Credyd Cynhwysol

Printable version

1. Beth yw Credyd Cynhwysol

Mae Credyd Cynhwysol yn daliad i’ch helpu gyda’ch costau byw. Mae’n cael ei dalu’n fisol – neu ddwywaith y mis i rai pobl yn yr Alban.

Efallai y gallwch ei gael os ydych ar incwm isel, allan o waith neu ni allwch weithio.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English) ac mewn fformat hawdd ei ddeall.

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon ewch i Credyd Cynhwysol yng Ngogledd Iwerddon.

Mewngofnodi

Mewngofnodwch i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol os oes gennych un yn barod.

Os ydych yn cael budd-daliadau’n barod

Bydd Credyd Cynhwysol yn disodli’r budd-daliadau a chredydau treth canlynol:

  • Credyd Treth Plant
  • Budd-dal Tai
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
  • Credyd Treth Gwaith

Os ydych yn cael unrhyw un o’r budd-daliadau neu gredydau treth hyn, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth oni bai:

  • bod eich amgylchiadau yn newid
  • rydych yn derbyn llythyr a elwir yn ‘Hysbysiad Trosglwyddo’ yn dweud wrthych fod rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol

Os ydych yn derbyn Hysbysiad Trosglwyddo, mae’n rhaid i chi symud i Gredyd Cynhwysol o fewn 3 mis i barhau i gael cymorth ariannol.

Bydd y budd-daliadau a chredydau treth hyn yn dod i ben pan rydych chi neu’ch partner yn hawlio Credyd Cynhwysol. Os ydych chi neu’ch partner yn cael Credyd Pensiwn, bydd hwn hefyd yn dod i ben os yw un ohonoch yn hawlio Credyd Cynhwysol.

Byddwch yn parhau i gael unrhyw fudd-daliadau eraill rydych yn eu cael, fel Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) neu Lwfans Gofalwr.  

Gallwch ddarllen mwy am sut mae credydau treth a Chredyd Cynhwysol yn effeithio ar ei gilydd

Os ydych yn cael budd-daliadau penodol eraill ar yr un pryd â Chredyd Cynhwysol, bydd y swm o Gredyd Cynhwysol rydych yn ei gael yn cael ei leihau..

2. Cymhwyster

Efallai y gallwch gael Credyd Cynhwysol os ydych ar incwm isel neu angen help gyda’ch costau byw. Gallech fod:

  • allan o waith
  • yn gweithio (gan gynnwys hunangyflogaeth a rhan amser)
  • yn methu gweithio, er enghraifft oherwydd cyflwr iechyd

I hawlio rhaid i chi fod:

  • yn byw yn y DU
  • yn 18 oed neu drosodd (mae rhai eithriadau os ydych chi rhwng 16 a 17 oed)
  • o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • â £16,000 neu lai mewn arian, cynilion a buddsoddiadau

Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau i wirio pa fudd-daliadau y gallech chi eu cael.

Os ydych chi’n ddinesydd o’r UE, yr AEE neu’r Swistir

Efallai y bydd angen statws sefydlog neu wedi’i setlo ymlaen llaw arnoch chi a’ch teulu o dan Gynllun Setliad yr UE i gael Credyd Cynhwysol. Gwiriwch a allwch barhau i wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog yr UE.

Os ydych chi’n byw gyda’ch partner

Bydd angen i’r ddau ohonoch hawlio am Gredyd Cynhwysol. Rhaid i chi wneud cais ar y cyd am eich cartref, hyd yn oed os nad yw’ch partner yn gymwys. Bydd faint y gallwch ei gael yn dibynnu ar incwm a chynilion eich partner, yn ogystal â’ch incwm chi.

Os yw un ohonoch wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Os mai dim ond un ohonoch sydd wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch chi a’ch partner hawlio Credyd Cynhwysol fel cwpl o hyd. Bydd eich hawliad Credyd Cynhwysol yn dod i ben pan fydd y ddau ohonoch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Os ydych yn cael Credyd Pensiwn bydd hwn yn dod i ben os ydych chi neu’ch partner yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol. Fel arfer byddwch well eich byd yn aros ar Gredyd Pensiwn, gallwch wirio gan ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau.

Os ydych chi’n astudio neu mewn hyfforddiant

Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych chi mewn addysg amser llawn ac mae unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych chi’n byw gyda’ch partner ac maen nhw’n gymwys i gael Credyd Cynhwysol
  • rydych chi’n gyfrifol am blentyn, naill ai fel person sengl neu fel cwpl
  • rydych chi wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac yn byw gyda phartner sydd o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Gallwch hefyd hawlio Credyd Cynhwysol os ydych chi’n 21 neu’n iau, yn astudio unrhyw gymhwyster hyd at Lefel A neu gyfwerth ac nad oes gennych gefnogaeth rhieni.

Efallai y gallwch hawlio os ydych chi’n astudio’n rhan-amser neu’n gwneud cwrs nad oes benthyciad na chyllid myfyriwr ar gael ar ei gyfer.

Gwiriwch y canllawiau ynghylch hawlio Credyd Cynhwysol fel myfyriwr.

Myfyrwyr ag anableddau neu gyflyrau iechyd

Gallwch hawlio Credyd Cynhwysol os ydych mewn addysg llawn-amser, ac wedi cael eich asesu fel bod â gallu cyfyngedig i weithio gan Asesiad Gallu i Weithio cyn dechrau eich cwrs. Rhaid i chi hefyd fod â hawl i unrhyw un o’r canlynol:

  • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
  • Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
  • Taliad Plant Anabl (CDP) yn yr Alban
  • Lwfans Gweini
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • Taliad Anabledd Oedolion (ADP) yn Yr Alban

Hawlio os ydych chi’n 16 neu’n 17 oed

Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae gennych gyflwr iechyd neu anabledd a bod gennych dystiolaeth feddygol ar ei gyfer, fel nodyn ffitrwydd
  • rydych yn gofalu am rywun sy’n cael budd-dal yn seiliedig ar iechyd neu anabledd
  • yn gyfrifol am blentyn
  • rydych chi’n byw gyda’ch partner, mae gennych gyfrifoldeb am blentyn ac mae’ch partner yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol
  • rydych chi’n feichiog ac yn disgwyl eich babi yn yr 11 wythnos nesaf
  • rydych chi wedi cael babi yn ystod y 15 wythnos ddiwethaf
  • nid oes gennych gefnogaeth rhieni, er enghraifft nid ydych yn byw gyda’ch rhieni ac nid ydych o dan ofal awdurdod lleol

Os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd

Os oes gennych gyflwr iechyd sy’n effeithio ar eich gallu i weithio efallai y cewch arian ychwanegol ar gyfer Credyd Cynhwysol.

3. Beth fyddwch yn ei gael

Mae Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu’n fisol. Mae faint byddwch yn ei gael yn dibynnu ar:

  • eich lwfans safonol
  • unrhyw symiau ychwanegol sy’n berthnasol i chi
  • unrhyw arian sy’n cael ei gymryd o’ch taliad
  • os ydych yn gweithio, faint rydych yn ei ennill

Gwelwch faint gallwch ei gael gan ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau.

Lwfans safonol

Byddwch yn cael un lwfans safonol ar gyfer eich aelwyd.

Faint byddwch yn ei gael Lwfans safonol misol
Sengl ac o dan 25 oed £311.68
Sengl a 25 oed neu drosodd £393.45
Mewn cwpl ac mae’r ddau ohonoch o dan 25 oed £489.23 (i’r ddau ohonoch)
Mewn cwpl ac mae un ohonoch yn 25 oed neu drosodd £617.60 (i’r ddau ohonoch)

Symiau ychwanegol

Efallai y cewch fwy o arian ar ben eich lwfans safonol os ydych yn gymwys.

Os oes gennych blant

Gallwch gael swm ychwanegol ar gyfer eich plentyn os ydynt yn byw gyda chi. Byddwch yn cael y swm ychwanegol hyd at y 31 Awst ar ôl ei:

  • ben-blwydd yn 16 oed
  • ben-blwydd yn 19 oed, os ydynt mewn addysg neu hyfforddiant cymwys - er enghraifft, maent yn astudio ar gyfer TGAU, Lefelau A, BTEC, Scottish Highers a SVQs neu NVQs hyd at lefel 3.

Byddwch ond yn cael y swm ychwanegol ar gyfer eich plentyn cyntaf a’ch ail blentyn. Ni fyddwch yn cael y swm ychwanegol am ragor o blant oni bai:

Faint byddwch yn ei gael Swm ychwanegol y mis
Ar gyfer eich plentyn cyntaf £333.33 (a aned cyn 6 Ebrill 2017)
£287.92 (a aned ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017)
Ar gyfer eich ail blentyn ac unrhyw blant cymwys eraill £287.92 y plentyn

Byddwch hefyd yn cael swm ychwanegol os oes anabledd gan unrhyw un o’ch plant. Rydych yn gymwys am y swm ychwanegol hwn heb ots faint o blant sydd gennych.

Byddwch yn cael:

  • £156.11 os oes gan eich plentyn anabledd
  • £487.58 os oes gan eich plentyn anabledd difrifol

Costau gofal plant

Gallwch hawlio hyd at 85% o’ch costau gofal plant yn ôl os ydych yn gweithio. Os ydych yn byw gyda’ch partner rhaid i’r ddau ohonoch fod mewn gwaith, oni bai bod un ohonoch yn methu â gweithio oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd.

Mae angen i’r gofal plant ddod gan ddarparwr cofrestredig. Gallwch gael help i dalu am ofal plant gan gynnwys meithrinfeydd, gwarchodwyr plant, clybiau brecwast, gofal ar ôl ysgol a chlybiau gwyliau.

Y mwyaf y gallwch ei gael bob mis yw:

  • £1,014.63 am un plentyn
  • £1,739.37 am 2 blentyn neu fwy

Mae angen i chi dalu eich costau gofal plant ymlaen llaw a hawlio’r arian yn ôl fel rhan o’ch taliad. Gallwch gael cymorth i helpu talu eich costau gofal plant ymlaen llaw. Siaradwch â’ch anogwr gwaith ar ôl gwneud eich cais.

Darllenwch fwy am gostau gofal plant a Chredyd Cynhwysol.

Os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd

Faint fyddwch yn ei gael Swm ychwanegol y mis
Os oes gennych allu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith £416.19
Os oes gennych allu cyfyngedig i weithio ac wedi dechrau eich cais Credyd Cynhwysol yn gysylltiedig ag iechyd neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) cyn 3 Ebrill 2017 £156.11

Os ydych yn byw gyda’ch partner ac os oes gan y ddau ohonoch allu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith, dim ond un swm misol ychwanegol fyddwch chi’n ei gael.

Os cewch y premiwm anabledd difrifol ac rydych yn symud i Gredyd Cynhwysol, efallai y byddwch hefyd yn gymwys am daliad ‘amddiffyn wrth bontio’.

Darllenwch fwy am gyflyrau iechyd, anabledd a Chredyd Cynhwysol.

Os ydych yn gofalu am rywun sy’n cael budd-dal yn seiliedig ar iechyd neu anabledd

Gallwch gael swm ychwanegol os ydych yn gofalu am rywun sy’n cael un o’r budd-daliadau canlynol:

Mae angen i chi ddarparu gofal iddynt am o leiaf 35 awr yr wythnos.

Byddwch yn cael swm ychwanegol misol o £198.31

Mae hyn ar ben unrhyw swm ychwanegol rydych yn ei gael os oes gennych blentyn anabl.l.

Costau tai

Gallech gael arian i helpu i dalu eich costau tai. Gall y taliad gwmpasu rhent a rhywfaint o daliadau gwasanaeth.

Os ydych yn berchen ar eich cartref, efallai y gallech gael benthyciad i helpu gyda thaliadau llog ar eich morgais.

Arian sy’n cael ei dynnu o’ch taliad

Efallai caiff eich taliad ei leihau os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn talu taliad ymlaen llaw ar daliad Credyd Cynhwysol yn ôl
  • byddwch wedi cael y swm sy’n cael ei gyfyngu gan y cap ar fudd-daliadau
  • rydych wedi cael eich gordalu budd-dal yn y gorffennol
  • rydych yn ddyledus am Dreth Cyngor, dirwyon llys, ynni, nwy, dŵr neu Gynhaliaeth Plant
  • rydych yn talu eich bil ynni neu nwy yn uniongyrchol o’ch taliad Credyd Cynhwysol
  • mae gennych swydd â thâl
  • mae gennych incwm arall - er enghraifft, arian o bensiynau neu fudd-daliadau penodol eraill
  • mae gennych fwy na £6,000 mewn arian, cynilion a buddsoddiadau

Os oes gennych dros £6,000 mewn arian, cynilion a buddsoddiadau, bydd eich taliad yn cael ei leihau £4.35 am bob £250 sydd gennych rhwng £6,000 a £16,000. Mae £4.35 arall yn cael ei dynnu oddi ar unrhyw swm sy’n weddill nad yw’n £250 cyflawn.

Darganfyddwch fwy am arian sy’n cael ei dynnu o’ch taliad Credyd Cynhwysol.

Budd-daliadau sy’n effeithio ar faint o Gredyd Cynhwysol rydych chi’n ei gael  

Gallwch gael Credyd Cynhwysol ar yr un pryd â budd-daliadau eraill. Bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei leihau gan swm sy’n hafal i daliad y budd-dal arall. Mae hyn yn berthnasol pan fyddwch yn cael Credyd Cynhwysol ac unrhyw un o’r budd-daliadau canlynol:  

  • Pensiynau’r Lluoedd Arfog
  • Lwfans Gofalwr  
  • Taliad Cymorth i Ofalwyr (Yr Alban)
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (ac eithrio unrhyw gynnydd lle mae angen gweini cyson ac am analluogrwydd eithriadol o ddifrifol)
  • Lwfans Mamolaeth
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd
  • Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Pensiwn y Wladwriaeth
  • Lwfans Mam Weddw
  • Lwfans Rhiant Gweddw

Symud i Gredyd Cynhwysol o fudd-daliadau eraill

Os ydych wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, byddwch yn parhau i gael eich budd-dal presennol am 2 wythnos yn fwy. Rhaid eich bod yn gymwys am eich budd-dal presennol.

Mae hwn ond yn berthnasol os ydych yn cael:

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
  • Cymhorthdal Incwm
  • Budd-dal Tai

Ni fydd angen i chi dalu’r taliadau ychwanegol yn ôl ac ni fyddent yn effeithio ar y Credyd Cynhwysol y gallech ei gael.

Cymorth arall y gallech ei gael

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol efallai y gallwch gael cymorth ariannol arall yn dibynnu ar eich amgylchiadau

Os bydd eich cais Credyd Cynhwysol yn cael ei adolygu

 Mae’n bosibl y bydd eich cais yn cael ei adolygu i wneud yn siŵr eich bod yn cael y taliad a’r cymorth cywir. Darganfyddwch fwy am Adolygiadau Credyd Cynhwysol.

4. Sut mae eich cyflog yn effeithio eich taliadau

Os ydych chi neu’ch partner yn gweithio, bydd faint o Gredyd Cynhwysol a gewch yn dibynnu ar faint rydych yn ei ennill. Nid oes terfyn ar faint o oriau y gallwch weithio a pharhau i gael Credyd Cynhwysol.

Os bydd eich cyflog yn mynd i fyny, bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn lleihau. Os byddwch yn rhoi’r gorau i weithio neu os bydd eich cyflog yn gostwng, bydd eich taliad yn cynyddu.

Mae rheolau gwahanol os ydych yn hunangyflogedig.

Am bob £1 rydych yn ei ennill drwy weithio, bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn mynd i lawr 55c. Eich incwm fydd eich cyflog a’ch taliad Credyd Cynhwysol newydd.

Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i weld sut mae eich Credyd Cynhwysol yn newid os yw eich cyflog yn mynd i fyny.

Bydd y rhan fwyaf o gyflogwyr yn rhoi gwybod am eich enillion ar eich cyfer. Fel arfer bydd ond rhaid i chi roi gwybod am eich enillion misol os ydych yn hunangyflogedig.

Os oes gennych anabledd, cyflwr iechyd neu blant

Gallwch ennill swm penodol cyn mae eich Credyd Cynhwysol yn dechrau cael ei leihau os ydych chi neu’ch partner naill ai:

Gelwir hyn yn ‘lwfans gwaith’. Mae faint y gallwch ei ennill cyn i’ch taliad Credyd Cynhwysol gael ei leihau yn dibynnu a ydych yn cael costau tai.

Os ydych yn cael help gyda chostau tai, bydd eich taliad yn dechrau lleihau pan fydd eich cyflog misol yn cyrraedd £404.

Os nad ydych yn cael help gyda chostau tai, bydd eich taliad yn dechrau lleihau pan fydd eich cyflog misol yn cyrraedd £673.

Pa mor aml a faint rydych yn cael eich talu

Cyfrifir swm y Credyd Cynhwysol a gewch bob mis. Gelwir hyn yn ‘cyfnod asesu misol’.

Dylai eich swm Credyd Cynhwysol aros yr un fath os:

  • yw eich cyflogwr yn talu’r un swm i chi bob mis

  • yw eich cyflogwr yn eich talu ar yr un dyddiad

  • nad yw eich amgylchiadau personol yn newid

Bydd eich swm Credyd Cynhwysol yn cael ei effeithio os:

  • nad ydych yn cael eich talu yn ystod cyfnod asesu misol

  • ydych yn cael eich talu fwy nag unwaith mewn cyfnod asesu misol

  • ydych yn ennill swm gwahanol ym mhob cyfnod asesu misol

Gallwch wirio faint o Gredyd Cynhwysol y byddwch yn cael eich talu drwy fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein.

Darllenwch fwy am Gredyd Cynhwysol ac enillion.

Os yw eich taliad Credyd Cynhwysol yn dod i ben oherwydd bod eich cyflog wedi cynyddu

Wrth i’ch cyflogau chi neu eich partner gynyddu, bydd eich taliadau Credyd Cynhwysol yn lleihau nes eich bod yn ennill digon i beidio â chael Credyd Cynhwysol mwyach. Yna bydd eich taliadau yn cael eu stopio. Cewch eich hysbysu pan fydd hyn yn digwydd.

Os bydd eich cyflog yn gostwng ar ôl hyn, gallech ddod yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol eto.

Os yw wedi bod yn 6 mis neu lai ers eich taliad Credyd Cynhwysol diwethaf, byddwch yn dechrau cael taliadau eto’n awtomatig. Os yw wedi bod yn fwy na 6 mis, bydd angen i chi wneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol.

5. Sut rydych yn cael eich talu

Mae Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu unwaith y mis, fel arfer i mewn i’ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd.

Gall eich taliad gynnwys swm am eich rhent neu gostau tai eraill. Byddwch fel arfer angen talu hwn i’ch landlord.

Os nad ydych yn gallu agor cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd, ffoniwch linell gymorth Credyd Cynhwysol i drefnu ffordd wahanol o gael eich talu.

Darganfyddwch sut y byddwch yn cael eich talu os ydych yng Ngogledd Iwerddon.

Eich taliad cyntaf

Fel arfer mae’n cymryd tua 5 wythnos i gael eich taliad cyntaf. Os oes angen arian arnoch tra byddwch yn aros am eich taliad cyntaf, gallwch wneud cais am daliad ymlaen llaw.

Eich cyfnodau asesu misol

Mae Credyd Cynhwysol yn cael ei gyfrifo yn seiliedig ar eich amgylchiadau bob mis. Gelwir y rhain yn ‘cyfnodau asesu’. Fel arfer byddwch yn cael eich taliad Credyd Cynhwysol 7 diwrnod ar ôl i bob cyfnod asesu ddod i ben.

Gall newidiadau i’ch amgylchiadau effeithio ar faint rydych yn cael eich talu am eich cyfnod asesu. Dylech roi wybod am unrhyw newid mewn amgylchiadau er mwyn cael y swm cywir.

Mae eich cyfnod asesu cyntaf yn dechrau ar y diwrnod y byddwch yn gwneud eich cais.

Enghraifft

Mae Sam yn gwneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol ar 10 Medi.

Mae cyfnod asesu cyntaf Sam yn rhedeg am fis hyd at 9 Hydref, gyda chyfnod asesu newydd yn dechrau ar 10 Hydref.

Byddent yn cael eu talu ar 17 Hydref ac yna’r 17eg o bob mis ar ôl hynny.

Dyddiadau talu

Ar ôl y taliad cyntaf byddwch yn cael eich talu ar yr un dyddiad bob mis.

Os yw’ch dyddiad talu ar benwythnos neu wyliau banc, cewch eich talu ar y diwrnod gwaith blaenorol.

Gallwch weld eich datganiad misol yn eich cyfrif ar-lein. Mae hwn yn dweud wrthych faint o Gredyd Cynhwysol byddwch yn ei gael.

Os ydych yn byw yn yr Alban

Gallwch gael eich talu unwaith neu dwywaith y mis.

Os ydych yn gwneud cais newydd, byddwch yn derbyn hysbysiad am ba mor aml rydych eisiau cael eich talu. Rydych yn cael hwn ar ôl eich taliad cyntaf.

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol yn barod a heb gael hysbysiad, gallwch ofyn i’ch anogwr gwaith os gallwch gael eich talu ddwywaith y mis.

Pan fyddwch yn cael eich talu ddwywaith y mis, bydd eich taliad cyntaf am fis llawn. Fe gewch hanner cyntaf taliad eich ail fis mis ar ôl hyn. Bydd yr ail hanner yn cael ei dalu 15 diwrnod yn hwyrach. Mae hyn yn golygu y bydd tua mis a hanner rhwng eich taliad cyntaf a’r swm llawn ar gyfer eich ail fis.

Ar ôl hyn, cewch eich talu ddwywaith y mis.

Enghraifft

Rydych yn cael eich taliad cyntaf ar 14 Rhagfyr. Mae’r taliad hwn am fis llawn.

Os cewch eich talu ddwywaith y mis, cewch hanner eich ail daliad ar 14 Ionawr a’r hanner arall ar 29 Ionawr.

Byddwch yn cael eich talu ar y 14eg a 29ain o bob mis ar ôl hynny.

Os ydych yn byw gyda phartner

Os yw’r ddau ohonoch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, byddwch yn cael un taliad bob mis ar gyfer eich cartref.

Os ydych yn byw yn yr Alban ac rydych wedi dewis i gael eich talu ddwywaith y mis, byddwch yn cael 2 daliad bob mis i’ch cartref.

Ffoniwch linell gymorth Credyd Cynhwysol os ydych yn poeni am gael mynediad at yr arian hwn.

Gofynnwch am newid sut rydych yn cael eich talu

Gallwch ofyn i gael eich Credyd Cynhwysol wedi’i dalu’n wahanol os oes angen help arnoch i reoli un taliad misol. Gelwir hwn yn drefniant talu amgen (APA). Gall gael APA feddwl:

  • bod eich rhent yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’ch landlord
  • eich bod yn cael taliadau ddwywaith y mis yn lle unwaith
  • eich bod wedi trefnu i gael taliad ar wahân i’ch partner

Dylech gysylltu â Chredyd Cynhwysol ar ôl i chi wwneud cais i ofyn am APA. Byddant yn penderfynu a ddylech gael APA yn seiliedig ar eich amgylchiadau.

Rydych chi’n fwy tebygol o gael APA os oes gennych chi bethau fel:

  • rhent heb ei dalu (a elwir hefyd yn ‘ôl-ddyledion rhent’)
  • problemau dibyniaeth
  • problemau iechyd meddwl
  • anawsterau dysgu
  • profiad o ddigartrefedd
  • profiad o gam-drin domestig

6. Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein.

Mae angen i chi greu cyfrif i wneud cais. Rhaid i chi gwblhau’ch cais o fewn 28 diwrnod ar ôl creu eich cyfrif neu bydd yn rhaid i chi ddechrau eto. Mae eich cais yn dechrau ar y dyddiad rydych yn ei gyflwyno yn eich cyfrif.

Os ydych chi’n byw gyda’ch partner, bydd angen i’r ddau ohonoch greu cyfrifon. Byddwch yn eu cysylltu gyda’i gilydd pan fyddwch chi’n gwneud cais. Ni allwch wneud cais ar ben eich hun.

Os na allwch wneud cais ar-lein, gallwch wneud cais dros y ffôn trwy’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol.

Gwiriwch a ydych yn well eich byd ar Gredyd Cynhwysol cyn gwneud cais

Os ydych yn cael budd-daliadau neu gredydau treth yn barod, dylech weithio allan os byddwch yn well eich byd cyn i chi neu’ch partner hawlio Credyd Cynhwysol.

Os ydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol efallai daw’r budd-daliadau hynny i ben a ni fydd modd gwneud cais amdanynt eto, hyd yn oed os na chaiff eich cais ei gymeradwyo.

I wirio os byddwch yn well eich byd, gallwch:

Beth rydych angen i wneud cais

I wneud cais ar-lein byddwch angen:

  • manylion eich cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd
  • cyfeiriad e-bost
  • mynediad i ffôn

Os nad oes gennych y rhain, gallwch ffonio’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol neu fynd i ganolfan byd gwaith. Gallwch hefyd gael cefnogaeth gan y gwasanaeth Cymorth i Hawlio gan Cyngor ar Bopeth.

Bydd yn rhaid i chi brofi’ch hunaniaeth hefyd. Bydd angen rhai dogfennau adnabod ar gyfer hyn, er enghraifft eich:

  • trwydded yrru
  • pasbort
  • cerdyn debyd neu gredyd
  • slip cyflog neu P60

I gwblhau’ch cais bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth am:

  • eich tai, er enghraifft faint o rent rydych chi’n ei dalu
  • eich enillion, er enghraifft slipiau cyflog
  • unrhyw anabledd neu gyflwr iechyd sy’n effeithio ar eich gwaith
  • faint rydych chi’n ei dalu am ofal plant os ydych chi eisiau cymorth gyda chostau gofal plant
  • eich cynilion ac unrhyw fuddsoddiadau, fel cyfranddaliadau neu eiddo rydych chi’n ei rentu allan
  • eich rhif Yswiriant Gwladol, os oes gennych un
  • budd-daliadau eraill rydych yn eu cael

Efallai y bydd angen apwyntiad arnoch gyda’r tîm Credyd Cynhwysol:

  • mae angen mwy o wybodaeth arnyn nhw
  • ni allwch wirio’ch hunaniaeth ar-lein

Fe’ch hysbysir a fydd yr apwyntiad hwn mewn canolfan byd gwaith neu ar y ffôn.

Gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein

Gwneud cais nawr

Cymorth gyda’ch cais

Mae 2 ffordd i gael help gyda’ch cais Credyd Cynhwysol. Gallwch naill ai ffonio’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol neu ddefnyddio’r gwasanaeth Cymorth i Hawlio.

Mae galwadau i’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol am ddim.

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol
Ffôn: 0800 328 5644
Cymraeg: 0800 328 1744
Relay UK (os na allwch glywed na siarad ar y ffôn): 18001 yna 0800 328 5644
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) Gwasanaeth Video Relay os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen Ffôn testun: 0800 328 1344
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am daliadau galwadau

Cymorth i wneud cais

Gallwch gael cefnogaeth am ddim gan gynghorwyr hyfforddedig i wneud hawliad Credyd Cynhwysol. Gallant eich helpu gyda phethau fel ceisiadau ar-lein neu baratoi ar gyfer eich apwyntiad canolfan byd gwaith gyntaf.

Darperir y gwasanaeth Cymorth i Hawlio gan Gyngor ar Bopeth ac mae’n gyfrinachol. Ni fyddant yn rhannu eich gwybodaeth bersonol oni bai eich bod yn cytuno.

Os ydych chi wedi hawlio Credyd Cynhwysol o’r blaen

Mewngofnodwch i’ch cyfrif i gychwyn cais newydd.

Os ydych chi’n anghytuno â phenderfyniad

Gallwch herio penderfyniad ynghylch eich cais. Gelwir hyn yn gofyn am ailystyriaeth orfodol.

7. Cael taliad ymlaen llaw ar eich taliad cyntaf

Os ydych angen help i dalu eich biliau neu gostau eraill tra rydych yn aros am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf, gallwch wneud cais am daliad ymlaen llaw.

Y mwyaf y gallwch ei gael fel taliad ymlaen llaw yw swm eich taliad cyntaf amcangyfrifiedig.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am daliad ymlaen llaw yn eich cyfrif ar-lein neu drwy eich anogwr gwaith yn y Ganolfan Byd Gwaith.

Byddwch angen:

  • egluro pam rydych angen taliad ymlaen llaw
  • dilysu eich hunaniaeth (rydych yn gwneud hyn pan rydych yn gwneud cais ar-lein neu yn ystod eich apwyntiad ffôn cyntaf gyda’ch anogwr gwaith)
  • darparu manylion banc ar gyfer y taliad ymlaen llaw (siaradwch â’ch anogwr gwaith os nad ydych yn gallu agor cyfrif)

Fel arfer cewch wybod ar yr un diwrnod os gallwch gael taliad ymlaen llaw.

Os ydych angen help

Ffoniwch linell gymorth Credyd Cynhwysol os ydych angen help i wneud cais am daliad ymlaen llaw.

Sut i dalu eich taliad ymlaen llaw yn ôl

Fel arfer, bydd rhaid talu taliad ymlaen llaw yn ôl o fewn 24 mis. Rydych yn dechrau talu hwn yn ôl gyda’ch taliad cyntaf.

Enghraifft

Eich taliad amcangyfrifedig cyntaf yw £344 ac rydych yn cael £344 fel taliad ymlaen llaw.

Rydych yn talu’ch taliad ymlaen llaw yn ôl dros 24 mis, sef £14.33 y mis. Byddwch yn cael £329.67 ar eich dyddiad taliad cyntaf – hwn yw’ch taliad cyntaf minws y rhan rydych yn ad-dalu (£344 minws £14.33).

Darllenwch fwy am gael taliad ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol.

8. Eich ymrwymiad hawlydd

I gael taliadau Credyd Cynhwysol, bydd angen i chi dderbyn cytundeb o’r enw ‘ymrwymiad hawlydd’.

Dyma gofnod o’r hyn yr ydych yn cytuno i’w wneud:

  • paratoi ac edrych am waith
  • cynyddu eich enillion, os ydych eisoes yn gweithio.

Os ydych yn byw gyda’ch partner, mae’n rhaid i’r ddau ohonoch hawlio Credyd Cynhwysol. Bydd gennych eich ymrwymiad hawlydd eich hun.

Rhaid i chi wneud popeth rydych yn cytuno iddo yn eich ymrwymiad neu gallai eich taliad gael ei ostwng neu ei stopio. Gelwir hyn yn sancsiwn.

Os yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud efallai y bydd gennych 12 mis neu lai i fyw, ni fydd angen ymrwymiad hawlydd arnoch ac ni fyddwch yn cael cosb.

Cytuno ar eich ymrwymiadau

Bydd gennych gyfarfod i drafod eich ymrwymiad hawlydd, fel arfer yn y ganolfan waith. Yn y cyfarfod hwn byddwch yn trafod eich amgylchiadau ac yn siarad am unrhyw beth a allai ei gwneud hi’n anodd i chi wneud yr hyn sydd yn eich ymrwymiad. Er enghraifft, os oes gennych gyflwr iechyd meddwl, neu os ydych yn gofalu am rywun.

Rhaid i chi dderbyn eich ymrwymiad hawlydd yn eich cyfrif ar-lein neu bydd eich cais am Gredyd Cynhwysol yn cael ei stopio.

Mae eich ymrwymiad hawlydd yn cael ei adolygu’n rheolaidd a bydd yn newid os bydd eich amgylchiadau’n newid. Er enghraifft, os ydych yn mynd yn sâl, mae’ch partner yn dechrau swydd neu os oes gennych blentyn.

Os oes angen i chi chwilio am waith

Efallai bydd angen chwilio am swydd. Os oes gennych swydd, efallai y bydd angen i chi chwilio am swydd sy’n talu’n well neu weithio mwy o oriau.

Mae’r hyn sydd angen i chi ei wneud yn dibynnu ar os ydych :

  • â chyflwr iechyd neu’n anabl
  • yn gofalu am rywun
  • â phlentyn o dan 13 oed
  • yn ennill uwchben swm penodol

Os nad ydych yn gallu gweithio nawr ond byddwch yn gallu yn y dyfodol, efallai bydd angen i chi baratoi ar gyfer gwaith. Gallai hyn gynnwys pethau fel ysgrifennu CV neu fynychu cwrs hyfforddiant.

Eich anogwr gwaith

Os oes angen i chi chwilio am waith, fe gewch gymorth gan ‘anogwr gwaith’. Gall eich anogwr gwaith helpu gyda phethau fel ymgeisio am swyddi, cael mynediad at hyfforddiant neu chwilio am waith yn eich ardal.

Mynychu apwyntiadau

Efallai y bydd angen i chi fynychu apwyntiadau rheolaidd. Mae’r rhain fel arfer yn y ganolfan waith, ond gallai hefyd fod dros y ffôn.

Os ydych yn colli apwyntiad, bydd angen i chi ddarparu rheswm da dros beidio â mynychu. Os na dderbynnir eich rheswm, gallech gael cosb a bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei ostwng.

Rheoli eich cais ar-lein

Bydd yn rhaid i chi reoli eich cais yn eich cyfrif ar-lein. Efallai bydd rhaid i chi ateb negeseuon, cofnodi costau gofal plant, neu ddweud wrthym beth rydych wedi’i wneud i chwilio am waith.

Cewch neges destun neu e-bost pan fydd angen i chi wneud rhywbeth yn eich cyfrif ar-lein.

Bydd yn rhaid i chi hefyd roi gwybod am newidiadau i’ch amgylchiadau.

Cael cymorth a chefnogaeth

Dylech gysylltu â’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol am gymorth yn syth os ydych:

  • yn methu gwneud cais ar-lein ac angen gwneud cais dros y ffôn
  • methu gwneud y pethau rydych wedi cytuno i’w gwneud yn eich ymrwymiad hawlydd
  • yn methu ymateb i neges na gwneud rhywbeth y gofynnir i chi yn eich cyfrif ar-lein
  • am golli apwyntiad

Efallai y byddwch yn gallu cael saib byr neu newid eich ymrwymiad hawlydd mewn argyfwng. Er enghraifft, os oes gennych farwolaeth yn y teulu neu’n wynebu perygl o fod yn ddigartref.

Help os bydd eich taliad yn cael ei stopio neu ei ostwng

Os nad ydych yn gwneud yr hyn sydd yn eich ymrwymiad hawlydd, gallech gael cosb.

Os na allwch dalu am eich anghenion rhent, gwresogi, bwyd neu hylendid oherwydd bod gennych gosb gallwch ofyn i Gredyd Cynhwysol am daliad caledi.

9. Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Mae angen i chi roi gwybod am newidiadau i’ch amgylchiadau fel eich bod yn parhau i gael y swm cywir bob mis.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod am newidiadau mewn amgylchiadau wrth iddynt ddigwydd. Gall unrhyw oedi olygu eich bod yn cael gormod o arian a bydd yn rhaid i chi wneud ad-daliad.

Gall newidiadau yn eich amgylchiadau effeithio ar faint rydych yn cael eich talu am y cyfnod asesu gyfan – nid ond o’r dyddiad rydych yn rhoi gwybod.

Gall newidiadau gynnwys:

  • dod o hyd i neu orffen swydd
  • cael plentyn
  • symud i mewn gyda’ch partner
  • dechrau gofalu am blentyn neu berson anabl
  • newid eich rhif ffôn symudol neu’ch cyfeiriad e-bost
  • symud i gyfeiriad newydd
  • mynd y tu allan i Brydain Fawr am unrhyw gyfnod o amser, os ydych yn byw yno
  • mynd y tu allan i Ogledd Iwerddon am unrhyw gyfnod o amser, os ydych yn byw yno
  • newid eich manylion banc
  • eich rhent yn mynd i fyny neu i lawr
  • newidiadau i’ch cyflwr iechyd
  • dod yn rhy sâl i weithio neu i gyfarfod â’ch anogwr gwaith
  • newidiadau i’ch enillion (dim ond os ydych yn hunangyflogedig)
  • newidiadau i’ch cynilion, buddsoddiadau a faint o arian sydd gennych
  • newidiadau i’ch statws mewnfudo, os nad ydych yn ddinesydd Prydeinig.

Efallai bydd yn rhaid i chi fynd i’r llys neu orfod talu cosb os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir neu ddim yn rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau.

Sut i roi gwybod

Gallwch roi gwybod am newid mewn amgylchiadau drwy fewngofnodi i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol.

Os byddwch yn cael swydd neu’n cynyddu’r oriau rydych yn eu gweithio

Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau neu siaradwch â’ch anogwr gwaith i gael gwybod am sut y gallai cael swydd neu gynyddu eich enillion effeithio’ch cais Credyd Cynhwysol.

Bydd y rhan fwyaf o gyflogwyr yn adrodd eich enillion ar eich cyfer. Fel arfer, bydd ond rhaid i chi roi gwybod am eich enillion misol os ydych yn hunangyflogedig.

Os oes gormod wedi ei dalu i chi

Efallai bydd yn rhaid i chi dalu’n ôl yr arian os ydych:

  • wedi methu rhoi gwybod am newid ar unwaith
  • wedi rhoi gwybodaeth anghywir
  • wedi cael eich gordalu mewn camgymeriad

Gwybodaeth am sut i ad-dalu’r arian sy’n ddyledus gennych o ordaliad budd-dal.

Os ydych yn nesáu at ddiwedd oes

Efallai y gallwch gael arian ychwanegol os ydych yn nesáu at ddiwedd oes o ganlyniad i salwch. Efallai y gallwch hefyd gael budd-daliadau eraill

Os dywedwyd wrthych efallai fod gennych fwy na 12 mis i fyw

Bydd angen i chi roi gwybod am hyn yn yr un ffordd ag rydych yn rhoi gwybod am unrhyw newid arall mewn amgylchiadau.

Os dywedwyd wrthych efallai fod gennych 12 mis neu lai i fyw

Rhowch wybod am y newid ar-lein trwy eich cyfrif Credyd Cynhwysol. Cysylltir â chi ynglŷn â beth i’w wneud nesaf.

Gallwch hefyd gael rhywun arall i roi gwybod am y newid ar eich rhan. Dylen nhw ofyn i feddyg neu weithiwr meddygol proffesiynol i lenwi ffurflen SR1.

Bydd y ffurflenni gan y meddyg yn barod. Gall naill ai’r meddyg neu eich cynrychiolydd ei anfon i:

Freepost
Department for Work and Pensions
Universal Credit Full Service

Os ydych eisoes wedi anfon ffurflen SR1 ar gyfer budd-dal arall, er enghraifft Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, nid oes angen i chi ei hanfon eto.

Ni fydd angen i chi gael Asesiad Gallu i Weithio.

10. Help a chefnogaeth ariannol

Os ydych angen cymorth ariannol, gallwch gael help a chyngor gan y llywodraeth, cynghorau lleol a sefydliadau eraill.

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, gallech fod yn gymwys i gael budd-daliadau neu gymorth ariannol eraill. Dylech wirio beth allwch ei gael.

Efallai y byddwch yn gallu cael cymorth gwahanol yn yr Alban.

Os ydych angen arian ar frys

Os nad oes gennych ddigon i fyw arno tra byddwch yn aros am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf, gallwch ofyn am daliad ymlaen llaw ar ôl i chi wneud cais.

Os oes gennych sancsiwn ac nawr yn methu talu am rent, gwresogi, neu fwyd, gallwch hefyd ofyn am daliad caledi. Dylech wirio a ydych yn gymwys.

Bydd angen i chi dalu hwn yn ôl. Bydd eich taliadau Credyd Cynhwysol yn is hyd nes y bydd yn cael ei ad-dalu.

Sut i gael taliad ymlaen llaw mewn argyfwng

Efallai y gallwch gael Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw i helpu gyda:

  • costau brys yn y cartref fel prynu popty newydd yn lle popty sydd wedi torri

  • cael swydd neu aros mewn gwaith

  • costau angladd

Byddwch yn ei ad-dalu drwy eich taliadau Credyd Cynhwysol rheolaidd - bydd y rhain yn is nes i chi ei ad-dalu. Os byddwch yn rhoi’r gorau i gael Credyd Cynhwysol, bydd yn rhaid i chi ad-dalu’r arian mewn ffordd arall.

Faint allwch chi ei fenthyca

Bydd yr hyn a gewch yn dibynnu ar faint rydych ei angen - byddwch yn cytuno ar y swm gyda’ch anogwr gwaith.

Y swm lleiaf y gallwch ei fenthyg yw £100. Gallwch gael hyd at:

£348 os ydych yn sengl

£464 os ydych yn rhan o gwpl

£812 os oes gennych blant

Cymhwyster

I gael Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw, bydd angen i chi naill ai:

  • wedi bod yn cael Credyd Cynhwysol, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith neu Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth am 6 mis neu fwy

  • angen yr arian i’ch helpu i ddechrau swydd newydd neu aros mewn gwaith

Ni fyddwch yn gymwys os naill ai:

  • rydych wedi ennill mwy na £2,600 (£3,600 ar y cyd ar gyfer cyplau) yn ystod y 6 mis diwethaf

  • nad ydych wedi talu unrhyw fenthyciadau Cyllidebu Ymlaen Llaw blaenorol

Sut i wneud cais

I wneud cais, gallwch wneud unrhyw un o’r canlynol:

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol 

Ffôn: 0800 328 5644 

Ffôn testun: 0800 328 1344     

Relay UK (os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 328 5644   

Gwasanaeth video relay Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur - darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu dabled   

Llinell Gymraeg: 0800 328 1744    

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm    

Darganfyddwch am gostau galwadau   

Sut i newid eich Credyd Cynhwysol misol

Os ydych yn cael anawsterau ariannol neu os ydych ar ei hôl hi gyda’ch rhent, gallwch ofyn am newid y ffordd y caiff eich Credyd Cynhwysol ei dalu.

Efallai y byddwch chi neu’ch landlord yn gallu gwneud cais am Drefniant Talu Amgen (APA).

Help ariannol ar gyfer treuliau swydd annisgwyl

Pan fyddwch yn gweithio neu’n dechrau gweithio, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am rywbeth nad oeddech yn ei ddisgwyl, er enghraifft, gwisg neu offer.

Os nad yw’ch cyflogwr yn talu am rywbeth, dylech siarad â’ch anogwr gwaith. Gallant ddweud wrthych a allwch gael yr arian ymlaen llaw neu ei hawlio’n ôl.

Cyngor ar arian a dyled

Os ydych angen help i reoli eich cyllideb neu filiau, gallwch gael cyngor am ddim.

Gallwch gael help i ofalu am eich costau byw gan gynnwys cymorth gyda’ch biliau cyfleustodau, costau tai neu bresgripsiynau’r GIG.

11. Cysylltu â Chredyd Cynhwysol

Gallwch gysylltu â Chredyd Cynhwysol:

  • drwy eich cyfrif ar-lein
  • drwy ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol
Ffôn: 0800 328 1744
Ffôn testun: 0800 328 1344
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 328 5644
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) Gwasanaeth Video Relay os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen Llinell Saesneg: 0800 328 5644
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Os ydych yn byw yn Ngogledd Iwerddon ac eisiau defnyddio llinell gymorth, cysylltwch â’r Ganolfan Gwasanaeth Credyd Cynhwysol yn lle.

Os yw eich ymholiad yn ymwneud â hawlio budd-daliadau ‘dull newydd’ gyda Chredyd Cynhwysol

Gallech gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd (ESA) neu Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd (JSA) ar yr un pryd neu yn lle Credyd Cynhwysol.

Gwneud cais am ESA Dull Newydd

Gallwch wneud cais am ESA Dull Newydd ar-lein neu ffonio llinell gymorth ceisiadau newydd y Ganolfan Byd Gwaith.

Llinell gymorth ceisiadau newydd am ESA
Ffôn: 0800 328 1744
Ffôn testun: 0800 328 1344
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 055 6688
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) Gwasanaeth Video Relay os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen Llinell Saesneg: 0800 055 6688
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Gwneud cais am JSA Dull Newydd

Gallwch wneud cais am JSA Dull Newydd ar-lein neu cysylltwch â llinell gymorth ceisiadau newydd y Ganolfan Byd Gwaith.

Ceisiadau newydd y Ganolfan Byd Gwaith am JSA
Ffôn: 0800 012 1888
Ffôn testun: 0800 023 4888
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 328 5644
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) Gwasanaeth Video Relay os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Llinell Saesneg: 0800 055 6688
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Os oes gennych ymholiad am ESA neu JSA Dull Newydd sy’n bodoli eisoes

Cysylltwch â Llinell gymorth y Ganolfan Byd Gwaith.

Canolfan Byd Gwaith
Ffôn: 0800 012 1888
Ffôn testun: 0800 169 0314
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 328 5644
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) Gwasanaeth Video Relay os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Llinell Saesneg: 0800 169 0310
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm
Darganfyddwch am gostau galwadau