Dweud wrth DVLA ar ôl i rywun farw

Printable version

1. Beth sydd angen ichi ei wneud

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith i hysbysu DVLA pan fydd rhywun wedi marw os yw ar gael yn eich ardal.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae’n rhaid ichi ddweud wrth DVLA ar wahân o hyd pan fyddwch yn:

Os nad yw Dweud Wrthym Unwaith ar gael yn eich ardal

Ysgrifennwch i DVLA i ddweud wrthynt bod gyrrwr wedi marw. Cynhwyswch drwydded yrru’r unigolyn gyda’ch llythyr, os yw hi gennych.

Mae’n rhaid i’ch llythyr gynnwys:

  • eich perthynas â’r unigolyn a fu farw
  • y dyddiad y bu farw
  • enw, cyfeiriad a dyddiad geni’r unigolyn

Anfonwch y llythyr i:

DVLA
Abertawe
SA99 1AB

Nid oes angen ichi anfon tystysgrif marwolaeth.

Os oes angen cymorth arnoch

Cysylltwch â DVLA os oes angen cymorth arnoch.

Gogledd Iwerddon

Mae proses wahanol yng Ngogledd Iwerddon.

2. Cadw cerbyd

Dywedwch wrth DVLA mai chi yw ceidwad newydd y cerbyd a threthwch ef yn eich enw eich hun ar unwaith.

Ni allwch drosglwyddo treth cerbyd o unigolyn arall. Mae’n rhaid ichi drethu’r cerbyd yn eich enw chi hyd yn oed os ydych chi’n cymryd perchnogaeth fel aelod o’r teulu neu’n gofalu amdano am amser byr.

Gallwch gael eich erlyn os byddwch yn defnyddio’r cerbyd ar ffordd gyhoeddus cyn ei drethu yn eich enw eich hun a’i yswirio.

Mae beth rydych yn ei wneud yn dibynnu ar a oes gennych lyfr log y cerbyd (V5CW).

Os oes gennych lyfr log y cerbyd (V5CW)

  1. Llenwch adran 2 os oes gennych lyfr log steil newydd gyda blociau aml-liwiog wedi’u rhifo ar y clawr blaen. Llenwch adran 6 os oes gennych y llyfr log steil hŷn.

  2. Rhwygwch y slip ‘ceidwad newydd’ gwyrdd i ffwrdd a’i gadw.

  3. Ysgrifennwch lythyr yn esbonio’ch perthynas â’r unigolyn a fu farw, y dyddiad y bu farw ac i bwy y dylid talu unrhyw ad-daliad treth cerbyd.

  4. Anfonwch y V5CW gyda’ch llythyr i Dîm Gwaith Achosion Sensitif DVLA. Hefyd cynhwyswch ffurflen V890W os ydych eisiau cofrestru’r cerbyd oddi ar y ffordd (SORN) yn hytrach na’i drethu.

  5. Bydd DVLA yn diddymu unrhyw dreth cerbyd bresennol a debydau uniongyrchol ar unwaith, ac yn anfon siec am unrhyw ad-daliad a V5CW newydd.

  6. Defnyddiwch y slip ceidwad newydd i drethu’r cerbyd yn eich enw cyn ichi ei ddefnyddio ar ffordd gyhoeddus. Peidiwch ag aros am y V5CW newydd.

Tîm Gwaith Achosion Sensitif
DVLA
Abertawe
SA99 1ZZ

Os nad oes gennych lyfr log y cerbyd (V5CW)

  1. Llenwch ffurflen V62W i wneud cais am V5CW. Mae ffi o £25.

  2. Ysgrifennwch lythyr yn esbonio eich perthynas â’r unigolyn a fu farw, y dyddiad y bu farw ac i bwy y dylid talu unrhyw ad-daliad treth cerbyd.

  3. Anfonwch y V62W a ffi gyda’ch llythyr i Dîm Gwaith Achosion Sensitif DVLA. Cynhwyswch hefyd ffurflen V890W os ydych eisiau cofrestru’r cerbyd oddi ar y ffordd (SORN) yn hytrach na’i drethu.

  4. Bydd DVLA yn diddymu unrhyw dreth cerbyd bresennol a debydau uniongyrchol ar unwaith, ac yn anfon V5CW newydd atoch.

  5. Defnyddiwch eich V5CW newydd i drethu’r cerbyd.

Tîm Gwaith Achosion Sensitif
DVLA
Abertawe
SA99 1ZZ

Os oes angen cymorth arnoch

Cysylltwch â DVLA os oes angen cymorth arnoch.

3. Gwerthu cerbyd

Mae beth rydych yn ei wneud yn dibynnu ar a oes gennych lyfr log y cerbyd (V5CW).

Os oes gennych lyfr log y cerbyd (V5CW)

Ysgrifennwch lythyr yn esbonio:

  • eich perthynas â’r unigolyn a fu farw
  • y dyddiad y bu’r unigolyn farw
  • i bwy y dylid talu unrhyw ad-daliad treth cerbyd (nid yw treth cerbyd yn gallu cael ei throsglwyddo i berchennog newydd)

Anfonwch y llythyr i Dîm Gwaith Achosion Sensitif DVLA â’r rhan gywir o’r V5CW. Mae’r rhan yr anfonwch yn dibynnu ar a ydych yn gwerthu’r cerbyd i unigolyn preifat neu fasnachwr moduron.

Tîm Gwaith Achosion Sensitif DVLA
Abertawe
SA99 1ZZ

Gwerthu i unigolyn preifat

  1. Llenwch adran 2 os oes gennych y llyfr log steil newydd gyda blociau aml-liwiog wedi’u rhifo ar y clawr blaen. Llenwch adran 6 os oes gennych y llyfr log steil hŷn.

  2. Rhowch y slip ‘ceidwad newydd’ gwyrdd i’r prynwr.

  3. Anfonwch y V5CW gyda’ch llythyr i Dîm Gwaith Achosion Sensitif DVLA.

Gwerthu i fasnachwr moduron

  1. Gofynnwch i’r masnachwr moduron lenwi’r adran felen ‘gwerthu, trosglwyddo neu ran-gyfnewid eich cerbyd i’r fasnach moduron’ o’r llyfr log.

  2. Anfonwch yr adran dyllog gyda’ch llythyr i Dîm Gwaith Achosion Sensitif DVLA.

  3. Rhowch weddill y V5CW i’r masnachwr moduron.

Os nad oes gennych lyfr log y cerbyd (V5CW)

Pan fyddwch yn gwerthu’r car dywedwch wrth y prynwr y bydd angen llenwi’r ffurflen V62W i wneud cais am V5CW. Mae ffi o £25.

Mae angen ichi ysgrifennu llythyr i Dîm Gwaith Achosion Sensitif DVLA i ddweud wrthynt eich bod wedi gwerthu’r cerbyd. Mae angen i’ch llythyr ddweud:

  • y dyddiad y gwnaethoch werthu’r cerbyd
  • eich perthynas â’r unigolyn a fu farw
  • y dyddiad y bu farw
  • i bwy y dylid talu unrhyw ad-daliad treth cerbyd
  • enw a chyfeiriad y prynwr

Tîm Gwaith Achosion Sensitif DVLA
Abertawe
SA99 1ZZ

Os oes angen cymorth arnoch

Cysylltwch â DVLA os oes angen cymorth arnoch.