Lwfans Gwarcheidwad
Printable version
1. Trosolwg
Gallech gael Lwfans Gwarcheidwad os ydych yn magu plentyn y mae ei rieni wedi marw. Gallech hefyd fod yn gymwys os oes un rhiant sy’n fyw.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Mae’r gyfradd Lwfans Gwarcheidwad yn £21.75 yr wythnos. Rydych yn ei gael ar ben eich Budd-dal Plant ac mae’n rhydd o dreth.
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r Uned Lwfans Gwarcheidwad am newidiadau penodol i’ch amgylchiadau.
2. Yr hyn a gewch
Mae’r gyfradd Lwfans Gwarcheidwad yn:
-
£21.75 yr wythnos fesul plentyn
-
rhydd o dreth
-
cael ei dalu ar ben eich taliadau Budd-dal Plant
Sut caiff yr arian ei dalu
Fel arfer, caiff yr arian ei dalu i mewn i gyfrif banc bob 4 wythnos. Gellir ei dalu’n wythnosol os ydych yn rhiant sengl neu’n cael rhai budd-daliadau eraill, megis Cymhorthdal Incwm.
Gallwch gael yr arian wedi’i dalu i mewn i unrhyw gyfrif, ar wahân i gyfrif Cymdeithas Adeiladu Nationwide yn enw rhywun arall.
Effaith ar fudd-daliadau eraill
Nid yw Lwfans Gwarcheidwad yn cyfrif fel incwm os ydych yn hawlio credydau treth, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith ar sail incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n seiliedig ar incwm.
Ni effeithir ar Lwfans Gwarcheidwad gan y tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel. Os ydych yn penderfynu peidio â chael Budd-dal Plant wedi’i dalu i chi, bydd eich Lwfans Gwarcheidwad yn gallu parhau.
Nid yw’r Lwfans Gwarcheidwad yn cyfrif tuag at y cap ar fudd-daliadau.
Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i gyfrifo pa fudd-daliadau gallwch eu cael.
3. Cymhwystra
Er mwyn cael Lwfans Gwarcheidwad, mae’n rhaid i’r canlynol i gyd fod yn berthnasol:
-
rydych yn magu plentyn rhywun arall
-
mae rhieni’r plentyn wedi marw (gweler yr amodau ar gyfer un rhiant sydd dal yn fyw isod)
-
rydych yn gymwys i gael Budd-dal Plant
Mae’n rhaid i un o’r rhieni hefyd fod naill ai:
-
wedi’i eni yn y DU neu yn un o aelod-wladwriaethau’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu yn y Swistir
-
yn byw yn y DU am o leiaf 52 wythnos yn ystod unrhyw gyfnod o 2 flynedd ers bod yn 16 oed
Os ydych yn mabwysiadu plentyn, efallai y byddwch yn dal i gael Lwfans Gwarcheidwad cyn belled â’ch bod yn ei gael cyn i chi fabwysiadu’r plentyn.
Os oes un rhiant sy’n fyw
Gallech gael Lwfans Gwarcheidwad os yw un o’r canlynol yn wir:
-
nid ydych yn gwybod ble mae’r rhiant sy’n fyw ac rydych wedi gwneud ymdrech deg i gysylltu ag ef neu hi
-
roedd y rhieni wedi ysgaru, neu diddymwyd eu partneriaeth sifil, ac nid yw’r rhiant sy’n fyw yn gwarchod y plentyn nac yn ei gynnal, ac nid oes gorchymyn llys ar waith sy’n datgan y dylai wneud hynny
-
nid oedd y rhieni wedi priodi, mae’r fam wedi marw ac mae’r tad yn anhysbys
-
bydd y rhiant sy’n fyw yn y carchar am o leiaf 2 flynedd o ddyddiad marwolaeth y rhiant arall
-
mae’r rhiant sy’n fyw yn yr ysbyty yn ôl gorchymyn llys
Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i wirio pa fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.
4. Sut i hawlio
Er mwyn osgoi colli arian, hawliwch y Lwfans Gwarcheidwad cyn gynted ag y daw’r plentyn i fyw gyda chi.
-
Llenwch y ffurflen gais (BG1).
-
Anfonwch y ffurflen i Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF ynghyd â thystysgrif geni’r plentyn a thystysgrifau marwolaeth y rhieni (neu dystysgrif os mai un rhiant sydd wedi marw) - anfonwch ddogfennau gwreiddiol.
Dylech hefyd hawlio Budd-dal Plant cyn gynted â phosibl.
Gellir ôl-ddyddio Lwfans Gwarcheidwad hyd at 3 mis.
Gallwch hefyd ffonio Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF a gofyn am becyn hawlio.
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad
Gallwch herio penderfyniad ynghylch eich hawliad. Gelwir hyn yn gofyn am ailystyriaeth orfodol.
5. Newidiadau yn eich amgylchiadau
Os yw’ch amgylchiadau’n newid, gall hyn effeithio ar eich hawl i Lwfans Gwarcheidwad neu gall eich taliadau ddod i ben.
Mae’n rhaid i chi roi gwybod am y newidiadau canlynol ar unwaith:
-
y plentyn yn symud allan i fyw gyda rhywun arall
-
rydych yn mynd dramor, naill ai dros dro (am fwy nag 8 wythnos) neu’n barhaol (am fwy na blwyddyn)
-
y plentyn yn gadael addysg amser llawn neu hyfforddiant cymeradwy
-
eich manylion banc neu’ch manylion cyswllt yn newid
-
rydych yn darganfod ble mae’r rhiant sy’n fyw
-
mae’r rhiant sy’n fyw yn gadael yr ysbyty neu’r carchar (neu fod ei ddedfryd yn cael ei wneud yn fyrrach)
-
y rhiant sy’n fyw yn gwneud taliad tuag at gynnal y plentyn
Gallwch roi gwybod am y newidiadau hyn dros y ffôn neu drwy’r post.