Ffurflenni ar gyfer cwblhau Ffurflenni Treth Hunanasesiad
Lawrlwythwch neu gofynnwch am ffurflenni i’ch helpu i anfon eich Ffurflen Dreth naill ai ar-lein neu drwy’r post.
Mae’n rhaid i chi anfon eich Ffurflen Dreth erbyn y dyddiad cau neu byddwch yn cael cosb.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Y brif Ffurflen Dreth (SA100)
Gallwch gyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar-lein.
Os oes angen ffurflen bapur arnoch, ffoniwch CThEF a gofynnwch am y ffurflen gais SA100 (yn Saesneg).
Os ydych yn cyflwyno Ffurflen Dreth SA100 ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023 neu cyn hynny, mae ffurflenni ar gael o’r Archifau Gwladol.
Cael help
Gallwch wneud y canlynol:
-
cael cyngor gan arbenigwr proffesiynol (yn Saesneg), megis cyfrifydd
-
defnyddio’r nodiadau a’r taflenni cymorth (yn Saesneg)
Dylech lenwi’r Ffurflen Dreth Fer (SA200) dim ond os yw CThEF yn ei hanfon atoch. Ni allwch ei lawrlwytho, ond gallwch ddarllen y nodiadau arweiniad.
Adrannau ychwanegol
Mae’n bosibl y bydd rhaid i chi lenwi adrannau ychwanegol, a elwir yn ‘tudalennau atodol’, os ydych yn rhoi gwybod i CThEF ynghylch y mathau hyn o incwm:
-
cyflogeion neu gyfarwyddwyr cwmni - tudalennau atodol SA102
-
hunangyflogaeth - tudalennau atodol SA103S neu dudalennau atodol SA103F
-
partneriaethau busnes - tudalennau atodol SA104S neu dudalennau atodol SA104F
-
incwm o eiddo yn y DU - tudalennau atodol SA105
-
incwm neu enillion tramor - tudalennau atodol SA106
-
enillion cyfalaf - tudalennau atodol SA108
-
rhai nad ydynt yn breswyl yn y DU neu breswylwyr deuol - tudalennau atodol SA109
Gwiriwch y rhestr lawn o dudalennau atodol er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn llenwi’r adrannau cywir os ydych yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth drwy’r post.
I ble y dylid anfon ffurflenni papur
Gallwch anfon ffurflenni papur sydd wedi’u llenwi at:
Hunanasesiad
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
Cyllid a Thollau EF
BX9 1ST
Anfon Ffurflen Dreth os nad ydych yn unigolyn
Mae ffurflenni arbennig yn bodoli os ydych yn cyflwyno Ffurflen Dreth ar gyfer partneriaeth busnes neu gwmni dibreswyl, neu os ydych yn ymddiriedolwr.
Math o Ffurflen Dreth | Ffurflenni a nodiadau arweiniad |
---|---|
Cwmnïau di-breswyl | ffurflen SA700 (yn Saesneg) |
Partneriaeth | ffurflen SA800 (gan gynnwys tudalennau atodol) |
Ymddiriedolaeth ac ystâd | ffurflen SA900 (yn Saesneg) (gan gynnwys tudalennau atodol (yn Saesneg)) |
Ymddiriedolwyr cynlluniau pensiwn cofrestredig | ffurflen SA970 (yn Saesneg) |
Os oes angen help arnoch, gallwch wneud y canlynol:
-
cael cyngor gan arbenigwr proffesiynol (yn Saesneg), megis cyfrifydd