Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn

Printable version

1. Trosolwg

Gallech gael taliad untro o £500 i helpu tuag at gostau o gael plentyn. Gelwir hyn yn Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn.

Os ydych yn byw yn yr Alban, ni allwch gael Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn. Gallwch wneud cais am Taliad Beichiogrwydd a Babanod yn lle hynny.

Fel arfer, rydych yn gymwys ar gyfer y grant os yw’r ddau beth canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn disgwyl eich plentyn cyntaf, neu rydych yn disgwyl genedigaeth luosog (fel gefeilliaid) a bod eisoes gennych blant
  • eich bod chi neu’ch partner eisoes yn cael budd-daliadau penodol

Rhaid i chi wneud cais am y grant o fewn 11 wythnos i ddyddiad y disgwylir y babi neu o fewn 6 mis ar ôl genedigaeth y babi.

Nid oes yn rhaid i chi dalu’r grant yn ôl ac ni fydd yn effeithio ar eich budd-daliadau neu’ch credydau treth eraill.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English) ac mewn fformat sy’n Hawdd i’w Ddeall.

2. Beth fyddwch yn ei gael

Mae Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn yn £500 ac nid oes yn rhaid i chi ei dalu’n ôl.

Efallai na fyddwch yn cael grant os oes eisoes gennych blant.

Os oes gennych blant dan 16 yn barod

Efallai y gallwch gael y grant os ydych yn cario efeilliaid neu dripledi. Mae faint y byddwch yn ei gael yn dibynnu ar y plant sydd gennych yn barod.

Plant o dan 16 oed Grant os cewch efeilliaid Grant os cewch dripledi
Mae gennych 1 neu fwy (ac nid oes yr un ohonyn nhw o enedigaethau lluosog) £500 £1,000
Os ydych eisoes wedi cael gefeilliaid £0 £500
Os ydych eisoes wedi cael tripledi £0 £0

Bydd hefyd angen i chi gwrdd â’r gofynion cymhwyster eraill.

Sut byddwch yn cael eich talu

Mae pob budd-dal, pensiwn a lwfans yn cael eu talu i mewn i’ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu gyfrif undeb credyd.

3. Cymhwyster

Fel arfer, i gael Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn rhaid i chi beidio â chael unrhyw blant eraill o dan 16 oed. Rhaid i chi neu’ch partner hefyd gael un o’r budd-daliadau hyn:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
  • Credyd Pensiwn
  • Credyd Treth Plant
  • Credyd Treth Gwaith sy’n cynnwys elfen anabledd neu anabledd difrifol
  • Credyd Cynhwysol

Efallai y byddwch hefyd yn gymwys os ydych yn cael benthyciad Cymorth ar gyfer Llog Morgais.

Os ydych yn byw yn yr Alban, ni allwch gael Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn. Gallwch wneud cais am Taliad Beichiogrwydd a Babanod yn lle hynny.

Os oes gennych blant dan 16 yn barod

Efallai y byddwch yn gallu cael grant os byddwch chi neu’ch partner yn cael un o’r budd-daliadau uchod neu mae unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn disgwyl genedigaeth luosog (fel efeilliaid)
  • mae’r plentyn rydych yn gofalu amdanynt yn blentyn i rywun arall (ond nid eich partner) ac roedd y plentyn dros 12 mis oed pan ddechreuodd y trefniant
  • bod gennych statws ffoadur, diogelwch dyngarol neu rydych wedi dod i’r DU o Afghanistan neu Wcráin
  • eich bod yn hawlio ar gyfer aelod o’r teulu sydd o dan 16 oed, neu’n 16 i 19 oed ac mewn mathau penodol o addysg neu hyfforddiant.

Os oes gennych statws ffoadur neu ddiogelwch dyngarol neu os ydych wedi gadael Wcráin neu Afghanistan

Gallwch gael grant ar gyfer eich plentyn cyntaf a aned yn y DU os yw un o’r canlynol yn wir:

  • mae gennych statws ffoadur neu ddiogelwch dyngarol
  • wnaethoch adael Afghanistan yn dilyn cwymp llywodraeth Afghan a ddigwyddodd ar 15 Awst 2021
  • roeddech yn breswylydd yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022 ac y gadawoch y wlad yn dilyn ymosodiad Rwsia arni a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022

Os ydych yn hawlio ar gyfer aelod o’r teulu sy’n byw gyda chi

Gallwch gael grant os ydych yn hawlio am aelod o’r teulu sy’n cario’u plentyn cyntaf ac sy’n byw gyda chi. Rhaid i’r aelod o’r teulu hwnnw fod naill ai:

  • dan 16 oed
  • 16 i 19 oed ac mewn addysg neu hyfforddiant ‘cymeradwy’

Rhaid i addysg gymeradwy fod yn llawn amser (mwy na chyfartaledd o 12 awr yr wythnos mewn astudiaeth dan oruchwyliaeth neu brofiad gwaith cysylltiedig â chwrs) a gall gynnwys:

  • Lefelau A neu debyg, er enghraifft Bagloriaeth Cyn-U neu Ryngwladol
  • Lefelau T.
  • NVQs a chymwysterau galwedigaethol eraill hyd at lefel 3
  • addysg gartref - os cychwynnodd cyn iddynt droi’n 16 neu ar ôl 16 os oes ganddynt anghenion arbennig
  • hyfforddeiaethau yn Lloegr

Ni chymeradwyir cyrsiau os telir amdanynt gan gyflogwr neu ‘uwch’, er enghraifft gradd prifysgol neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch BTEC.

Dylai hyfforddiant cymeradwy fod yn ddi-dâl a gall gynnwys:

  • Prentisiaethau Sylfaenol neu Hyfforddeiaethau yng Nghymru
  • PEACE IV Plant a Phobl Ifanc 2.1, Hyfforddiant ar gyfer Llwyddiant, neu Sgiliau Bywyd a Gwaith yng Ngogledd Iwerddon

Ni chymeradwyir cyrsiau sy’n rhan o gontract swydd.

Os nad ydych yn rhoi genedigaeth

Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael grant os ydych yn mabwysiadu neu’n dod yn rhiant trwy fenthyg croth.

Rhaid i’r babi fod yn llai na flwydd oed ar y dyddiad gwneud cais. Rhaid i chi fod yn cael un o’r budd-daliadau uchod ac mae’n rhaid i un o’r canlynol hefyd fod yn berthnasol:

  • rydych wedi dod yn gyfrifol am y babi ac nid chi yw’r fam
  • gosodwyd y babi i chi i’w mabwysiadu
  • mae gennych ganiatâd i fabwysiadu babi o dramor
  • mae gennych orchymyn rhiant ar gyfer genedigaeth benthyg croth
  • rydych wedi’ch penodi’n warcheidwad
  • mae gennych orchymyn mabwysiadu neu orchymyn preswylio

4. Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais o 11 wythnos cyn yr wythnos y disgwylir eich babi. Y diweddaraf y gallwch wneud cais yw 6 mis ar ôl i’ch babi cael ei geni.

Os ydych yn dod yn gyfrifol am blentyn, mae’n rhaid i chi wneud cais o fewn 6 mis i hyn ddigwydd. Er enghraifft, os ydych yn mabwysiadu plentyn, mae’n rhaid i chi wneud cais o fewn 6 mis i’r plentyn yn cael ei osod gyda chi.

Gwneud cais trwy’r post

Argraffwch a llenwch y ffurflen gais Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn (SF100W).

Mae angen i chi hefyd ddarparu tystiolaeth o’r beichiogrwydd neu’r enedigaeth gan weithiwr iechyd proffesiynol (fel meddyg neu fydwraig). Gallant naill ai:

  • llenwi ffurflen MAT B1 (dylai fod ganddynt gopi o’r ffurflen yn barod)
  • ysgrifennu datganiad yn cadarnhau’r beichiogrwydd neu’r enedigaeth

Postiwch eich ffurflen gyda’r dystiolaeth o’r beichiogrwydd neu’r enedigaeth i ‘Freepost DWP SSMG’. Nid oes angen cod post neu stamp arnoch.

Gallwch anfon eich ffurflen heb dystiolaeth o’r beichiogrwydd neu’r enedigaeth os bydd angen i fodloni’r terfyn amser. Os byddwch yn gwneud hyn, byddwn yn cysylltu â chi ynghylch trefnu cael y dystiolaeth hon yn nes ymlaen.

Byddwch yn cael llythyr yn dweud wrthych os yw’ch cais yn llwyddiannus o fewn 28 diwrnod i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) dderbyn eich ffurflen a thystiolaeth. Os ydych wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol yn ddiweddar, gallai gymryd mwy o amser.

Cael help gyda’ch cais

Ffoniwch linell gymorth Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn.

Llinell gymorth Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn
Ffôn: 0800 169 0240
Ffôn Testun: 0800 169 0286
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 169 0240
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Llinell Saesneg: 0800 169 0140
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Gallwch hefyd cysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith.

Ffurfiau gwahanol

Ffoniwch linell gymorth Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn i ofyn am ffurfiau gwahanol, fel braille, print bras neu CD sain.

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad

Gallwch herio’r penderfyniad am eich cais. Mae hyn yn cael ei adnabod fel gofyn am ailystyriaeth orfodol.