Ffurflen

Rhoi awdurdodiad dros dro i ganiatáu i CThEF ddelio â’ch ymgynghorydd treth (COMP1)

Defnyddiwch ffurflen COMP1 os hoffech i CThEF ddelio’n uniongyrchol â’ch ymgynghorydd treth neu’ch asiant mewn perthynas â gwiriad cydymffurfio.

Dogfennau

Rhoi caniatâd dros dro gan ddefnyddio ffurflen argraffu a phostio

Manylion

Mae’r ffurflen hon yn rhoi eich caniatâd ysgrifenedig i CThEF gyfnewid a datgelu gwybodaeth sy’n berthnasol i wiriad cydymffurfio â’ch ymgynghorydd treth neu’ch asiant a enwir. Mae ond yn perthyn i’r gwiriad cydymffurfio ar gyfer y cyfnodau a nodir gennych ar y ffurflen hon ac yn cwmpasu’r holl faterion a weinyddir gan CThEF, sy’n cael eu gwirio.

Awdurdodiad dros dro yw hwn, ac ni fydd yn diddymu nac yn diwygio unrhyw awdurdodiad parhaol rydych eisoes wedi’i anfon at CThEF.

Sut i ddefnyddio’r ffurflen argraffu a phostio

Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein ac ni allwch gadw’ch cynnydd. Mae’n well i gasglu’r holl wybodaeth sydd gennych cyn i chi ddechrau arni.

Gallwch anfon eich ffurflen wedi’i llenwi drwy e-bost yn uniongyrchol at y gweithiwr achos sy’n delio â’r gwiriad cydymffurfio. I wneud hyn, dylech fod wedi cadarnhau eich bod yn rhoi cydsyniad i gyfathrebu drwy e-bost a gwneud yn siŵr fod unrhyw wybodaeth bersonol neu sensitif sydd ar y ffurflen wedi’i golygu.

Os nad ydych wedi rhoi cydsyniad i gyfathrebu drwy e-bost, mae’n rhaid i chi lawrlwytho’r copi papur a’i anfon at CThEF.

Bydd y cyfeiriad i anfon y ffurflen iddo yn cael ei ddangos ar y llythyr gan CThEF sy’n rhoi gwybod i chi am y gwiriad cydymffurfio.

Cyhoeddwyd ar 17 April 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 May 2024 + show all updates
  1. Information added to confirm you can send a complete COMP1 form by email to your assigned caseworker for a compliance check.

  2. Welsh version of form COMP1 added to the page.

  3. First published.