Trosolwg

Rydych yn rhoi cod treth y cyflogai i mewn i’ch meddalwedd cyflogres i gyfrifo faint o dreth i’w didynnu o’i gyflog drwy gydol y flwyddyn.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae canllaw ar wahân ynghylch codau treth os ydych yn gyflogai.

Yr hyn sydd angen i chi’i wneud

Pan fydd cyflogai newydd yn dechrau gweithio i chi, fel rheol rydych yn cyfrifo’i god treth (yn agor tudalen Saesneg) drwy ddefnyddio’i P45. Fel arfer, bydd y cod yn cynnwys sawl rhif yn ogystal â llythyren, megis 1257L.

Fel arfer, bydd angen i chi ddiweddaru cod treth eich cyflogai ar ddechrau blwyddyn dreth newydd. Os bydd y cod treth yn newid yn ystod y flwyddyn, bydd Cyllid a Thollau EM (CThEF) yn anfon e-bost atoch - dylech ddiweddaru’ch cofnodion y gyflogres cyn gynted â phosibl.

Cod Treth 1257L

1257L yw’r cod treth mwyaf cyffredin ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025. Caiff ei ddefnyddio ar gyfer y rhan fwyaf o bobl sydd ag un swydd a dim incwm heb ei drethu, treth sydd heb ei thalu nac unrhyw fuddiannau trethadwy (er enghraifft car cwmni).

Mae 1257L yn god treth dros dro, dim ond os caiff ei ddilyn gydag ‘W1’, ‘M1’ neu ‘X’. Gellir defnyddio cod treth dros dro os nad oes gan gyflogai newydd ffurflen P45.