Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)

Printable version

1. Trosolwg

Gallwch wneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd sy’n effeithio ar faint y gallwch weithio.

Mae ESA yn rhoi i chi:

  • arian i helpu â chostau byw os nad ydych yn gallu gweithio
  • cymorth i fynd yn ôl i’r gwaith os ydych yn gallu

Gallwch wneud cais os ydych yn gyflogedig, yn hunangyflogedig neu’n ddi-waith.

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English) ac mewn fformat hawdd i’w ddeall.

2. Cymhwyster

Gallwch wneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd (ESA) os ydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth a bod gennych anabledd neu gyflwr iechyd sy’n effeithio ar faint y gallwch weithio.

Mae angen i chi hefyd fod:

  • wedi gweithio fel cyflogai neu wedi bod yn hunangyflogedig
  • wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol, fel arfer yn ystod y 2 i 3 blynedd ddiwethaf - mae credydau Yswiriant Gwladol hefyd yn cyfrif

Gwiriwch eich cofnod Yswiriant Gwladol am fylchau.

Ni allwch gael ESA Dull Newydd os ydych yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) neu Dâl Salwch Statudol

Hawlio Credyd Cynhwysol ac ESA Dull Newydd

Efallai y byddwch yn gallu cael Credyd Cynhwysol ar yr un pryd neu yn lle ESA Dull Newydd.

Os ydych yn cael y ddau fudd-dal, mae eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei leihau gan y swm a gewch ar gyfer ESA Dull Newydd.

Bydd eich ESA Dull Newydd fel arfer yn cael ei dalu’n fwy rheolaidd na Chredyd Cynhwysol. Byddwch hefyd yn cael credydau Yswiriant Gwladol gwahanol sy’n cyfrif tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth ac yn eich helpu i fod yn gymwys i gael budd-daliadau eraill.

Gwiriwch a ydych yn gymwys ar gyfer Credyd Cynhwysol.

Os yw eich Tâl Salwch Statudol (SSP) i fod i ddod i ben

Gallwch wneud cais am ESA Dull Newydd hyd at 3 mis cyn i’ch SSP ddod i ben. Byddwch yn dechrau cael ESA Dull Newydd cyn gynted ag y bydd eich SSP yn dod i ben.

Os ydych yn gweithio

Gallwch wneud cais p’un a ydych mewn gwaith neu allan o waith. Mae amodau i weithio wrth hawlio ESA.

3. Beth fyddwch yn ei gael

Bydd faint a gewch yn dibynnu ar ba gam y bydd eich cais, yn ogystal â phethau fel eich oedran ac a ydych yn gallu dychwelyd i’r gwaith.

Os byddwch yn cael ESA Dull Newydd byddwch yn cael Credydau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1, a all helpu tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth a rhai budd-daliadau yn y dyfodol.

Beth allai effeithio ar faint fyddwch yn cael eich talu

Os ydych yn cael ESA Dull Newydd

Bydd eich taliadau’n cael eu heffeithio os byddwch yn cael mwy na £85 yr wythnos o bensiwn preifat. Os ydych, bydd hanner eich incwm pensiwn preifat dros £85 yn cael ei dynnu o’ch taliadau ESA bob wythnos.

Er enghraifft, os ydych yn cael £100 yr wythnos o bensiwn preifat, yna bydd £7.50 yn cael ei dynnu o’ch taliad ESA bob wythnos.

Os yw eich incwm pensiwn preifat yn ddigon uchel, ni allech gael unrhyw daliadau ESA. Byddech yn dal i gael credydau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1.

Os ydych yn cael ESA yn seiliedig ar incwm

Ni allwch wneud cais newydd am ESA yn seiliedig ar incwm. Byddwch yn parhau i gael taliadau tra byddwch yn gymwys nes bydd eich cais yn dod i ben.

Gall incwm a chynilion eich cartref sy’n werth £6,000 neu fwy effeithio ar faint y gallwch ei gael.

Tra bod eich cais yn cael ei asesu

Fel rheol, byddwch yn cael y ‘gyfradd asesu’ am 13 wythnos tra bo eich cais yn cael ei asesu.

Bydd hyn:

  • hyd at £71.70 yr wythnos os ydych chi o dan 25 oed
  • hyd at £90.50 yr wythnos os ydych 25 oed neu’n hŷn

Os bydd yn cymryd mwy na 13 wythnos i asesu eich cais, byddwch yn parhau i gael y ‘gyfradd asesu’ nes i chi gael penderfyniad.

Bydd eich ESA yn cael ei ôl-ddyddio os oes unrhyw arian yn ddyledus i chi ar ôl 13 wythnos.

Ar ôl i chi gael eich asesu

Fe’ch rhoddir yn un o 2 grŵp os oes gennych hawl i ESA. Os ydych yn gallu dychwelyd i’r gwaith, cewch eich rhoi yn y grŵp gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith. Fel arall, cewch eich rhoi yn y grŵp cymorth.

Byddwch yn cael:

  • hyd at £90.50 yr wythnos os ydych yn y grŵp gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith
  • hyd at £138.20 yr wythnos os ydych yn y grŵp cymorth

Os ydych yn y grŵp cymorth

Os ydych yn y grŵp cymorth ac ar ESA yn seiliedig ar incwm, mae gennych hawl hefyd i’r premiwm anabledd uwch.

Efallai y byddwch hefyd yn gymwys ar gyfer y premiwn anabledd difrifol.

Darganfyddwch sut i wneud cais am bremiwm anabledd.

Sut a phryd cewch eich talu

Byddwch chi’n cael eich talu ESA bob pythefnos.

Darganfyddwch sut a phryd y telir eich budd-daliadau.

Budd-daliadau eraill y gallwch wneud cais amdanynt

Gallech gael Credyd Cynhwysol ar yr un pryd neu yn lle ESA Dull Newydd. Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol

Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i ddarganfod pa fudd-daliadau eraill y gallech eu cael, er enghraifft Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) os ydych â cyflwr iechyd hir dymor neu anabledd.

Gall y cap ar fudd-daliadau effeithio ar gyfanswm y budd-dal y gallwch ei gael. Ni fydd y cap yn effeithio arnoch os ydych yn y grŵp cymorth.

Os ydych yn symud i Gredyd Cynhwysol o ESA yn seiliedig ar incwm

Os yw’ch cais ESA yn seiliedig ar incwm yn dod i ben oherwydd eich bod yn gwneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol, byddwch yn parhau i gael y swm o ESA rydych yn ei gael ar hyn o bryd yn awtomatig, cyn belled â’ch bod yn parhau i fod yn gymwys. Fel arfer fe gewch hyn am 2 wythnos, gan ddechrau o ddyddiad eich cais newydd.

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn ysgrifennu atoch yn dweud wrthych sut mae hyn yn gweithio.

Nid oes angen i chi dalu’r arian hwn yn ôl, ac ni fydd yn effeithio ar faint o Gredyd Cynhwysol a gewch.

Benthyciadau Trefnu

Gallwch wneud cais am Fenthyciadau Trefnu os ydych wedi bod ar ESA yn seiliedig ar incwm am o leiaf 6 mis.

Cyngor ar arian a dyled

Gallwch gael help a chyngor gan eich anogwr gwaith yn y Ganolfan Byd Gwaith neu:

4. Gweithio tra rydych yn hawlio

Fel arfer, gallwch weithio tra rydych yn hawlio ESA os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn gweithio llai nag 16 awr yr wythnos
  • nid ydych yn ennill mwy na £183.50 yr wythnos

Gallwch wneud cymaint o oriau o waith gwirfoddol ag y dymunwch.

Dywedwch wrth y Ganolfan Byd Gwaith am eich gwaith gan gynnwys unrhyw gwirfoddoli pan fyddwch yn gwneud cais.

Os ydych eisioes yn hawlio ESA a’ch bod am ddechrau gwaith, llenwch ffurflen gwaith a chaniateir ESA.

5. Sut i wneud cais

Gallech gael Credyd Cynhwysol ar yr un pryd neu yn lle ESA Dull Newydd. Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol.

Mae ffordd wahanol i wneud cais yng Ngogledd Iwerddon.

Beth rydych ei angen i wneud cais

Byddwch angen:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • rhif cyfrif a chod didoli eich banc neu gymdeithas adeiladu (gallwch ddefnyddio cyfrif ffrind neu aelod o’r teulu os nad oes gennych un)
  • enw, cyfeiriad a rhif ffôn eich meddyg
  • nodyn ffitrwydd (a elwir weithiau yn ‘nodyn salwch’ neu ‘ddatganiad o ffitrwydd i weithio’), os nad ydych wedi gallu gweithio am fwy na 7 diwrnod yn olynol oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd
  • manylion eich incwm, os ydych yn gweithio
  • y dyddiad y daw eich Tâl Salwch Statudol (SSP) i ben, os ydych yn ei hawlio

Ni allwch gael ESA Dull Newydd os ydych yn cael Tâl Salwch Statudol (SSP) gan gyflogwr. Gallwch wneud cais am ESA Dull Newydd am hyd at 3 mis cyn daw eich SSP i ben.

Unwaith y byddwch wedi gwneud cais, byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn ac yn dweud wrthych pryd i roi’r dystiolaeth a ble i’w hanfon.

Gwneud cais ar lein am ESA

Ni allwch wneud cais ar-lein os ydych yn gwneud cais fel penodai ar ran rhywun arall.

Gwnewch gais nawr

Pryd y gallwch wneud cais dros y ffôn

Ffoniwch linell gymorth ceisiadau newydd y Ganolfan Byd Gwaith os:

  • ni allwch wneud cais ar-lein
  • rydych yn benodai i rywun

Llinell gymorth ceisiadau newydd y Ganolfan Byd Gwaith

Ffôn: 0800 328 1744
Ffôn testun: 0800 328 1344
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 055 6688
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Llinell Saesneg: 0800 055 6688
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Ar ôl i chi wneud cais

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cysylltu â chi o fewn 10 diwrnod gwaith o wneud cais.

Os ydych yn gymwys

Bydd DWP yn cysylltu â chi o fewn 10 diwrnod gwaith i drefnu apwyntiad y mae rhaid i chi ei fynychu. Fel rheol bydd dros y ffôn ag anogwr gwaith o’ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith lleol. Os yw eich apwyntiad wyneb yn wyneb mewn swyddfa Canolfan Byd Gwaith, bydd angen i chi ddod â ID a phrawf o gyfeiriad

Bydd eich anogwr gwaith yn egluro’r hyn sydd angen i chi ei wneud i gael ESA Dull Newydd. Byddant yn creu cytundeb â chi a elwir yn ‘Ymrwymiad Hawlydd’.

Mae rhaid i chi gytuno i’ch Ymrwymiad Hawlydd cyn y gallwch gael ESA Dull newydd

Yn yr apwyntiad, gofynir i chi:

Os yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud wrthych efallai fod gennych 12 mis neu lai i fyw, ni fydd angen i chi fynychu apwyntiad na gwneud Ymrwymiad Hawlydd. Darganfyddwch fwy am gael budd-daliadau os ydych yn nesáu at ddiwedd oes.

Os nad ydych chi’n gymwys

Bydd DWP yn anfon llythyr atoch cyn pen 10 diwrnod gwaith ar ôl gwneud cais i egluro pam nad ydych yn gymwys i gael ESA.

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad

Gallwch herio penderfyniad ynghylch eich cais. Gelwir hyn yn gofyn am ‘ailystyriaeth orfodol’.

Gwneud cais eto am ESA

Ni allwch wneud cais newydd am ESA yn seiliedig ar incwm. Byddwch yn parhau i gael taliadau tra’ch bod yn gymwys nes i’ch cais ddod i ben.

Efallai y gallwch ailymgeisio ar ôl i’ch ESA Dull Newydd ddod i ben. Efallai y byddwch yn gymwys eto yn dibynnu ar:

  • pa gyfraniadau Yswiriant Gwladol gwnaethoch eu talu yn ystod y 2 flynedd dreth lawn ddiwethaf cyn y flwyddyn dreth rydych yn gwneud y cais ynddi
  • p’un a ydych wedi’ch rhoi yn y grŵp cymorth oherwydd i chi ddatblygu cyflwr newydd neu fod eich iechyd wedi dirywio

6. Eich cais ESA

Ar ôl i chi wneud eich cais, dywedir wrthych a oes angen i chi gael ‘Asesiad Gallu i Weithio’ a pha grŵp y byddwch yn cael eich rhoi ynddo.

Asesiad Gallu i Weithio

Defnyddir ‘Asesiad Gallu i Weithio’ i ddarganfod a yw eich salwch neu anabledd yn effeithio ar faint y gallwch weithio.

Efallai na fydd angen un arnoch chi, er enghraifft os ydych yn yr ysbyty neu ydy gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud gall bod gennych 12 mis neu’n llai i fyw.

Os oes angen Asesiad Gallu i Weithio arnoch cewch lythyr yn dweud wrthych i lenwi’r ‘holiadur Gallu i Weithio’ a’i anfon i’r Gwasanaeth Ymgynghorol Asesiad Iechyd. Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen. Mae’r holiadur yn wahanol yn Gogledd Iwerddon.

Cewch wybod beth sy’n digwydd nesaf, er enghraifft os oes angen apwyntiad arnoch i ddeall eich cyflwr iechyd yn well.

Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol ac ESA Dull Newydd, byddwch ond yn cael un Asesiad Gallu i Weithio.

Gallwch ofyn am i’r asesiad gael ei recordio. Os hoffech hynny, dywedwch wrth y Gwasanaeth Ymgynghorol Asesiadau Iechyd gan ddefnyddio’r manylion cyswllt yn eich llythyr gwahoddiad.

Sut mae’r asesiad yn digwydd

Gall asesiadau fod mewn person, ar alwad fideo, neu dros y ffôn. Dywedir wrthych sut y cynhelir eich asesiad.

Gallwch gael rhywun arall gyda chi yn yr asesiad, fel ffrind neu weithiwr cymorth. Os yw eich asesiad dros y ffôn neu drwy alwad fideo, gallwch ofyn i’r asesydd eu ffonio os nad ydynt gyda chi pan fydd yr asesiad yn dechrau.

Byddwch yn aros ar y ‘gyfradd asesu’ hyd nes y gall penderfyniad gael ei wneud ar eich Asesiad Gallu i Weithio.

Ar ôl i’ch cais gael ei asesu

Os oes gennych hawl i ESA byddwch yn cael eich rhoi yn un o 2 grŵp:

  • grŵp gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith (ni allwch weithio nawr, ond gallwch baratoi i weithio yn y dyfodol, er enghraifft trwy ysgrifennu CV)
  • grŵp cymorth (ni allwch weithio nawr ac nid oes disgwyl i chi baratoi ar gyfer gwaith yn y dyfodol)

Byddwch:

  • fel arfer yn y grŵp cymorth os yw eich salwch neu anabledd yn cyfyngu’n ddifrifol ar yr hyn y gallwch ei wneud
  • yn y grŵp cymorth os yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud wrthych efallai fod gennych 12 mis neu lai i fyw

Os ydych yn y grŵp gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith

Mae rhaid i chi fynd i gyfweliadau rheolaidd ag anogwr gwaith. Maent yn gallu eich helpu i wella’ch sgiliau neu ysgrifennu CV i’ch helpu i ddychwelyd i’r gwaith.

Os ydych yn y grŵp cymorth

Nid oes rhaid i chi fynd i gyfweliadau. Gallwch ddweud wrth eich anogwr gwaith os hoffech gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith

Am ba mor hir y cewch ESA

Ni allwch wneud cais newydd am ESA yn seiliedig ar incwm. Byddwch yn parhau i gael taliadau tra’ch bod yn gymwys nes i’ch cais ddod i ben.

‘Mae ESA Dull Newydd ac ESA yn seiliedig ar gyfraniadau yn para am 365 diwrnod os ydych yn y grŵp gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith.

Nid oes terfyn amser os ydych yn y grŵp cymorth, neu os ydych yn cael ESA yn seiliedig ar incwm.

Er mwyn parhau i gael ESA mae rhaid i chi roi gwybod am unrhyw newid yn eich amgylchiadau. Efallai y bydd angen i chi hefyd anfon nodyn ffitrwydd yn rheolaidd.

Os cewch sancsiwn

Gall eich ESA gael ei leihau os na fyddwch yn mynychu cyfweliadau neu’n gwneud gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith fel y cytunir arnynt â’ch anogwr gwaith yn eich ‘Ymrwymiad Hawlydd’. Gall y gostyngiad hwn barhau am hyd at 4 wythnos ar ôl i chi ailgychwyn gweithgareddau cysylltiedig â gwaith.

Byddwch yn cael llythyr i ddweud efallai y cewch eich sancsiynu. Dywedwch wrth eich anogwr gwaith os oes gennych reswm da dros beidio â gwneud yr hyn y cytunwyd arno yn eich Ymrwymiad Hawlydd.

Byddwch yn cael llythyr arall os yw’r penderfyniad yn cael ei wneud i roi sancsiwn arnoch. Dim ond ar ôl i benderfyniad gael ei wneud y bydd yn cael effaith ar eich budd-dal.

Dylech gysylltu â’ch cyngor lleol ar unwaith os ydych yn hawlio Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth Gyngor. Byddant yn dweud wrthych beth i’w wneud i barhau i gael cefnogaeth.

Os cewch sancsiwn gallwch:

Ni chewch sancsiwn os ydych yn y grŵp cymorth

Taliadau caledi

Os ydych yn cael ESA yn seiliedig ar incwm, efallai y gallech gael taliad caledi os yw eich budd-dal wedi cael ei leihau oherwydd sancsiwn neu gosb.

Taliad caledi yw swm gostyngol o’ch ESA. Nid oes rhaid i chi ei ad-dalu.

Gallwch gael taliad caledi os na allwch dalu am rent, gwresogi, bwyd neu anghenion sylfaenol eraill ar eich cyfer chi neu’ch teulu. Mae rhaid i chi fod yn 18 neu drosodd.

Siaradwch â’ch ymgynghorydd Canolfan Byd Gwaith neu anogwr gwaith i ddod o hyd i sut i wneud cais am daliad caledi.

7. Rhoi gwybod am newid i’ch amgylchiadau

Mae’n rhaid i chi roi gwybod am newidiadau i’ch amgylchiadau fel eich bod yn dal i gael y swm cywir o ESA. Gall y swm a gewch fynd i fyny neu i lawr.

Efallai bydd eich budd-dal yn cael ei stopio neu ei gostwng os na fyddwch yn rhoi gwybod am newid ar unwaith.

Efallai bydd hefyd angen i chi roi gwybod am newidiadau i sefydliadau eraill sy’n talu budd-daliadau i chi. Darganfyddwch sut i roi gwybod am newid mewn amgylchiadau am fudd-daliadau eraill.

Beth mae angen rhoi gwybod am

Nid yw’r rhestr hon yn cynnwys pob newid mae angen i chi roi gwybod amdanynt. Ffoniwch y Ganolfan Byd Gwaith os nad ydych yn siŵr a oes angen i chi roi gwybod am newid.

Efallai y cewch eich erlyn neu bydd yn rhaid i chi dalu cosb o £50 os byddwch yn rhoi gwybodaeth anghywir neu anghyflawn.

Newidiadau i fanylion personol

Rhaid i chi roi gwybod os:

  • ydych yn newid eich manylion banc
  • ydych yn newid eich rhif ffôn
  • yw rhywun yn dechrau neu’n stopio byw gyda chi

Rhaid i chi roi gwybod os yw eich statws mewnfudo chi neu unrhyw un sy’n byw gyda chi’n newid, os nad ydych chi neu nhw yn ddinesydd Prydeinig.

Rhaid i chi roi gwybod os ydych chi, eich partner, neu unrhywun sy’n byw gyda chi yn:

  • newid enw neu rywedd
  • newid cyfeiriad
  • gadael y DU am unrhyw gyfnod o amser
  • priodi neu’n ffurfio partneriaeth sifil
  • ysgaru neu’n gorffen partneriaeth sifil
  • cael babi neu’n dod yn feichiog
  • mynd i’r carchar neu ddalfa gyfreithiol

Os yw’ch partner neu rywun sy’n byw gyda chi’n marw, rhowch wybod gan ddefnyddio’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith yn lle.

Newidiadau i gyflwr meddygol neu anabledd

Mae’n rhaid i chi roi gwybod os ydych chi neu rywun sydd wedi’i gynnwys ar eich cais:

  • yn cael unrhyw newidiadau i gyflwr iechyd neu anabledd
  • yn mynd i’r ysbyty, cartref gofal neu lety gwarchod
  • yn newid meddyg
  • yn dechrau neu’n stopio gofalu am rywun

Newidiadau i waith neu addysg

Mae’n rhaid i chi roi gwybod os ydych chi neu unrhyw un sy’n byw gyda chi:

  • yn dechrau neu’n stopio addysg, hyfforddiant neu brentisiaeth
  • yn dod o hyd i neu’n gadael swydd, neu’n dechrau gweithio oriau gwahanol
  • ynghlwm ag anghydfod masnach, neu fethu gweithio oherwydd anghydfod masnach (er enghraifft, os oes streic)

Newidiadau i incwm a budd-daliadau

Mae’n rhaid i chi roi gwybod os ydych chi neu unrhyw un sy’n byw gyda chi:

  • yn newid ei gyflog neu enillion o waith
  • yn cael ôl-daliad (a elwir weithiau yn ‘ôl-ddyledion’) am ei gyflog neu enillion o’r gwaith
  • dechrau neu stopio cael budd-dal neu bensiwn
  • dechrau neu stopio cael unrhyw ffynhonnell arian arferol arall (er enghraifft, benthyciadau neu grantiau myfyrwyr, tâl salwch, neu arian gan elusen)
  • yn newid faint o arian a gânt o fudd-dal, pensiwn neu unrhyw ffynhonnell arian arferol arall

Mae’n rhaid i chi hefyd roi gwybod os yw unrhyw un sy’n gofalu amdanoch yn dechrau neu’n stopio cael:

  • Lwfans Gofalwr
  • Taliad Cymorth Gofalwr
  • yr elfen gofalwr o Gredyd Cymhwysol

Newidiadau i asedau

Asedau yw pethau fel:

  • cynilion neu fuddsoddiadau
  • eiddo
  • taliadau untro (er enghraifft, arian o etifeddiaeth neu cyfandaliad)

Mae’n rhaid i chi roi gwybod os ydych chi ac unrhyw un sy’n byw gyda chi yn dechrau neu’n stopio cael £6,000 neu’n fwy mewn asedau cyfan rhyngoch chi.

Os oes gennych dros £6,000 mewn asedau cyfan rhyngoch chi’n barod, rhaid i chi roi gwybod am unrhyw gynnydd neu ostyngiad mewn gwerth yr asedau hyn.

Os ydych wedi cael eich talu gormod

Os na fyddwch yn rhoi gwybod am newid ar unwaith neu os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir neu anghyflawn, efallai y cewch eich talu gormod. Os cewch ormod, efallai y bydd yn rhaid i chi talu rhywfaint o’r arian yn ôl.

Sut i roi gwybod

Gallwch roi gwybod am newid mewn amgylchiadau trwy:

  • ffonio’r Ganolfan Byd Gwaith
  • ysgrifennu i’r swyddfa Canolfan Byd Gwaith sy’n talu eich ESA - mae’r cyfeiriad ar y llythyrau a gewch ynglŷn â’ch ESA

Canolfan Byd Gwaith
Ffôn: 0800 328 1744
Ffôn testun: 0800 169 0314
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 169 0350
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Llinell Saesneg: 0800 169 0310
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol ar yr un pryd ag ESA Dull Newydd mae’n rhaid i chi hefyd rhoi gwybod am y newid mewn amgylchiadau ar eich cyfrif Credyd Cynhwysol.

Os ydych yng Ngogledd Iwerddon cysylltwch â’r Ganolfan ESA.