Hawlio lwfansau cyfalaf

Printable version

1. Trosolwg

Mae lwfansau cyfalaf yn fath o ryddhad treth i fusnesau. Maent yn gadael i chi ddidynnu rywfaint neu’r cyfan o werth eitem oddi wrth eich elw cyn i chi dalu treth.

Gallwch hawlio lwfansau cyfalaf ar gyfer:

  • cyfarpar
  • peiriannau
  • cerbydau busnes, er enghraifft faniau, lorïau neu geir busnes

Gelwir y rhain yn ‘offer a pheiriannau’.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Os ydych yn unig fasnachwr neu’n bartneriaeth, a bod gennych incwm o £150,000 neu lai y flwyddyn, efallai y bydd modd i chi ddefnyddio system symlach o’r enw’r sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg) yn lle hynny.

Mathau o lwfansau cyfalaf ar gyfer offer a pheiriannau

Gallwch hawlio gwahanol symiau, yn dibynnu ar ba lwfans cyfalaf a ddefnyddiwch.

Y lwfansau cyfalaf (a elwir hefyd yn lwfansau offer a pheiriannau) yw:

Os yw eitem yn gymwys ar gyfer mwy nag un lwfans cyfalaf, gallwch ddewis pa un i’w ddefnyddio.

Cyfrifo gwerth eich eitem

Yn y rhan fwyaf o achosion, y gwerth yw’r hyn a dalwyd gennych am yr eitem. Defnyddiwch y gwerth marchnadol (y swm y byddech yn disgwyl ei werthu amdano) yn lle hynny os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:

  • roeddech yn berchen arno cyn i chi ddechrau ei ddefnyddio yn eich busnes
  • roedd yn rhodd

Costau busnes eraill

Rydych yn hawlio cost pethau nad ydynt yn asedion busnes mewn ffordd wahanol. Mae hyn yn cynnwys:

  • costau rhedeg eich busnes o ddydd i ddydd
  • eitemau rydych yn eu prynu a’u gwerthu fel rhan o’ch masnach
  • taliadau llog neu gostau cyllid am brynu asedion

Hawliwch y costau hyn fel treuliau busnes (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn unig fasnachwr neu’n bartneriaeth, neu didynnwch y costau oddi wrth eich elw fel cost busnes os ydych yn gwmni cyfyngedig.

Lwfansau cyfalaf eraill

Yn ogystal ag offer a pheiriannau, gallwch hefyd hawlio lwfansau cyfalaf am:

Os ydych yn rhoi eiddo preswyl ar osod

Dim ond os yw’ch busnes yn gymwys fel busnes llety gwyliau wedi’i ddodrefnu y gallwch gyflwyno hawliad am eitemau i’w defnyddio mewn eiddo preswyl. Ym mhob blwyddyn mae’n rhaid i’r eiddo fod:

  • ar gael i gael ei osod fel llety gwyliau am 210 diwrnod
  • ar osod am 105 diwrnod neu fwy

2. Yr hyn y gallwch ei hawlio

Gallwch hawlio lwfansau cyfalaf ar eitemau rydych yn eu cadw i’w defnyddio yn eich busnes – gelwir y rhain yn ‘offer a pheiriannau’.

Yn y rhan fwyaf o achosion, gallwch ddidynnu costau llawn yr eitemau hyn oddi wrth eich elw cyn treth trwy ddefnyddio lwfans buddsoddi blynyddol (LBB).

Os ydych yn unig fasnachwr neu’n bartneriaeth, a bod gennych incwm o £150,000 neu lai y flwyddyn, efallai y bydd modd i chi ddefnyddio system symlach o’r enw y sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg) yn lle hynny.

Yr hyn nad yw’n cyfrif fel offer a pheiriannau

Ni allwch hawlio lwfansau offer a pheiriannau ar gyfer:

  • pethau rydych yn eu rhentu ar brydles (oni bai bod gennych gontract hurbwrcasu neu brydles ariannu hirdymor) – mae’n rhaid i chi berchen arnynt
  • eitemau sy’n cael eu defnyddio at ddiben adloniant y busnes yn unig, er enghraifft cwch hwylio neu beiriant karaoke
  • tir
  • strwythurau, er enghraifft pontydd, ffyrdd, dociau
  • adeiladau, gan gynnwys drysau, gatiau, caeadau, systemau nwy a dŵr o’r prif gyflenwad

Mae’n bosibl y gallwch hawlio lwfans strwythurau ac adeiladau ar gyfer strwythurau ac adeiladau.

Yr hyn sy’n cyfrif fel offer a pheiriannau

Mae offer a pheiriannau yn cynnwys:

  • eitemau rydych yn eu cadw i’w defnyddio yn eich busnes, gan gynnwys ceir
  • costau dymchwel offer a pheiriannau
  • rhannau o adeilad a ystyrir yn rhannau annatod, a elwir yn ‘nodweddion hanfodol’
  • rhai darnau gosod, er enghraifft ceginau neu ystafelloedd ymolchi wedi’u gosod
  • addasiadau i adeilad er mwyn gosod offer a pheiriannau – nid yw hyn yn cynnwys atgyweiriadau

Hawlio atgyweiriadau fel treuliau busnes (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn unig fasnachwr neu’n bartneriaeth – didynnwch oddi wrth eich elw fel cost busnes os ydych yn gwmni cyfyngedig.

Nodweddion hanfodol

Nodweddion hanfodol yw:

  • lifftiau, grisiau symudol a llwybrau symudol
  • systemau gwresogi gofod a dŵr
  • systemau aerdymheru ac oeri’r aer
  • systemau dŵr poeth ac oer (ond nid cyfleusterau toiled a chegin)
  • systemau trydanol, gan gynnwys systemau goleuo
  • cysgod solar allanol

Darnau gosod

Gallwch hawlio am ddarnau gosod, er enghraifft:

  • ceginau gosod
  • switiau ystafelloedd ymolchi
  • systemau larwm tân a theledu cylch cyfyng

Gallwch hawlio os ydych yn rhentu neu’n berchen ar yr adeilad, ond dim ond y person a brynodd yr eitem a all hawlio.

Pan fyddwch yn prynu adeilad oddi wrth berchennog blaenorol busnes, gallwch ond hawlio am nodweddion hanfodol a darnau gosod y gwnaeth y perchennog blaenorol hawlio amdanynt.

Mae’n rhaid i chi gytuno ar werth y darnau gosod (yn agor tudalen Saesneg) gyda’r gwerthwr. Os na wnewch hynny, ni allwch hawlio amdanynt. Mae cytuno ar y gwerth hefyd yn golygu y gall y person sy’n gwerthu’r asedion (yn agor tudalen Saesneg) roi cyfrif cywir amdanynt.

Os ydych yn rhoi eiddo preswyl ar osod

Dim ond os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol y gallwch hawlio am eitemau sydd i’w defnyddio mewn eiddo preswyl:

  • rydych yn rhedeg busnes llety gwyliau wedi’i ddodrefnu
  • mae’r eitem i’w ddefnyddio yn y rhannau cyffredin o adeilad preswyl, er enghraifft bwrdd yng nghyntedd bloc o fflatiau

Gweithwyr gofal

Mae rheolau arbennig os ydych yn rhedeg busnes gofal (yn agor tudalen Saesneg).

3. Lwfans buddsoddi blynyddol

Gallwch ddidynnu gwerth llawn eitem sy’n gymwys ar gyfer lwfans buddsoddi blynyddol (LBB) oddi wrth eich elw cyn treth.

Os byddwch yn gwerthu’r eitem (yn agor tudalen Saesneg) ar ôl hawlio LBB, efallai y bydd angen i chi dalu treth.

Yr hyn y gallwch ei hawlio

Gallwch hawlio LBB ar y rhan fwyaf o offer a pheiriannau hyd at swm yr LBB.

Yr hyn na allwch ei hawlio

Ni allwch hawlio LBB ar gyfer y canlynol:

  • ceir busnes

  • eitemau roeddech yn berchen arnynt am reswm arall cyn i chi ddechrau eu defnyddio yn eich busnes

  • eitemau a roddir i chi neu i’ch busnes

Hawliwch lwfansau ar bapur (yn agor tudalen Saesneg) yn lle hynny.

Swm yr LBB

Swm yr LBB yw £1 filiwn.

Newidiadau i’r LBB

Mae swm yr LBB wedi newid sawl gwaith ers mis Ebrill 2008.

Os newidiodd yr LBB yn ystod y cyfnod rydych yn hawlio amdano, mae angen i chi addasu’r swm yr ydych yn ei hawlio (yn agor tudalen Saesneg).

LBB Unig fasnachwyr/Partneriaethau Cwmnïau cyfyngedig
£1 filiwn O 1 Ionawr 2019 O 1 Ionawr 2019
£200,000 1 Ionawr 2016 – 31 Rhagfyr 2018 1 Ionawr 2016 – 31 Rhagfyr 2018
£500,000 6 Ebrill 2014 – 31 Rhagfyr 2015 1 Ebrill 2014 – 31 Rhagfyr 2015
£250,000 1 Ionawr 2013 – 5 Ebrill 2014 1 Ionawr 2013 – 31 Mawrth 2014
£25,000 6 Ebrill 2012 – 31 Rhagfyr 2012 1 Ebrill 2012 – 31 Rhagfyr 2012
£100,000 6 Ebrill 2010 – 5 Ebrill 2012 1 Ebrill 2010 – 31 Mawrth 2012
£50,000 6 Ebrill 2008 – 5 Ebrill 2010 1 Ebrill 2008 – 31 Mawrth 2010

Cewch lwfans newydd ar gyfer pob cyfnod cyfrifyddu.

Os yw’ch cyfnod cyfrifyddu yn fwy neu’n llai na 12 mis

Addaswch eich LBB os yw’ch cyfnod cyfrifyddu yn fwy neu’n llai na 12 mis.

Er enghraifft

Os yw’ch cyfnod cyfrifyddu yn 9 mis, bydd yr LBB yn 9/12 x £1,000,000 = £750,000.

Efallai y bydd angen i chi addasu’r swm rydych yn ei hawlio (yn agor tudalen Saesneg) hefyd os newidiodd yr LBB yn ystod y cyfnod hwnnw.

Mae’r rheolau’n wahanol os yw’ch cyfnod cyfrifyddu yn hirach na 18 mis (yn agor tudalen Saesneg) neu os oes gennych fwlch neu orgyffwrdd rhwng cyfnodau cyfrifyddu.

Pryd y gallwch hawlio

Gallwch ond hawlio LBB yn ystod y cyfnod y gwnaethoch brynu’r eitem.

Y dyddiad y gwnaethoch ei phrynu yw:

  • pan wnaethoch lofnodi’r contract, os yw’r taliad yn ddyledus cyn pen llai na 4 mis

  • pan fydd y taliad yn ddyledus, os yw’n ddyledus fwy na 4 mis yn hwyrach

Os byddwch yn prynu rhywbeth o dan gontract hurbwrcasu, gallwch hawlio am y taliadau nad ydych wedi’u gwneud eto pan fyddwch yn dechrau defnyddio’r eitem. Ni allwch hawlio ar y ffioedd na’r taliadau llog.

Os yw’ch busnes yn cau, ni allwch hawlio LBB am eitemau a brynwyd yn ystod y cyfnod cyfrifyddu terfynol. Yn hytrach, mae angen i chi nodi taliad mantoli neu lwfans mantoli ar eich Ffurflen Dreth ar gyfer y flwyddyn yr ydych yn cau eich busnes. Darllenwch fwy am sut i hawlio lwfansau cyfalaf.

Os nad ydych am hawlio’r gost gyfan

Os nad ydych am hawlio’r gost gyfan, er enghraifft mae gennych chi elw isel, gallwch hawlio:

Eitemau rydych hefyd yn eu defnyddio y tu allan i’ch busnes

Ni allwch hawlio gwerth cyfan yr eitemau rydych hefyd yn eu defnyddio y tu allan i’ch busnes os ydych yn unig fasnachwr neu’n bartneriaeth. Ewch ati i ostwng y lwfansau cyfalaf rydych yn eu hawlio gan faint o ddefnydd rydych yn ei wneud o’r ased y tu allan i’ch busnes.

Er enghraifft

Rydych yn prynu gliniadur am £600. Rydych yn ei ddefnyddio y tu allan i’ch busnes am hanner yr amser. Caiff swm y lwfansau cyfalaf y gallwch ei hawlio ei ostwng 50%.

Os ydych yn gwario mwy na swm yr LBB

Hawliwch lwfansau ar bapur (yn agor tudalen Saesneg) ar unrhyw swm uwchben yr LBB. Os bydd un eitem yn mynd â chi uwchben swm yr LBB, gallwch rannu’r gwerth rhwng y mathau o lwfans.

Partneriaethau cymysg

Dim ond ar gyfer partneriaethau lle mae’r holl aelodau’n unigolion y mae LBB ar gael.

Mwy nag un busnes neu fasnach

Os ydych yn unig fasnachwr neu’n bartneriaeth, a bod gennych fwy nag un busnes neu fasnach, mae pob busnes fel arfer yn cael LBB.

Byddwch ond yn cael un LBB os yw’r busnesau:

  • yn cael eu rheoli gan yr un person

  • ar yr un safle neu’n cynnal gweithgareddau tebyg

Os oes dau neu fwy o gwmnïau cyfyngedig yn cael eu rheoli gan yr un person, dim ond un LBB maent yn ei gael rhyngddynt. Gallant ddewis sut i rannu’r lwfans buddsoddi blynyddol.

Sut i hawlio

Hawliwch ar eich Ffurflen Dreth. Darllenwch fwy am sut i hawlio lwfansau cyfalaf.

4. Lwfansau blwyddyn gyntaf o 100%

Os prynwch ased sy’n gymwys ar gyfer lwfansau blwyddyn gyntaf o 100%, gallwch ddidynnu’r gost gyfan oddi wrth eich elw cyn treth.

Gallwch hawlio lwfansau blwyddyn gyntaf o 100% yn ychwanegol at lwfans buddsoddi blynyddol (LBB), ar yr amod nad ydych yn hawlio’r ddau am yr un gwariant.

Yr hyn sy’n gymwys

Gallwch hawlio ‘lwfansau cyfalaf uwch’ (math o lwfans blwyddyn gyntaf o 100%) am yr offer canlynol, y mae’n rhaid iddynt fod yn newydd a heb eu defnyddio:

  • ceir trydan a cheir heb allyriadau CO2
  • offer a pheiriannau ar gyfer gorsafoedd ail-lenwi â nwy, er enghraifft tanciau storio, pympiau
  • offer ail-lenwi â nwy, bio-nwy a hydrogen
  • cerbydau nwyddau ag allyriadau sero
  • offer ar gyfer pwyntiau gwefru cerbydau trydan
  • offer a pheiriannau i’w defnyddio mewn safle treth arbennig mewn Porthladdoedd Rhydd neu Barthau Buddsoddi yn y DU, os ydych yn gwmni

Fel arfer, ni allwch hawlio ar gyfer eitemau y mae’ch busnes yn eu prynu i’w prydlesu i bobl eraill neu i’w defnyddio o fewn cartref rydych yn ei roi ar osod.

Sut i hawlio

Hawliwch ar eich Ffurflen Dreth.

Os na fyddwch yn hawlio’r holl lwfansau blwyddyn gyntaf o 100% y mae gennych hawl iddynt, gallwch hawlio’r rhan o’r gost nad ydych wedi’i hawlio gan ddefnyddio’r lwfansau ar bapur (yn agor tudalen Saesneg).

5. Yr uwch-ddidyniad a’r lwfans blwyddyn gyntaf ar gyfradd arbennig o 50%

Mae dau fath o lwfans blwyddyn gyntaf dros dro:

  • yr uwch-ddidyniad
  • lwfans blwyddyn gyntaf ar gyfradd arbennig o 50% (a elwir hefyd yn lwfans SR)

Gallwch eu hawlio ill dau yn erbyn costau offer a pheiriannau penodol a brynwch ar gyfer eich busnes o 1 Ebrill 2021 hyd at a chan gynnwys 31 Mawrth 2023.

I hawlio’r naill lwfans neu’r llall, rhaid i’r offer a’r peiriannau fod yn newydd a heb eu defnyddio.

Dim ond cwmnïau sy’n gallu hawlio’r lwfansau hyn.

Yr hyn y gallwch ei gael

Mae’r uwch-ddidyniad yn gadael i chi ddidynnu hyd at 130% o’r gost oddi wrth eich elw cyn treth.

Mae’r lwfans blwyddyn gyntaf ar gyfradd arbennig o 50% yn gadael i chi ddidynnu 50% o’r gost oddi wrth eich elw cyn treth.

Gwirio a allwch hawlio

Gwiriwch a allwch hawlio’r uwch-ddidyniad neu’r lwfans blwyddyn gyntaf ar gyfradd arbennig o 50% (yn agor tudalen Saesneg). Gallwch hefyd ddarganfod sut i hawlio.

6. Ceir busnes

Gallwch hawlio lwfansau cyfalaf ar geir rydych yn eu prynu ac yn eu defnyddio yn eich busnes. Mae hyn yn golygu y gallwch ddidynnu rhan o’r gwerth oddi wrth eich elw cyn i chi dalu treth.

Defnyddiwch lwfansau ar bapur (yn agor tudalen Saesneg) i gyfrifo’r hyn y gallwch ei hawlio.

Mae ffordd wahanol o gyfrifo’r hyn y gallwch ei hawlio os yw’r car yn gymwys ar gyfer y lwfans blwyddyn gyntaf o 100% – er enghraifft, os yw’n gar trydan neu’n gar heb allyriadau CO2.

Nid yw ceir yn gymwys ar gyfer y lwfans buddsoddi blynyddol.

Unig fasnachwyr a phartneriaethau

Gallwch hawlio treuliau milltiroedd symlach (yn agor tudalen Saesneg) ar gerbydau busnes yn lle hynny, os ydych yn un o’r canlynol:

  • unig fasnachwr
  • partneriaeth heb bartneriaid cwmni

Ni allwch hawlio treuliau milltiroedd symlach os ydych eisoes wedi hawlio am y cerbydau mewn ffordd arall.

Cyflogeion

Os ydych yn gyflogai, ni allwch hawlio lwfansau cyfalaf ar gyfer ceir, beiciau modur na beiciau a ddefnyddir gennych ar gyfer y gwaith, ond mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio am filltiroedd busnes a chostau tanwydd.

Yr hyn sy’n cyfrif fel car

At ddiben lwfansau cyfalaf, mae car yn fath o gerbyd:

  • sy’n addas at ddefnydd preifat – mae hyn yn cynnwys cartrefi modur
  • y mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei ddefnyddio’n breifat
  • na chafodd ei adeiladu er mwyn cludo nwyddau

Yr hyn nad yw’n cyfrif fel car

Oherwydd nad ydynt yn cyfrif fel ceir, gallwch hawlio lwfans buddsoddi blynyddol ar y canlynol:

  • beiciau modur – ar wahân i’r rhai a brynwyd cyn 6 Ebrill 2009
  • lorïau, faniau a thryciau

Cyfraddau ar gyfer ceir

Gallwch hawlio un o’r canlynol:

Darllenwch ragor am gronfeydd lwfansau prif gyfradd a chyfradd arbennig (yn agor tudalen Saesneg).

Mae’r gyfradd y gallwch ei hawlio yn dibynnu ar ba bryd y gwnaethoch brynu’r car a’i allyriadau CO2.

Gwiriwch allyriadau CO2 eich car (yn agor tudalen Saesneg).

Mae’r prif gyfraddau a’r cyfraddau arbennig yn gymwys o 1 Ebrill ar gyfer busnesau sy’n talu Treth Gorfforaeth, ac o 6 Ebrill ar gyfer busnesau sy’n talu Treth Incwm. Mae cyfraddau’r lwfansau blwyddyn gyntaf o 100% yn gymwys o 1 Ebrill i bob busnes.

Ceir a brynwyd ers mis Ebrill 2021

Disgrifiad o’r car Yr hyn y gallwch ei hawlio
Newydd a heb ei ddefnyddio, allyriadau CO2 o 0g/km (neu mae’r car yn drydanol) Lwfansau blwyddyn gyntaf o 100%
Car trydan ail law Lwfansau prif gyfradd
Newydd neu ail law, allyriadau CO2 o 50g/km neu lai Lwfansau prif gyfradd
Newydd neu ail law, allyriadau CO2 dros 50g/km Lwfansau cyfradd arbennig

Ceir a brynwyd rhwng mis Ebrill 2018 a mis Ebrill 2021

Disgrifiad o’r car Yr hyn y gallwch ei hawlio
Newydd a heb ei ddefnyddio, allyriadau CO2 o 50g/km neu lai (neu mae’r car yn drydanol) Lwfansau blwyddyn gyntaf o 100%
Car trydan ail law Lwfansau prif gyfradd
Newydd neu ail law, allyriadau CO2 o 110g/km neu lai Lwfansau prif gyfradd
Newydd neu ail law, allyriadau CO2 dros 110g/km Lwfansau cyfradd arbennig

Ceir a brynwyd rhwng mis Ebrill 2015 a mis Ebrill 2018

Disgrifiad o’r car Yr hyn y gallwch ei hawlio
Newydd a heb ei ddefnyddio, allyriadau CO2 o 75g/km neu lai (neu mae’r car yn drydanol) Lwfansau blwyddyn gyntaf o 100%
Car trydan ail law Lwfansau prif gyfradd
Newydd neu ail law, allyriadau CO2 o 130g/km neu lai Lwfansau prif gyfradd
Newydd neu ail law, allyriadau CO2 dros 130g/km Lwfansau cyfradd arbennig

Ceir a brynwyd rhwng mis Ebrill 2013 a mis Ebrill 2015

Disgrifiad o’r car Yr hyn y gallwch ei hawlio
Newydd a heb ei ddefnyddio, allyriadau CO2 o 95g/km neu lai (neu mae’r car yn drydanol) Lwfansau blwyddyn gyntaf o 100%
Car trydan ail law Lwfansau prif gyfradd
Newydd neu ail law, allyriadau CO2 o 130g/km neu lai Lwfansau prif gyfradd
Newydd neu ail law, allyriadau CO2 dros 130g/km Lwfansau cyfradd arbennig

Ceir wedi’u prynu rhwng Ebrill 2009 ac Ebrill 2013

Disgrifiad o’r car Yr hyn y gallwch ei hawlio
Newydd a heb ei ddefnyddio, allyriadau CO2 o 110g/km neu lai (neu mae’r car yn drydanol) Lwfansau blwyddyn gyntaf o 100%
Newydd neu ail law, allyriadau CO2 o 160g/km neu lai Lwfansau prif gyfradd
Car trydan ail law Lwfansau prif gyfradd
Newydd neu ail law, allyriadau CO2 dros 160g/km Lwfansau cyfradd arbennig

Ceir a brynwyd cyn mis Ebrill 2009

Symudwch y balans o unrhyw geir a brynwyd cyn mis Ebrill 2009 i’ch cronfa lwfansau prif gyfradd wrth gyfrifo faint y gallwch ei hawlio.

Os nad oes gan eich car ffigur allyriadau:

  • defnyddiwch y gyfradd arbennig
  • defnyddiwch y brif gyfradd os cafodd ei gofrestru cyn 1 Mawrth 2001

Defnyddio ceir y tu allan i’ch busnes

Os ydych yn unig fasnachwr neu’n bartneriaeth, a’ch bod hefyd yn defnyddio’ch car y tu allan i’ch busnes, cyfrifwch yr hyn y gallwch ei hawlio (yn agor tudalen Saesneg) yn seiliedig ar faint o ddefnydd busnes a wneir ohono.

Os yw’ch busnes yn darparu car ar gyfer cyflogai neu gyfarwyddwr, gallwch hawlio lwfansau cyfalaf ar y gost gyfan. Efallai y bydd angen i chi roi gwybod i CThEF fod y car yn fuddiant cwmni (yn agor tudalen Saesneg) os yw’r unigolyn dan sylw yn ei ddefnyddio’n bersonol.

7. Sut i hawlio

Hawliwch lwfansau cyfalaf ar eich:

Mae’n rhaid i gyflogeion hawlio mewn ffordd wahanol.

Os ydych wedi defnyddio lwfansau ar bapur (yn agor tudalen Saesneg), bydd angen i chi gyfrifo faint y gallwch ei hawlio, yn seiliedig ar y gronfa y mae’ch eitem ynddi.

Caiff y swm y gallwch ei hawlio ei ddidynnu oddi wrth eich elw.

Pryd y gallwch hawlio

Mae’n rhaid i chi hawlio yn ystod y cyfnod cyfrifyddu y gwnaethoch brynu’r eitem os ydych yn dymuno hawlio:

Os nad ydych am hawlio’r gwerth llawn, gallwch hawlio rhan ohono gan ddefnyddio lwfansau ar bapur (yn agor tudalen Saesneg). Gallwch wneud hyn unrhyw bryd, cyn belled â’ch bod yn dal i fod yn berchen ar yr eitem.

Pryd y gwnaethoch ei phrynu

Y dyddiad y gwnaethoch ei phrynu yw:

  • pan wnaethoch lofnodi’r contract, os yw’r taliad yn ddyledus cyn pen llai na 4 mis
  • pan fydd y taliad yn ddyledus, os yw’n ddyledus fwy na 4 mis yn hwyrach

Os byddwch yn prynu rhywbeth o dan gontract hurbwrcasu, gallwch hawlio am y taliadau nad ydych wedi’u gwneud eto pan fyddwch yn dechrau defnyddio’r eitem. Ni allwch hawlio ar y taliadau llog.