Cyfraddau Treth Incwm a Lwfansau Personol
Printable version
1. Cyfraddau a lwfansau cyfredol
Bydd faint o Dreth Incwm y byddwch yn ei thalu ym mhob blwyddyn dreth yn dibynnu ar y canlynol:
- faint o’ch incwm sydd dros eich Lwfans Personol
- faint o’ch incwm sydd ym mhob haen dreth
Mae rhywfaint o incwm yn rhydd o dreth.
Y flwyddyn dreth bresennol yw o 6 Ebrill 2024 hyd at 5 Ebrill 2025.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Eich Lwfans Personol sy’n rhydd o dreth
£12,570 yw’r Lwfans Personol safonol, sef faint o incwm fyddwch chi ddim yn gorfod talu treth arno.
Efallai fod eich Lwfans Personol yn uwch os ydych yn hawlio Lwfans Priodasol neu Lwfans Person Dall (yn agor tudalen Saesneg). Mae’n llai os yw eich incwm dros £100,000.
Cyfraddau a haenau Treth Incwm
Mae’r tabl yn dangos y cyfraddau treth y byddwch yn eu talu ym mhob haen os oes gennych Lwfans Personol safonol o £12,570.
Mae haenau treth incwm yn wahanol os ydych yn byw yn yr Alban (yn agor tudalen Saesneg).
Haen | Incwm trethadwy | Cyfradd dreth |
---|---|---|
Lwfans Personol | Hyd at £12,570 | 0% |
Cyfradd sylfaenol | £12,571 i £50,270 | 20% |
Cyfradd uwch | £50,271 i £125,140 | 40% |
Cyfradd ychwanegol | dros £125,140 | 45% |
Gallwch hefyd weld y cyfraddau a’r haenau heb y Lwfans Personol (yn agor tudalen Saesneg). Chewch chi ddim Lwfans Personol ar incwm trethadwy dros £125,140.
Os ydych yn gyflogedig neu’n cael pensiwn
Gwiriwch eich Treth Incwm i weld:
- eich Lwfans Personol a’ch cod treth
- faint o dreth rydych wedi’i thalu yn y flwyddyn dreth gyfredol
- faint rydych yn debygol o’i thalu am weddill y flwyddyn
Lwfansau eraill
Mae gennych lwfansau rhydd o dreth ar gyfer:
- llog o gynilion
- incwm o ddifidendau, os ydych yn berchen ar gyfranddaliadau mewn cwmni
Efallai fod gennych hefyd lwfansau rhydd o dreth ar gyfer:
- eich £1,000 cyntaf o incwm a gewch o ganlyniad i hunangyflogaeth – dyma eich ‘lwfans masnachu’
- eich £1,000 cyntaf o incwm a gewch o eiddo y rhowch ar osod (yn agor tudalen Saesneg) (oni bai eich bod yn defnyddio’r Cynllun Rhentu Ystafell (yn agor tudalen Saesneg))
Gallwch weld a ydych yn gymwys ar gyfer y lwfansau masnachu ac eiddo (yn agor tudalen Saesneg).
Rydych yn talu treth ar unrhyw log, difidendau neu incwm sydd dros eich lwfansau.
Talu llai o Dreth Incwm
Efallai byddwch yn gallu hawlio rhyddhad Treth Incwm os ydych yn gymwys ar gyfer hynny.
Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil
Efallai byddwch yn gallu hawlio Lwfans Priodasol i leihau treth eich partner os yw eich incwm chi’n llai na’r Lwfans Personol safonol.
Os nad ydych yn hawlio Lwfans Priodasol a chawsoch chi neu’ch partner eich geni cyn 6 Ebrill 1935, efallai byddwch yn gallu hawlio Lwfans Pâr Priod (yn agor tudalen Saesneg).
2. Blynyddoedd treth blaenorol
£12,570 oedd y Lwfans Personol safonol rhwng 6 Ebrill 2023 a 5 Ebrill 2024.
Cyfradd dreth | Incwm trethadwy sy’n uwch na’ch Lwfans Personol ar gyfer 2023 i 2024 |
---|---|
Cyfradd sylfaenol 20% | £0 i £50,270 Roedd pobl sydd â’r Lwfans Personol safonol wedi dechrau talu’r gyfradd hon ar incwm dros £12,570 |
Cyfradd uwch 40% | £50,271 i £125,140 Roedd pobl sydd â’r Lwfans Personol safonol wedi dechrau talu’r gyfradd hon ar incwm dros £50,270 |
Cyfradd ychwanegol 45% | Dros £125,141 |
Enghraifft
Roedd eich incwm trethadwy yn £35,000 a chawsoch y Lwfans Personol safonol o £12,570. Rydych chi wedi talu treth cyfradd sylfaenol sef 20% ar £22,430 (£35,000 tynnu £12,570).
Byddai eich Lwfans Personol wedi bod yn llai os oedd eich incwm dros £100,000, neu’n fwy os oeddech chi’n cael Lwfans Priodasol neu Lwfans Person Dall (yn agor tudalen Saesneg).
Cyfraddau eraill a blynyddoedd treth blaenorol
Mae Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) yn cyhoeddi tablau gyda’r cyfraddau a’r lwfansau llawn ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol a rhai blaenorol (yn agor tudalen Saesneg).
3. Incwm dros £100,000
Mae eich Lwfans Personol yn disgyn £1 am bob £2 mae eich incwm net wedi’i addasu (yn agor tudalen Saesneg) dros £100,000. Mae hyn yn golygu bod eich lwfans yn sero os yw eich incwm yn £125,140 neu’n uwch.
Bydd hefyd rhaid i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad os yw’ch incwm net wedi’i addasu (yn agor tudalen Saesneg) dros £150,000.
Os nad ydych fel arfer yn anfon Ffurflen Dreth, bydd angen i chi gofrestru erbyn 5 Hydref yn dilyn y flwyddyn dreth yr oedd gennych yr incwm ar ei chyfer.
Cofrestru ar gyfer Hunanasesiad
Cewch lythyr yn rhoi gwybod am yr hyn i’w wneud nesaf ar ôl i chi gofrestru.