Cydberchnogaeth

Printable version

1. Trosolwg

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Rhaid ichi benderfynu pa fath o gydberchnogaeth yr hoffech ei chael os ydych yn prynu, yn etifeddu neu’n dod yn ymddiriedolwr eiddo gyda rhywun arall. Rydych yn dweud wrth Gofrestrfa Tir EF am hyn pan fyddwch yn cofrestru’r eiddo.

Gallwch berchen ar eiddo naill ai fel ‘cyd-denantiaid’ neu ‘denantiaid cydradd’.

Mae’r math o berchnogaeth yn effeithio ar yr hyn y gallwch ei wneud gyda’r eiddo os yw’ch perthynas â chydberchennog yn chwalu, neu os yw un perchennog yn marw.

Gallwch gael cyngor cyfreithiol gan rywun sy’n arbenigo mewn eiddo.

Cyd-denantiaid

Fel cyd-denantiaid (a elwir weithiau yn ‘gyd-denantiaid llesiannol’):

  • mae hawliau cyfartal gennych i’r eiddo cyfan
  • mae’r eiddo yn mynd yn awtomatig i’r perchnogion eraill os ydych yn marw
  • ni allwch drosglwyddo eich perchnogaeth o’r eiddo yn eich ewyllys

Tenantiaid cydradd

Fel tenantiaid cydradd:

  • gallwch berchen ar gyfrannau gwahanol o’r eiddo
  • nid yw’r eiddo yn mynd yn awtomatig i’r perchnogion eraill os ydych yn marw
  • gallwch drosglwyddo eich cyfran o’r eiddo yn eich ewyllys

Newid eich math o berchnogaeth

Gallwch newid o fod naill ai’n:

Ni chodir ffi i wneud hyn.

Gallwch newid o fod yn unig berchennog i denantiaid cydradd neu gyd-denantiaid hefyd, ee os ydych am ychwanegu eich partner fel cydberchennog. Gelwir hyn yn drosglwyddo perchnogaeth.

Gwerthu’r eiddo os yw’r perchennog arall wedi colli gallu meddyliol

Bydd yn rhaid ichi wneud cais i’r Llys Gwarchod os ydych am werthu’r eiddo ond mae’r perchennog arall wedi colli ‘gallu meddyliol’.

2. Gwirio manylion eich perchnogaeth

Mae modd gwybod pa fath o gydberchnogaeth sydd gennych trwy edrych ar ddogfennau megis:

  • trosglwyddiad eiddo
  • prydles eiddo
  • gweithred ymddiried, a elwir hefyd yn ‘ddatganiad ymddiried’ (dogfen sy’n nodi cyfran perchennog mewn eiddo cydberchnogaeth)

Gall cyfreithiwr, trawsgludwr neu swyddog gweithredol cyfreithiol eich helpu i weld pa fath o gydberchnogaeth sydd gennych os nad ydych yn siwr.

Gall eich math o berchnogaeth newid weithiau heb yn wybod ichi, ee os yw un o’r perchnogion eraill yn mynd yn fethdalwr.

3. Newid o gyd-denantiaid i denantiaid cydradd

Gelwir hyn yn ‘holltiad cyd-denantiaeth’. Dylech wneud cais am ‘gyfyngiad Ffurf A’.

Gallwch wneud y newid hwn heb gytundeb y perchnogion eraill.

Gall cyfreithiwr, trawsgludwr neu swyddog gweithredol cyfreithiol wneud y cais ichi hefyd.

Sut i wneud cais os nad yw’r perchnogion eraill yn cytuno ar y newid

  1. Cyflwynwch rybudd ysgrifenedig o’r newid (‘rhybudd holltiad’) ar y perchnogion eraill – gall trawsgludwr eich helpu i wneud hyn.

  2. Llwythwch i lawr a llenwch ffurflen SEV i gofrestru cyfyngiad heb gytundeb y perchnogion eraill. Gallwch lenwi ffurflen RX1 hefyd i gofrestru ‘cyfyngiad Ffurf A’ os na allwch ddarparu unrhyw dystiolaeth o opsiynau holltiad a restrir yn ffurflen SEV.

  3. Paratowch unrhyw ddogfennau cefnogol y mae angen ichi eu cynnwys.

  4. Anfonwch y ffurflen a’r dogfennau cefnogol i Ganolfan Dinasyddion Cofrestrfa Tir EF. Ni chodir ffi.

Dogfennau cefnogol

Dylech gynnwys copi gwreiddiol neu ardystiedig o’r rhybudd o holltiad wedi’i lofnodi gan yr holl berchnogion.

Os na allwch gael llofnodion y perchnogion eraill gallwch anfon llythyr yn lle hynny yn ardystio eich bod wedi gwneud un o’r canlynol gyda’r rhybudd o holltiad:

  • ei roi i’r holl berchnogion eraill
  • ei adael yng nghartref neu gyfeiriad busnes hysbys diwethaf y perchnogion eraill yn y DU
  • ei anfon trwy’r post cofrestredig neu bost cofnodedig i gyfeiriad cartref neu fusnes hysbys diwethaf y perchnogion eraill ac ni chafodd ei ddychwelyd fel post heb ei anfon

Sut i wneud cais os yw’r perchnogion eraill yn cytuno ar y newid

  1. Llwythwch i lawr a llenwch ffurflen SEV i gofrestru ‘cyfyngiad Ffurf A’ os yw’r holl berchnogion yn cytuno.

  2. Anfonwch y ffurflen a’r weithred ymddiried i Ganolfan Dinasyddion Cofrestrfa Tir EF. Ni chodir ffi.

Ble i anfon eich cais

HM Land Registry
Citizen Centre
PO Box 74
Gloucester
GL14 9BB

4. Newid o denantiaid cydradd i gyd-denantiaid

Rhaid ichi gael cytundeb yr holl gydberchnogion eraill i newid o fod yn denantiaid cydradd i gyd-denantiaid.

Gall cyfreithiwr, trawsgludwr neu swyddog gweithredol cyfreithiol wneud y cais ichi hefyd.

Sut i wneud cais

  1. Cwblhewch weithred ymddiried newydd neu wedi’i diweddaru – gall trawsgludwr eich helpu i wneud hyn.

  2. Llwythwch i lawr a llenwch y ffurflen i ddileu cyfyngiad, os yw un wedi cael ei gofrestru.

  3. Paratowch unrhyw ddogfennau cefnogol y mae angen ichi eu cynnwys.

  4. Anfonwch y ffurflen a’r dogfennau i Ganolfan Dinasyddion Cofrestrfa Tir EF. Ni chodir ffi.

Dogfennau cefnogol

Rhaid ichi gynnwys un o’r canlynol:

  • copi gwreiddiol neu ardystiedig o’r weithred ymddiried newydd neu wedi’i diweddaru wedi’i lofnodi gan yr holl berchnogion
  • copi ardystiedig o drosglwyddiad yn dangos bod yr holl berchnogion sydd â chyfrannau unigol o’r eiddo wedi trosglwyddo’r rhain i’r holl gyd-denantiaid llesiannol
  • tystysgrif gan eich trawsgludwr yn cadarnhau bod yr holl berchnogion sydd â chyfrannau o’r eiddo wedi llofnodi gweithred ymddiried newydd
  • datganiad statudol wedi’i baratoi gan eich trawsgludwr
  • ‘datganiad o wirionedd’ – naill ai un rydych wedi’i baratoi eich hun neu gan ddefnyddio ffurflen ST5

Os ydych yn anfon datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd, rhaid cynnwys copi ardystiedig o’r weithred ymddiried newydd neu’r trosglwyddiad.

Rhaid i ddatganiad o wirionedd fod:

  • yn ysgrifenedig a chynnwys y geiriau “Credaf fod y ffeithiau a’r materion sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn yn gywir”
  • wedi’i lofnodi gan y sawl sy’n ei wneud

Rhaid i’r dogfennau cefnogol brofi pob un o’r canlynol:

  • nid oes gan unrhyw un arall heblaw’r cydberchnogion a enwir gyfrannau’r eiddo
  • nid oes un o’r cydberchnogion yn mynd yn fethdalwr, nid oes unrhyw un â gorchymyn tâl gan gredydwyr neu’n morgeisio ei gyfran o’r eiddo
  • mae’r holl gydberchnogion yn berchen ar yr eiddo gyda’i gilydd erbyn hyn fel cyd-denantiaid llesiannol

Ble i anfon eich cais

HM Land Registry
Citizen Centre
PO Box 74
Gloucester
GL14 9BB

5. Gwerthu pan fydd perchennog wedi colli gallu meddyliol

Rhaid ichi wneud cais i’r Llys Gwarchod os yw pob un o’r canlynol yn gymwys:

  • rydych yn un o 2 neu ragor o berchnogion yr eiddo neu’r tir
  • mae un o’r perchnogion wedi colli ‘gallu meddyliol’
  • rydych am werthu’r eiddo neu’r tir

Mae colli gallu meddyliol yn golygu na all rhywun wneud penderfyniad ei hun ar yr adeg pan fydd angen ei wneud.

Mae hyn yn golygu:

  • na all y perchennog sydd wedi colli gallu meddyliol lofnodi dogfennau cyfreithiol rhwymol a bod angen cymorth arno i wneud penderfyniadau
  • bydd yn rhaid ichi wneud cais i benodi rhywun i gymryd lle’r perchennog sydd wedi colli gallu er mwyn i’r eiddo gael ei werthu

Penodi rhywun i weithredu ar ran perchennog

Bydd yn rhaid ichi benodi rhywun i weithredu ar ran y perchennog sydd wedi colli gallu meddyliol hyd yn oed:

Efallai na fydd yn rhaid ichi wneud cais os oes pŵer atwrnai cofrestredig gennych.

Darllenwch y cyfarwyddyd ar werthu eiddo cydberchnogaeth (COP GN2) i weld a oes angen ichi wneud cais.

Cael y ffurflenni

Llwythwch i lawr a llenwch:

Ffïoedd

Codir ffi o £408 i wneud cais. Efallai y bydd yn rhaid ichi dalu £494 ychwanegol os yw’r llys yn penderfynu bod angen cynnal gwrandawiad.

Darllenwch y cyfarwyddyd ffïoedd i wybod pryd na fydd yn rhaid ichi dalu efallai.

Ymholiadau

Cysylltwch â’r Llys Gwarchod am gymorth ac i wybod a oes yn rhaid ichi lenwi ffurflenni eraill.

Y Llys Gwarchod
courtofprotectionenquiries@hmcts.gov.uk
Ffôn: 0300 456 4600
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Darllenwch ragor am gost galwadau

Gallwch ysgrifennu at y Llys Gwarchod hefyd neu fynd i’r cownter cyhoeddus.

Ni allwch gael cyngor cyfreithiol gan staff y llys.

Anfon eich cais

Anfonwch y copi gwreiddiol ac un copi o bob un o’r canlynol i’r Llys Gwarchod:

  • y ffurflen gais
  • datganiad tyst
  • copi o’r cofnodion yng Nghofrestrfa Tir EF os yw’r gwerthiant yn cynnwys unrhyw dir cofrestredig
  • copi o’r trawsgludiad os yw’r eiddo’n ddigofrestredig
  • unrhyw ddogfennau eraill a gwybodaeth y gofynnir amdanynt

Court of Protection
PO Box 70185
First Avenue House
42-49 High Holborn
London
WC1A 9JA

Dweud wrth bobl am eich cais

Bydd y Llys Gwarchod yn anfon copi o’ch ffurflenni cais atoch, wedi’i stampio â dyddiad cyhoeddi, wythnos ar ôl ichi wneud cais.

Rhaid ichi ddweud wrth (‘cyflwyno’) unrhyw un a enwir yn eich cais (ee y sawl sydd wedi colli gallu) ynghylch gwneud cais o fewn 14 diwrnod o’r dyddiad cyhoeddi.

Darllenwch y cyfarwyddyd (COP1) i wybod pwy i’w hysbysu.

Anfonwch y canlynol atynt:

Gallwch ddweud wrthynt:

  • trwy’r post i’w cyfeiriad cartref
  • trwy ffacs
  • yn bersonol

Cadarnhau eich bod wedi dweud wrth bobl

O fewn 7 diwrnod o gyflwyno’r dogfennau, rhaid ichi lwytho i lawr a llenwi’r ffurflenni (‘tystysgrifau cyflwyno’) yn cadarnhau eich bod wedi dweud wrth:

Anfonwch nhw i gyd gyda’i gilydd i’r Llys Gwarchod – mae’r cyfeiriad i’w weld ar y ffurflenni.

Ar ôl gwneud cais

Darllenwch y cyfarwyddyd i gael gwybod beth sy’n digwydd os oes rhaid ichi fynd i wrandawiad yn y Llys Gwarchod.

Diweddarwch y cofnodion eiddo ar ôl ichi benodi rhywun i weithredu ar gyfer y perchennog sydd wedi colli gallu meddyliol.

Os yw’ch cais yn cael ei wrthod ac ni chawsoch wrandawiad

Gallwch ofyn i benderfyniad gael ei ailystyried os yw’ch cais yn cael ei wrthod ac ni chawsoch wrandawiad.

Llwythwch i lawr a llenwch ffurflen gais COP9.

Anfonwch y gwreiddiol, un copi o’r ffurflen ac unrhyw ddogfennau y gofynnir amdanynt yn y ffurflen i’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Rhaid ichi wneud cais o fewn 21 diwrnod i’r penderfyniad gael ei wneud.

Mae’n rhad ac am ddim.

Os yw’ch cais yn cael ei wrthod a chawsoch wrandawiad

Gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad os yw’ch cais yn cael ei wrthod a chawsoch wrandawiad llafar.

Llwythwch i lawr a llenwch hysbysiad apelydd (COP35).

Anfonwch yr hysbysiad ac unrhyw ddogfennau eraill y gofynnir amdanynt yn y ffurflen i’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Rhaid ichi wneud cais o fewn 21 diwrnod i’r penderfyniad gael ei wneud neu o fewn y terfyn amser a osodwyd gan y barnwr a wrthododd eich cais.

Ffïoedd

Codir ffi o £257 i wneud cais. Efallai y bydd yn rhaid ichi dalu £494 ychwanegol os yw’r llys yn penderfynu bod angen cynnal gwrandawiad.

Darllenwch y cyfarwyddyd ffïoedd i wybod pryd na fydd yn rhaid ichi dalu efallai.

Ceisiadau brys

Cysylltwch â’r Llys Gwarchod i wneud cais brys, ee i atal rhywun sydd heb y gallu meddyliol rhag cael ei symud o’r lle mae’n byw.