Help i dalu am ofal plant

Printable version

1. Gofal plant y gallwch gael help i dalu amdano

Gallwch gael help gyda chost gofal plant drwy’r canlynol:

  • Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth yn y DU
  • gofal plant sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gweithio yn Lloegr

Mae Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth a gofal plant sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gweithio ddim yn gallu’ch helpu chi i dalu am ofal plant os caiff ei ddarparu gan:

  • gwarchodwr plant cofrestredig, nani, cynllun chwarae, meithrinfa neu glwb
  • gwarchodwr plant neu nani gydag asiantaeth gwarchodwyr plant gofrestredig neu asiantaeth gofal plant
  • ysgol gofrestredig
  • gweithiwr gofal cartref sy’n gweithio i asiantaeth gofal cartref gofrestredig

Mae hyn yn cael ei alw’n ‘ofal plant cymeradwy’.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Mae’r rheolau ynghylch sut mae darparwyr gofal plant yn cael eu cymeradwyo’n amrywio’n ôl ble rydych yn byw.

Gallwch wirio a yw darparwr gofal plant wedi’i gymeradwyo, neu chwilio am un yn:

Os ydych am hawlio gofal plant sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gweithio yn Lloegr, bydd angen i’r darparwr hefyd fod ar Gofrestr Blynyddoedd Cynnar gydag Ofsted neu gydag asiantaeth gwarchodwyr plant blynyddoedd cynnar gofrestredig – holwch eich darparwr am hyn.

O fis Medi 2024, byddwch yn gallu cael 15 awr o ofal plant yn rhad ac am ddim ar gyfer eich plentyn o 9 mis oed os ydych chi’n gweithio. Gallwch wneud cais o 12 Mai ymlaen.

Gofal plant yn yr ysgol

Gall Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth helpu i dalu am ofal y tu allan i oriau ysgol, er enghraifft clybiau ar ôl ysgol neu glybiau brecwast.

Os nad yw eich plentyn wedi dechrau yn yr ysgol gynradd, gallwch gael help i dalu am ofal plant sy’n cael ei ddarparu gan ysgol. Mae hyn yn cynnwys ffioedd ysgolion meithrin.

Ni allwch gael help i dalu am y canlynol:

  • addysg orfodol eich plentyn
  • gwersi preifat yn ystod amser ysgol (er enghraifft, gwersi cerddoriaeth preifat yn ystod oriau ysgol)

Nid oes modd hawlio gofal plant sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gweithio ar gyfer gofal y tu allan i oriau ysgol os yw’ch plentyn yn mynychu dosbarth meithrin neu ddosbarth derbyn mewn ysgol a ariennir gan y wladwriaeth. Mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio os yw’ch plentyn yn mynychu dosbarth meithrin neu ddosbarth derbyn mewn ysgol annibynnol.

Gofal plant a ddarperir gan berthnasau

Os ydych yn byw yn Lloegr neu’r Alban

Dim ond os yw perthynas (er enghraifft, nain neu daid) yn warchodwr plant cofrestredig ac yn gofalu am eich plentyn y tu allan i’ch cartref y gallwch gael Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth i helpu i dalu am ofal plant sy’n cael ei ddarparu gan y perthynas hwnnw.

Ni allwch hawlio gofal plant sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gweithio ar gyfer gofal plant a ddarperir gan berthynas (er enghraifft, nain neu daid).

Ni allwch gael help ar gyfer gofal plant sy’n cael ei ddarparu gan eich partner. Nid yw hyn yn cael ei dderbyn fel ‘gofal plant cymeradwy’.

Os ydych yn byw yn Lloegr ac yn cael gofal plant sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gweithio, gallwch dalu’r darparwr gofal plant gan ddefnyddio Credyd Cynhwysol, credydau treth, talebau gofal plant neu Ofal Plant sy’n Rhydd o Dreth.

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon

Dim ond os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol y gallwch gael help i dalu am ofal plant sy’n cael ei ddarparu gan berthynas:

Os ydych yn byw yng Nghymru

Dim ond os yw’n warchodwr plant cofrestredig a’i fod yn gofalu am eich plentyn y tu allan i’ch cartref y gallwch gael help i dalu am ofal plant sy’n cael ei ddarparu gan berthynas.

Gofalwyr maeth

Os ydych yn rhiant maeth i blentyn rhwng 2 a 4 oed, gallwch hawlio gofal plant sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gweithio cyn belled a bod y canlynol yn wir:

I wneud cais, siaradwch â’ch gweithiwr cymdeithasol â’ch awdurdod lleol (yn agor tudalen Saesneg).

Gofal plant a ddarperir gan ofalwr maeth

Gallwch ond a hawlio Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth os ydych wedi’ch cofrestru fel darparwr gofal plant ac yn byw yn Lloegr.

Gallwch hawlio, o bosib, os yw gofalwr maeth yn darparu gofal plant yng Nghymru (yn agor tudalen Saesneg), yn darparu gofal plant yn yr Alban (yn agor tudalen Saesneg) neu’n darparu gofal plant yng Ngogledd Iwerddon (yn agor tudalen Saesneg).

2. 15 awr o ofal plant yn rhad ac am ddim i blant 3 a 4 oed

Gall pob plentyn 3 i 4 oed yn Lloegr gael 570 awr y flwyddyn yn rhad ac am ddim. Fel arfer, mae 15 awr yn cael eu cymryd bob wythnos dros 38 wythnos y flwyddyn. Gallwch ddewis cymryd llai o oriau dros fwy o wythnosau, os yw’ch darparwr gofal plant yn cynnig yr opsiwn hwn.

Mae rhai plant 3 i 4 oed yn gymwys i gael 30 awr o ofal plant yn rhad ac am ddim bob wythnos. Edrychwch i weld a ydych yn gymwys a chael gwybod sut i wneud cais (yn agor tudalen Saesneg).

Mae’r addysg gynnar a gofal plant yn rhad ac am ddim:

  • yn gorfod bod gyda darparwr gofal plant cymeradwy
  • yn dod i ben pan fydd eich plentyn yn dechrau yn y dosbarth derbyn (neu’n cyrraedd oedran ysgol gorfodol, os yw’n hwyrach)

Gallwch ei gael o’r tymor ar ôl pen-blwydd eich plentyn yn 3 oed, gan ddechrau ar 1 Ionawr, 1 Ebrill neu 1 Medi.

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am gostau ychwanegol megis:

  • prydau bwyd
  • cewynnau
  • oriau ychwanegol
  • gweithgareddau ychwanegol, megis teithiau

Holwch eich darparwr pa gostau ychwanegol bydd yn rhaid i chi eu talu.

Cysylltwch â’ch darparwr gofal plant neu eich cyngor lleol (yn agor tudalen Saesneg) i gael gwybod mwy.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon

3. Addysg a gofal plant yn rhad ac am ddim i blant 2 oed os ydych yn hawlio rhai budd-daliadau

Gall eich plentyn 2 oed gael gofal plant yn rhad ac am ddim os ydych yn byw yn Lloegr ac yn cael unrhyw un o’r budd-daliadau canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) ar sail incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yn ymwneud ag incwm
  • Credyd Cynhwysol, a bod incwm eich aelwyd yn £15,400 y flwyddyn neu lai ar ôl treth, heb gynnwys budd-daliadau
  • elfen warantedig y Credyd Pensiwn
  • Credyd Treth Plant, Credyd Treth Gwaith (neu’r ddau), a bod incwm eich aelwyd yn £16,190 y flwyddyn neu lai cyn treth
  • estyniad 4 wythnos y Credyd Treth Gwaith (y taliad a gewch pan fyddwch yn gorffen bod yn gymwys ar gyfer Credyd Treth Gwaith)

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Gall plant 2 oed hefyd gael gofal plant yn rhad ac am ddim os yw’r canlynol yn wir:

  • maen nhw’n cael gofal gan awdurdod lleol
  • mae ganddynt gynllun addysg, iechyd a gofal (EHC)
  • maen nhw’n cael Lwfans Byw i’r Anabl
  • maen nhw wedi gadael gofal o dan orchymyn mabwysiadu, gorchymyn gwarcheidwadaeth arbennig neu orchymyn trefniadau plentyn

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am gostau ychwanegol megis:

  • prydau bwyd
  • cewynnau
  • oriau ychwanegol
  • gweithgareddau ychwanegol, megis teithiau

Holwch eich darparwr pa gostau ychwanegol bydd yn rhaid i chi eu talu.

Cysylltwch â’ch darparwr gofal plant neu eich cyngor lleol (yn agor tudalen Saesneg) i gael gwybod mwy.

Os nad ydych yn gymwys ar gyfer addysg a gofal plant sy’n rhad ac am ddim ar gyfer rhieni sy’n cael budd-daliadau

Mae’n bosibl y gallwch gael gofal plant sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gweithio o dan gynllun gwahanol.

Os ydych yn gymwys ar gyfer y ddau gynllun

Gallwch gael help o un o’r canlynol yn unig:

Os ydych yn gymwys ar gyfer y ddau, mae’n rhaid i chi wneud cais drwy’r cynllun addysg a gofal plant sy’n rhad ac am ddim ar gyfer rheini sy’n cael budd-daliadau.

Os nad ydych yn ddinesydd y DU ac nad ydych yn cael hawlio budd-daliadau

Os yw’ch statws mewnfudo’n dweud bod gennych ‘ddim hawl i arian cyhoeddus’, efallai y byddwch yn dal i gael gofal plant am ddim i’ch plentyn 2 oed. Mae’n rhaid i chi fyw yn Lloegr ac ni all incwm eich aelwyd ar ôl treth fod yn fwy na:

  • £26,500 i deuluoedd y tu allan i Lundain gydag un plentyn
  • £34,500 i deuluoedd yn Llundain gydag un plentyn
  • £30,600 i deuluoedd y tu allan i Lundain gyda dau neu fwy o blant
  • £38,600 i deuluoedd yn Llundain gyda dau neu fwy o blant

Ni allwch fod â mwy na £16,000 mewn cynilion neu fuddsoddiadau.

Cysylltwch â’ch darparwr gofal plant neu gwiriwch gyda’ch cyngor lleol (yn agor tudalen Saesneg) os nad ydych yn siŵr a ydych yn gallu cael gofal plant yn rhad ac am ddim.

Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon

4. Credydau treth a gofal plant

Os ydych eisoes yn hawlio credydau treth, gallwch ychwanegu swm ychwanegol o Gredyd Treth Gwaith (yn agor tudalen Saesneg) i helpu i dalu am gostau gofal plant.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Mae’n rhaid i’r naill a’r llall o’r canlynol fod yn berthnasol:

  • mae eich plentyn mewn gofal plant cymeradwy

  • mae’r gofal plant yn cael ei ddarparu wyneb yn wyneb, nid ar-lein

Os oes gennych blentyn a’ch bod eisoes yn hawlio Credyd Treth Gwaith, gallwch hefyd hawlio Credyd Treth Plant (yn agor tudalen Saesneg).

Diweddaru’ch hawliad credyd treth i gael help gyda gofal plant

Cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF) i ddiweddaru eich hawliad credyd treth - does dim angen ffurflen hawlio arnoch.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF am newidiadau i’ch amgylchiadau, er enghraifft bod eich costau gofal plant yn dod i ben neu’n newid o £10 neu fwy yr wythnos ar gyfartaledd.

Mae’n rhaid i chi adnewyddu eich hawliad bob blwyddyn. Cewch nodyn i’ch atgoffa.

5. Credyd Cynhwysol a gofal plant

Efallai y byddwch yn gallu hawlio hyd at 85% o’ch costau gofal plant yn ôl os ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Fel arfer, bydd angen i chi (a’ch partner os ydych yn byw gydag ef) naill ai:

  • bod yn gweithio - does dim ots faint o oriau rydych chi neu eich partner yn eu gweithio
  • bod â chynnig swydd

Faint y byddwch yn ei gael

Y mwyaf y gallwch ei gael yn ôl bob mis yw:

  • £1,014.63 ar gyfer un plentyn
  • £1,739.37 ar gyfer 2 neu fwy o blant

Gallwch hawlio Credyd Cynhwysol ar-lein.

Os ydych yn rhoi’r gorau i weithio

Os byddwch yn rhoi’r gorau i weithio, mae’n rhaid i chi roi gwybod am newid mewn amgylchiadau yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol.

6. Talebau gofal plant a chynlluniau cyflogwyr eraill

Mae’r cynlluniau canlynol wedi’u cau i ymgeiswyr newydd:

  • talebau gofal plant

  • gofal plant y mae eich cyflogwr yn ei drefnu gyda darparwr (a elwir yn ‘ofal plant sydd wedi’i gontractio’n uniongyrchol’)

Os gwnaethoch ymuno ag un o’r cynlluniau hyn ar 4 Hydref 2018 neu cyn hynny, efallai y byddwch yn gallu parhau i gael talebau neu ofal plant wedi’i gontractio’n uniongyrchol.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Os gwnaethoch ymuno â chynllun talebau gofal plant neu gynllun gofal plant sydd wedi’i gontractio’n uniongyrchol ar neu cyn 4 Hydref 2018

Gallwch barhau i gael talebau neu ofal plant wedi’i gontractio’n uniongyrchol ar yr amod:

  • bod eich cyflog wedi cael ei addasu ar 4 Hydref 2018 neu cyn hynny

  • eich bod yn aros gyda’r un cyflogwr a’i fod yn parhau i redeg y cynllun

  • nad ydych yn cymryd seibiant gyrfa di-dâl o fwy na blwyddyn

Gallwch gymryd hyd at £55 yr wythnos o’ch cyflog, ac ni fyddwch yn talu treth nac Yswiriant Gwladol arno.

Bydd y swm y gallwch ei gymryd yn dibynnu ar faint rydych yn ei ennill a phryd y gwnaethoch ymuno â’r cynllun.

Os bydd y busnes rydych yn gweithio iddo yn newid perchennog, bydd eich hawliau fel cyflogai yn cael eu diogelu fel arfer (yn agor tudalen Saesneg). Holwch eich cyflogwr newydd a fyddwch yn dal i allu cael talebau neu ofal plant wedi’i gontractio’n uniongyrchol.

Os ydych yn cael Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth

Ni chewch barhau i hawlio talebau gofal plant na gofal plant sydd wedi’i gontractio’n uniongyrchol os byddwch yn gwneud cais llwyddiannus am Ofal Plant sy’n Rhydd o Dreth.

Mae’r cynllun sydd o’r budd mwyaf i chi yn dibynnu ar eich sefyllfa. Defnyddiwch y gyfrifiannell gofal plant i benderfynu pa fath o gymorth sydd orau i chi.

Mae’n rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr o fewn 90 diwrnod os ydych yn cael Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth. Yna, bydd yn rhoi’r gorau i roi talebau newydd i chi neu ofal plant wedi’i gontractio’n uniongyrchol.

Gallwch barhau i ddefnyddio unrhyw dalebau sydd gennych yn barod, gan gynnwys i wneud taliad ar y cyd am ofal plant gyda Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth. Does dim dyddiad cau ar gyfer defnyddio eich talebau na gofal plant sydd wedi’i gontractio’n uniongyrchol.

Unwaith y byddwch wedi dweud wrth eich cyflogwr eich bod yn cael Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, ni allwch ailymuno â’i gynllun talebau na’i gynllun gofal plant sydd wedi’i gontractio’n uniongyrchol.

Cynlluniau gofal plant cyflogwyr a threth

Nid oes rhaid i chi dalu treth ac Yswiriant Gwladol ar y canlynol:

  • talebau gofal plant, os gwnaethoch ymuno â chynllun a bod eich cyflogau wedi cael eu haddasu ar 4 Hydref 2018 neu cyn hynny

  • gofal plant wedi’i gontractio’n uniongyrchol, os gwnaethoch ymuno â chynllun a bod eich cyflogau wedi cael eu haddasu ar 4 Hydref 2018 neu cyn hynny

  • meithrinfeydd yn y gweithle

Mae’n rhaid i chi dalu treth ac Yswiriant Gwladol ar y canlynol:

  • arian y mae eich cyflogwr yn ei roi i chi i dalu am ofal plant

  • ffioedd darparwr gofal plant y mae eich cyflogwr yn eu talu

  • ffioedd ysgol y mae eich cyflogwr yn eu talu

7. Help gyda gofal plant wrth i chi astudio

Ysgol neu chweched dosbarth

Gallech gael taliadau wythnosol drwy Gofal i Ddysgu (yn agor tudalen Saesneg) os ydych o dan 20 oed ar ddechrau cwrs sy’n cael ei ariannu gan arian cyhoeddus, er enghraifft yn yr ysgol neu’r chweched dosbarth.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Addysg bellach

Gallwch wneud cais am Cymorth i Ddysgwyr (yn agor tudalen Saesneg) i dalu am ofal plant os ydych yn 20 oed neu’n hŷn ac mewn addysg bellach, er enghraifft, os ydych yn astudio ar gyfer NVQ, BTEC neu TAR.

Gallech hefyd gael taliadau wythnosol drwy Gofal i Ddysgu (yn agor tudalen Saesneg).

Addysg uwch amser llawn

Gallwch wneud cais am Grant Gofal Plant (yn agor tudalen Saesneg) os ydych mewn addysg uwch amser llawn i dalu am gostau gofal plant i blant:

  • o dan 15 oed

  • o dan 17 oed os oes ganddynt anghenion arbennig