni bai eich bod wedi oedi (gohirio) eich Pensiwn y Wladwriaeth.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Eich blynyddoedd cymhwyso Yswiriant Gwladol

Blwyddyn gymhwyso Yswiriant Gwladol yw blwyddyn pan wnaethoch un neu fwy o’r canlynol:

Nifer y blynyddoedd cymhwyso sydd eu hangen arnoch

Mae nifer y blynyddoedd cymhwyso Yswiriant Gwladol sydd eu hangen arnoch i gael unrhyw Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Os ydych yn ddyn mae angen y canlynol arnoch fel arfer:

1 flwyddyn gymhwyso os cawsoch eich geni rhwng 1945 a 1951 11 o flynyddoedd cymhwyso os cawsoch eich geni cyn 1945

Os ydych yn fenyw mae angen y canlynol arnoch fel arfer:

  • 1 flwyddyn gymhwyso os cawsoch eich geni rhwng 1950 a 1953
  • 10 mlynedd gymhwyso os cawsoch eich geni cyn 1950

Efallai y byddwch yn dal yn gymwys os oes gennych lai o flynyddoedd cymhwyso. I wirio, cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn neu’r Ganolfan Bensiwn Ryngwladol os ydych yn byw dramor.

Mae nifer y blynyddoedd cymhwyso o gyfraniadau Yswiriant Gwladol sydd gennych yn effeithio ar swm Pensiwn y Wladwriaeth y byddwch yn ei gael.

Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil

Efallai y gallwch gynyddu neu etifeddu Pensiwn y Wladwriaeth os oes gennych gymar neu bartner sifil.

Efallai y gallwch gynyddu eich Pensiwn y Wladwriaeth os naill ai:

  • nad ydych yn gymwys am Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth
  • mae eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn llai na £101.55 yr wythnos

Efallai y gallwch etifeddu Pensiwn y Wladwriaeth gan eich priod neu bartner sifil os naill ai:

  • nad ydych yn gymwys am Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth
  • mae eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn llai na £169.50 yr wythnos

Os ydych yn drawsryweddol

Efallai effeithir ar eich Pensiwn y Wladwriaeth os ydych yn berson trawsryweddol ac rydych:

  • wedi cael eich geni rhwng 24 Rhagfyr 1919 a 3 Ebrill 1945

  • wedi gwneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth cyn 4 Ebrill 2005

  • yn gallu darparu tystiolaeth bod eich llawdriniaeth ailbennu rhywedd wedi cymryd lle cyn 4 Ebrill 2005

Darganfyddwch fwy a chysylltwch â’r Tîm Ailbennu Rhywedd (GR).

Nid oes rhaid i chi wneud unrhyw beth os ydych wedi newid eich rhywedd yn gyfreithiol ac wedi dechrau hawlio Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 4 Ebrill 2005 – byddwch eisoes yn hawlio yn seiliedig ar eich rhywedd cyfreithiol.

Os nad ydych yn gymwys i gael Pensiwn y Wladwriaeth

Efallai eich bod yn gymwys ar gyfer Credyd Pensiwn neu budd-daliadau a chymorth ariannol eraill.

2. Faint fyddwch yn ei gael

Mae faint o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a gewch yn dibynnu ar eich cofnod Yswiriant Gwladol.

£169.50 yr wythnos yw’r Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth llawn.

Efallai y bydd rhaid i chi dalu treth ar eich Pensiwn y Wladwriaeth.

Os ydych yn ddyn a anwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 1951 neu’n fenyw a anwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 1953, byddwch yn cael Pensiwn newydd y Wladwriaeth yn lle hynny.

Cymwys ar gyfer y swm llawn

I gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth llawn mae angen nifer penodol o flynyddoedd cymhwyso o Yswiriant Gwladol arnoch.

Os ydych yn ddyn mae angen y canlynol arnoch fel arfer:

  • 30 o flynyddoedd cymhwyso os cawsoch eich geni rhwng 1945 a 1951
  • 44 o flynyddoedd cymhwyso os cawsoch eich geni cyn 1945

Os ydych yn fenyw mae angen y canlynol arnoch chi fel arfer:

  • 30 o flynyddoedd cymhwyso os cawsoch eich geni rhwng 1950 a 1953 -
  • 39 o flynyddoedd cymhwyso os cawsoch eich geni cyn 1950

Os oes gennych lai na’r nifer llawn o flynyddoedd cymhwyso, bydd eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn llai na £169.50 yr wythnos.

Gwiriwch eich cofnod Yswiriant Gwladol i ddarganfod faint o flynyddoedd cymhwyso sydd gennych.

Beth sy’n cyfrif fel blwyddyn gymhwyso Yswiriant Gwladol

Mae blwyddyn gymhwyso yn cyfrif os, yn y flwyddyn honno, mae un neu fwy o’r canlynol yn berthnasol:

Pryd y gallwch gael mwy na Phensiwn sylfaenol y Wladwriaeth llawn

Efallai y cewch fwy os:

Gallwch ohirio hyd yn oed os ydych wedi dechrau cael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth. Mae Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn cynyddu 1% am bob 5 wythnos y byddwch yn gohirio.

Cynnydd blynyddol

Mae Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn cynyddu bob blwyddyn gan b’un bynnag yw’r uchaf o’r canlynol:

  • enillion - y twf canrannol cyfartalog mewn cyflogau (ym Mhrydain Fawr)
  • prisiau - y twf canrannol mewn prisiau yn y DU fel y’i mesurwyd gan y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI)
  • 2.5%

Budd-daliadau eraill y gallech fod yn gymwys i’w cael

Os ydych ar incwm isel, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am Gredyd Pensiwn, hyd yn oed os ydych wedi cynilo arian ar gyfer ymddeoliad.

Os oes gennych anabledd a bod rhywun yn helpu i ofalu amdanoch, efallai y byddwch yn gymwys i gael Lwfans Gweini. Efallai eich bod yn gymwys i gael budd-daliadau eraill a chymorth ariannol.

Mae taliadau Cynnydd Oedolion Dibynnol wedi dod i ben.

3. Pryd fyddwch yn cael eich talu

Mae Pensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth fel arfer yn cael ei dalu pob 4 wythnos i gyfrif o’ch dewis. Os ydych am newid y cyfrif, rhowch wybod i’r Gwasanaeth Pensiwn.

Mae’r diwrnod y telir eich pensiwn yn dibynnu ar eich rhif Yswiriant Gwladol.

2 ddigid olaf eich rhif Yswiriant Gwladol Y diwrnod y caiff eich Pensiwn y Wladwriaeth ei dalu
00 i 19 Dydd Llun
20 i 39 Dydd Mawrth
40 i 59 Dydd Mercher
60 i 79 Dydd Iau
80 i 99 Dydd Gwener

Mae yna reolau gwahanol os ydych yn byw dramor.

Eich taliad cyntaf

Pan fyddwch yn gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth gohiriedig (deferred) gofynnir i chi pryd rydych am iddo ddechrau.

Byddwch yn cael eich taliad cyntaf ar ddiwedd yr wythnos lawn gyntaf rydych am ddechrau cael eich pensiwn.

Os ydych wedi cael eich talu gormod

Efallai bydd angen i chi ad-dalu’r arian os:

  • na wnaethoch roi gwybod am newid yn syth
  • rydych wedi rhoi gwybodaeth anghywir
  • cawsoch eich gordalu ar ddamwain

Darganfyddwch sut i ad-dalu gordaliad

4. Gwneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth gohiriedig

Gallwch wneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth gohiriedig naill ai drwy:

Mae angen i chi wneud cais am Bensiwn newydd y Wladwriaeth yn lle hynny os ydych yn ddyn a anwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 1951 neu’n fenyw a aned ar neu ar ôl 6 Ebrill 1953.

Llinell gais Pensiwn y Wladwriaeth

Rhif ffôn: 0800 731 7936
Ffôn testun: 0800 731 7339
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 731 7936
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Llinell Saesneg: 0800 731 7898
Ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 7:30pm (heblaw gwyliau cyhoeddus)
Darganfyddwch am gostau galwadau

Mae sut i wneud cais yn wahanol os ydych yn gwneud cais o Ogledd Iwerddon

Os ydych am barhau i weithio

Gallwch wneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth hyd yn oed os ydych yn parhau i weithio.

Os yw eich amgylchiadau’n newid

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r Gwasanaeth Pensiwn am newid mewn amgylchiadau, fel os ydych yn symud i gyfeiriad newydd neu’n newid eich manylion banc.

5. Cynyddu neu etifeddu pensiwn y wladwriaeth gan eich priod neu bartner sifil

Efallai y gallwch:

  • gynyddu eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth drwy eich priod neu’ch partner sifil
  • etifeddu peth o Bensiwn y Wladwriaeth eich priod neu’ch partner sifil pan fyddant yn marw

Mae’r swm ychwanegol y byddwch yn ei gael yn seiliedig ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol eich priod neu bartner sifil.

Cynyddu eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth drwy eich priod neu’ch partner sifil

Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil, efallai y gallwch gael hyd at £101.55 yr wythnos os yw naill ai:

  • nid ydych yn cael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth
  • nid ydych yn cael y swm llawn (£101.55 yr wythnos)

Gallwch ond cael cynnydd os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016 a bod eich priod neu’ch partner sifil wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth naill ai:

  • cyn 6 Ebrill 2016, ac maent yn gymwys i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth
  • ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016, ac mae ganddynt un neu fwy o flynyddoedd cymhwyso o gyfraniadau neu gredydau Yswiriant Gwladol cyn 6 Ebrill 2016 (hyd yn oed os nad ydynt yn gymwys ar gyfer y Pensiwn newydd y Wladwriaeth

Efallai y byddwch yn gymwys i gael cynnydd, hyd yn oed os:

  • nad yw eich priod neu bartner sifil wedi gwneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth

-oeddech yn weddw, wedi ysgaru neu wedi diddymu eich partneriaeth sifil yn ystod y 12 mis diwethaf

Cewch unrhyw Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth neu Fudd-dal Ymddeol Graddedig, yn seiliedig ar eich cyfraniadau eich hun, ar ben y cynnydd gan eich priod neu’ch partner sifil.

Os ganwyd eich priod neu’ch partner sifil cyn 6 Ebrill 1950

Gallwch ond gael y cynnydd os ydych yn fenyw sy’n briod ag un ai:

  • dyn
  • menyw a newidiodd ei rhyw yn gyfreithiol o fod yn ddyn i fod yn fenyw yn ystod eich priodas

Sut i wneud cais

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael y cynnydd yn awtomatig os ydynt yn gymwys.

Bydd angen i chi gysylltu â’r Gwasanaeth Pensiwn i gael y cynnydd os ydych yn fenyw briod a:

  • gwnaeth eich priod gais am eu Pensiwn y Wladwriaeth cyn 17 Mawrth 2008
  • gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn eich priod

Bydd angen i chi hefyd gysylltu â’r gwasanaeth Pensiwn os yw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae eich priod neu bartner sifil wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ond heb wneud cais am eu Pensiwn y Wladwriaeth eto
  • roeddech yn weddw, wedi ysgaru neu wedi diddymu eich partneriaeth sifil yn ystod y 12 mis diwethaf

Os nad ydych yn cael y cynnydd ond yn meddwl eich bod yn gymwys, cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn.

Etifeddu rywfaint o Bensiwn y Wladwriaeth o’ch priod neu’ch partner sifil pan fyddant yn marw

Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016, efallai y gallwch etifeddu peth o Bensiwn y Wladwriaeth eich priod neu bartner sifil pan fyddant yn marw.

Cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn i wirio’r hyn y gallwch ei hawlio.

Efallai y gallwch gynyddu eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth drwy ddefnyddio eu blynyddoedd cymhwyso os nad ydych eisoes yn cael y swm llawn o £169.50 yr wythnos.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu etifeddu rhan o Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth neu Fudd-dal Ymddeoliad Graddedig eich priod neu’ch partner sifil.

Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016 mae gwahanol reolau yn berthnasol i chi.

Gallwch wirio pa etifeddiaeth y gallai fod gennych hawl iddo yn seiliedig ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol eich priod neu bartner sifil.

Os gohiriodd eich priod neu’ch partner sifil eu Pensiwn y Wladwriaeth

Os gwnaeth eich priod neu’ch partner sifil ohirio eu Pensiwn y Wladwriaeth a chronni swm ychwanegol, fel rheol gallwch hawlio Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth neu gael cyfandaliad. Mae rhaid i chi beidio â bod wedi ailbriodi na ffurfio partneriaeth sifil newydd.

Os gwnaethant ohirio am lai na 12 mis, dim ond Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth y gallwch ei gael. Ni allwch gael cyfandaliad.

Dim ond ar ôl i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth y gallwch gael Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth.

Ychwanegiad Pensiwn y Wladwriaeth

Os gwnaeth eich priod neu’ch partner sifil ychwanegu at eu Pensiwn y Wladwriaeth (rhwng 12 Hydref 2015 a 5 Ebrill 2017), efallai y gallwch etifeddu rhywfaint neu’r cyfan o’u ychwanegiad.