Cwynion Budd-dal Plant
Cysylltwch â’r Swyddfa Budd-dal Plant os ydych am gwyno am y gwasanaeth a gawsoch, camgymeriadau y mae’r swyddfa wedi’u gwneud neu am oedi afresymol.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Sut i gwyno
Gallwch wneud y canlynol:
- cwyno ar-lein gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth - os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un wrth i chi wneud eich cwyn
- ffonio neu ysgrifennu i’r Swyddfa Budd-dal Plant - fel arfer ymdrinnir â chwynion dros y ffôn yn gyflymach
Os ydych yn ysgrifennu, dylech gynnwys y canlynol:
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- eich enw llawn, cyfeiriad a rhif ffôn
- manylion beth ddigwyddodd a pha bryd
- unrhyw gyfeirnodau a roddwyd i chi
- sut yr hoffech i ni ddelio â’ch cŵyn
- y gair ‘cŵyn’ wedi’i nodi ar frig eich llythyr
Bydd y Swyddfa Budd-dal Plant fel arfer yn ateb cyn pen 15 diwrnod gwaith.
Os ydych yn anfodlon â’r ateb
Gofynnwch i’r Swyddfa Budd-dal Plant adolygu eu hymateb - bydd eu llythyr yn rhoi gwybod i chi sut i wneud hyn.
Os nad ydych yn fodlon â’r penderfyniad terfynol, gallwch gysylltu â’r Dyfarnwr Annibynnol.
Gallwch hefyd gysylltu â’ch AS (yn agor tudalen Saesneg) a gofyn iddo/iddi anfon eich cwyn at yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd (yn agor tudalen Saesneg).
Mae’n bosibl y gallwch hawlio costau rhesymol (er enghraifft, costau postio neu am alwadau ffôn) os yw’r Swyddfa Budd-dal Plant yn cyfaddef iddynt wneud camgymeriad - gofynnwch iddynt am fanylion.