Gordaliadau budd-dal

Printable version

1. Trosolwg

Dywedwch wrth y swyddfa sy’n delio â’ch budd-dal os:

Efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu’r budd-dal os ydych wedi cael eich gordalu.

Mae yna broses gwahanol am gordaliad credydau treth.

Efallai y byddwch yn cael eich erlyn am dwyll budd-dal neu orfod talu cosb os nad ydych yn dweud wrth ddarparwyr budd-dal am ordaliadau.

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Os ydych wedi’ch gordalu am Gredyd Cynhwysol

Gallwch roi gwybod am ordaliad drwy fewngofnodi i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol neu ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol.

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol
Ffôn: 0800 328 1744
Ffôn testun: 0800 328 1344
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 328 1744
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Llinell Saesneg: 0800 328 5644
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Pryd bydd y swyddfa budd-daliadau yn cysylltu â chi

Byddwch yn cael llythyr i ddweud wrthych eich bod wedi cael eich gordalu.

Os ydych yn credu ei fod yn gamgymeriad gallwch ofyn am ailystyriaeth orfodol. Fel arfer mae angen i chi wneud hyn o fewn mis i dderbyn y llythyr hwn.

Budd-dal Tai a delir yn uniongyrchol i’ch landlord

Efallai y gofynnir i’ch landlord ad-dalu’r arian os ydynt yn gyfrifol am y gordaliad. Efallai y bydd yn rhaid i chi ei ad-dalu, os mai chi sydd ar fai.

2. Pryd y mae angen gwneud ad-daliadau

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu’r arian yn ôl os ydych wedi’ch gordalu. Er enghraifft, os:

  • roedd y wybodaeth a roddwyd gennych yn anghywir
  • ni wnaethoch roi gwybod am newid yn eich amgylchiadau ar unwaith
  • gwnaethoch roi’r wybodaeth anghywir pan wnaethoch rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau
  • gwnaethpwyd camgymeriad gyda’ch taliad

Darganfyddwch sut i wneud ad-daliadau.

Mae yna system wahanol os yw’r person a ordalwyd wedi marw.

3. Ad-daliadau pan fydd rhywun wedi marw

Gall yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) adennill gordaliadau budd-daliadau o ystâd unigolyn.

Gallai gordaliad fod wedi digwydd oherwydd, er enghraifft, y person a fu farw:

  • wedi cael mwy o gynilion nag a ddatganwyd ganddynt yn eu cais am fudd-dal
  • heb ddatgan incwm
  • yn yr ysbyty neu gartref nyrsio ac heb ddweud wrth DWP

Os ydych yn delio â’r ystâd, bydd DWP yn ysgrifennu atoch unwaith y bydd profiant wedi’i ganiatáu i ofyn am y wybodaeth sydd ei hangen arnynt.

Ni ddylech ddosbarthu’r ystâd nes eich bod yn gwybod beth sydd angen ei ad-dalu. Os gwnewch hynny, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu’r arian eich hun yn ôl.

Beth sydd angen i chi ei wneud

Gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth i helpu i ddarganfod a oes angen ad-dalu unrhyw beth.

Efallai y bydd angen cyfiflenni banc, llyfrau pas cymdeithas adeiladu neu wybodaeth arall arnoch am asedau’r person a fu marw.

Os na fyddwch yn darparu’r wybodaeth y gofynnir amdani, bydd y gordaliad yn cael ei gyfrif yn seiliedig ar y ffigwr profiant cyn unrhyw ddidyniadau (hynny yw, yr ystâd gyfan).

Os oes gordaliad wedi digwydd

Bydd DWP yn ysgrifennu atoch yn gofyn am yr arian yn ôl o’r ystâd. Byddant yn dweud wrthych sut y cyfrifwyd unrhyw ordaliad ac yn egluro pam y digwyddodd. Byddant hefyd yn dweud wrthych sut i dalu.

Os oes angen i chi drafod eich taliad, neu sefydlu cynllun ad-dalu, ffoniwch Adferiad o Ystadau Rheoli Dyled DWP. Mae’r rhif ar y llythyr.

Gallwch hefyd ysgrifennu atynt:

Os ydych yng Nghymru a Lloegr

Debt Management (RE)
Main Handling Site A
Wolverhampton
WV98 2DG

Os ydych yn yr Alban

Debt Management (RES)
Main Handling Site A
Wolverhampton
WV98 2DH

Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â gwasanaeth Rheoli Dyled yr Adran Cymunedau.

Os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad gordaliad

Os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad gordaliad, gallwch ofyn am edrych ar y penderfyniad eto - gelwir hyn yn ‘ailystyriaeth orfodol’.

Gallwch wneud hyn os ydych:

  • yn meddwl bod DWP wedi gwneud gwall neu wedi methu tystiolaeth bwysig
  • yn anghytuno â’r rhesymau dros y penderfyniad
  • eisiau i’r penderfyniad gael ei edrych arno eto

Taliadau a wnaed ar ôl marwolaeth

Os digwyddodd y gordaliad oherwydd gwnaeth y taliad gyrraedd cyn i DWP gael gwybod am y farwolaeth, bydd Rheoli Dyled DWP yn cysylltu â:

  • perthynas agosaf yr ymadawedig
  • y banc y talwyd y budd-dal iddo
  • pwy bynnag sy’n trin yr ystâd

4. Sut i wneud ad-daliad

Mae sut rydych yn talu’r gordaliad yn ôl yn dibynnu ar:

  • p’un ai ydych yn gwneud ad-daliadau am y tro cyntaf neu’n eu hail-ddechrau
  • p’un ai ydych yn dal i gael budd-daliadau

Mae yna broses gwahanol am ordaliad credydau treth a gordaliad Budd-dal Plant, neu os ydych wedi cael eich gordalu gan Social Security Scotland neu’r Department for Communities (DFC).

Dechrau gwneud ad-daliadau os ydych yn parhau i gael budd-daliadau

Os ydych yn parhau i gael budd-daliadau, bydd y swm rheolaidd rydych yn ei gael yn cael ei leihau hyd nes i chi dalu’r arian yn ôl.

Cysylltwch â chanolfan gyswllt Rheoli Dyled yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) os credwch fod gormod wedi cael ei gymryd am ad-daliad.

Dechrau gwneud ad-daliadau os nad ydych bellach yn cael budd-daliadau

Cewch lythyr gan Reoli Dyled DWP yn egluro sut i ad-dalu a rheoli arian budd-dal sy’n ddyledus. Gallwch ad-dalu’r gordaliad yn llawn neu sefydlu taliadau misol rheolaidd.

Cael help gyda’ch ad-daliadau

Cysylltwch â Rheoli Dyled DWP os oes angen help arnoch i reoli eich ad-daliadau. Gallant drafod eich opsiynau, gan gynnwys yr hyn y gallwch fforddio ei dalu.

Canolfan gyswllr Rheoli Dyled DWP
Ffôn: 0800 916 0647
Ffôn testun: 0800 916 0651
NGT text relay (os na allwch siarad neu glywed dros y ffôn): 18001 yna 0800 916 0647
Gwasanaeth video relay ar gyfer defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) - gwiriwch a allwch ddefnyddio’r gwasanaeth
Ffonio o dramor: +44 (0)161 904 1233
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 7:30pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Os nad ydych yn talu’r arian yn ôl

Os nad ydych yn talu’r arian yn ôl nac yn cysylltu â chanolfan cyswllt Rheoli Dyled DWP, efallai y byddant yn:

Os yw’ch achos yn cael ei roi i gasglwr dyled annibynnol

Byddwch yn derbyn llythyr i roi gwybod am hwn gan un o’r asiantaethau casglu dyled canlynol:

  • Advantis
  • BPO Collections
  • CCS Collect
  • Moorcroft
  • Past Due Credit
  • Resolve Call
  • Shakespeare Martineau

Dylech ddelio’n uniongyrchol â’r casglwr dyled i drefnu ad-daliad.

Os yw’ch cais yn cael ei drosglwyddo i Dîm Gorfodi Dyled y DWP

Byddwch yn cael llythyr o’r tîm yn eich gofyn i sefydlu cynllun ad-dalu.

Os nad ydych yn cysylltu â’r tîm neu nad ydych yn dilyn eich cynllun ad-dalu, bydd y tîm yn cyflwyno cais yn eich erbyn i’r Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd ei Mawrhydi (HMCTS). Bydd y tîm yn ychwanegu costau ychwanegol i’r arian sy’n ddyledus gennych.

Yna bydd angen i chi ad-dalu’r holl arian sy’n ddyledus gennych o fewn 6 mis neu bydd y tîm yn gwneud cais am ddyfarniad llys sirol.

Os ydych yn cael dyfarniad llys sirol:

  • bydd y llys yn ychwanegu mwy o gostau i’r arian sy’n ddyledus gennych
  • caiff eich sgôr credyd ei effeithio am hyd at 6 mlynedd

Gall Tîm Gorfodi Dyled DWP hefyd gymryd camau gweithredu pellach, fel cymryd arian yn uniongyrchol o’ch cyflog.