Cap ar fudd-daliadau

Printable version

1. Budd-daliadau a effeithir gan y cap

Mae cap ar fudd-daliadau yn gyfyngiad ar gyfanswm y budd-daliadau y gallwch ei gael. Mae’n berthnasol i’r rhan fwyaf o bobl 16 oed neu drosodd nad ydynt wedi cyrraedd Oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae’r cap ar fudd-daliadau’n effeithio ar:

  • Lwfans Profedigaeth
  • Budd-dal Plant
  • Credyd Treth Plant
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Budd-dal Tai
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Lwfans Mamolaeth
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Lwfans Rhiant Gweddw (Lwfans Mam Weddw neu Bensiwn Weddw os oeddech wedi dechrau ei gael cyn 9 Ebrill 2001)
  • Credyd Cynhwysol

Efallai na fydd y cap ar fudd-daliadau yn effeithio arnoch os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol efallai na fydd y cap ar fudd-daliadau yn dechrau am 9 mis, yn dibynnu ar eich enillion.

2. Pan na fyddwch yn cael eich effeithio

Nid yw’r cap yn effeithio arnoch os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Os ydych yn rhan o gwpl ac mae un ohonoch o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gall y cap fod yn berthnasol.

Ni effeithir y cap arnoch os ydych chi neu’ch partner:

  • yn cael Credyd Treth Gwaith (hyd yn oed os yw’r swm a gewch yn £0)
  • yn cael Credyd Cynhwysol oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd sy’n eich rhwystro rhag gweithio (gelwir hyn yn ‘allu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith’)
  • yn cael Credyd Cynhwysol oherwydd eich bod yn gofalu am rywun ag anabledd
  • yn cael Credyd Cynhwysol ac rydych chi a’ch partner yn ennill £793 neu’n fwy y mis ar y cyd, ar ôl treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol

Ni fyddwch yn cael eich effeithio gan y cap os ydych chi neu eich partner neu unrhyw blant dan 18 oed yn byw gyda chi yn cael:

  • Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog
  • Taliad Annibynol y Lluoedd Arfog
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Gofalwr
  • Taliad Cymorth Gofalwr
  • Taliad Anabledd Plant
  • Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (os ydych yn cael yr elfen gymorth)
  • Lwfans Gwarcheidwad
  • Budd-dal Anafiadau Diwydiannol (a thaliadau cyfatebol fel rhan o Bensiwn Anabledd Rhyfel neu Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog)
  • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
  • Pensiwn Rhyfel
  • Pensiwn Rhyfel Gwraig Weddw neu Bensiwn Gŵr Gweddw

Os ydych yn cael eich effeithio, efallai na fydd y cap ar fudd-daliadau yn dechrau am 9 mis - yn dibynnu ar eich enillion.

3. Pan fydd y cap ar fudd-daliadau yn effeithio ar eich taliadau Credyd Cynhwysol

Efallai na fydd y cap ar fudd-daliadau yn effeithio ar eich taliadau Credyd Cynhwysol am hyd at 9 mis. Gelwir hyn yn ‘gyfnod gras’.

Fe gewch y cyfnod gras os yw pob un o’r canlynol yn wir:

  • rydych yn hawlio Credyd Cynhwysol oherwydd rydych wedi stopio gweithio neu oherwydd bod eich enillion wedi gostwng
  • rydych nawr yn ennill llai na £793 y mis
  • ym mhob un o’r 12 mis cyn i’ch enillion ostwng neu i chi roi’r gorau i weithio, gwnaethoch ennill yr un faint neu’n fwy na’r trothwy enillion (roedd hyn yn £722 hyd at 7 Ebrill 2024 ac yn £793 o 8 Ebrill 2023)

Bydd enillion eich partner yn cael eu cynnwys wrth gyfrifo faint wnaethoch ei ennill hyd yn oed os nad ydynt yn hawlio budd-daliadau. Os ydych wedi gwahanu oddi wrth eich partner, bydd eu henillion yn cael eu cynnwys am yr amser y buoch yn byw gyda nhw cyn i chi wahanu.

Mae angen i chi roi gwybod i ni am eich enillion am y 12 mis diwethaf pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol i gael y cyfnod gras.

Ni fydd y cap budd-dal yn effeithio arnoch os ydych chi neu’ch partner yn cael Credyd Cynhwysol oherwydd bod gennych anabledd neu gyflwr iechyd neu oherwydd eich bod yn gofalu am rywun sydd ag anabledd neu os ydych yn ennill £793 neu’n fwy rhyngoch chi.

Sut mae’r cyfnod gras o 9 mis yn gweithio

Os ydych eisoes yn hawlio Credyd Cynhwysol, bydd y cyfnod gras yn dechrau ar ddiwrnod cyntaf y cyfnod asesu pan aeth eich enillion yn is na’r trothwy enillion. Y trothwy oedd £722 hyd at 7 Ebrill 2023 ac yn £793 o 8 Ebrill 2023.

Os ydych yn gwneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol, mae’r cyfnod gras yn dechrau o un o’r canlynol:

  • y diwrnod ar ôl y diwrnod olaf y buoch yn gweithio
  • y diwrnod cyflog pan aeth eich enillion yn is na’r trothwy enillion (roedd hyn yn £722 hyd at 7 Ebrill 2023 ac yn £793 o 8 Ebrill 2023)

Mae’r cyfnod gras o 9 mis yn parhau os byddwch yn stopio hawlio Credyd Cynhwysol ac yna’n dechrau eto.

Enghraifft Mae eich cyfnod gras o 9 mis yn dechrau ar 1 Chwefror.

Rydych yn cael swydd ar 1 Mai ac mae’ch budd-dal yn dod i ben. Rydych yn stopio gweithio ac yn hawlio eto o 1 Awst.

Bydd eich cyfnod gras o 9 mis yn dod i ben ar 31 Hydref.

Ar ôl i’r cyfnod gras o 9 mis ddod i ben, bydd swm y Credyd Cynhwysol a gewch fel arfer yn gostwng. Efallai na fydd yn gostwng os bydd eich amgylchiadau’n newid ac nad yw’r cap ar fudd-daliadau yn effeithio arnoch.

4. Symiau cap ar fudd-daliadau

Mae’r swm a gewch drwy’r cap ar fudd-daliadau yn dibynnu ar:

  • os ydych yn byw yn neu y tu allan i Lundain
  • os ydych yn sengl neu mewn cwpl
  • mae eich plant yn byw gyda chi (os ydych yn sengl)

Os ydych mewn cwpl ond nad ydych yn byw gyda’ch gilydd, cewch y swm ar gyfer person sengl.

Defnyddiwch y gyfrifiannell cap budd-dal i ddarganfod faint y gallai eich budd-dal gael ei gapio.

Cap ar fudd-dal y tu allan i Lundain

Yr wythnos Y mis
Os ydych mewn cwpl £423.46 £1,835
Os ydych yn riant sengl ac mae’ch plant yn byw gyda chi £423.46 £1,835
Os ydych yn oedolyn sengl £283.71 £1,229.42

Cap ar fudd-dal yn Llundain

Yr wythnos Y mis
Os ydych mewn cwpl £486.98 £1,916.67
Os ydych yn riant sengl ac mae’ch plant yn byw gyda chi £486.98 £1,916.67
Os ydych yn oedolyn sengl £326.29 £1,413.92

5. Help os yw'r cap budd-daliadau yn effeithio arnoch chi

Cysylltwch â’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) os yw’r cap budd-daliadau yn effeithio arnoch chi a bod angen help arnoch chi.

Os oes angen help arnoch i dalu’ch rhent neu flaendal rhent, cysylltwch â’ch cyngor lleol hefyd. Gallant wirio a ydych yn gymwys i gael taliad tai dewisol, nad yw’r cap budd-dal yn effeithio arno.

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol

Cysylltwch â’r Adran Gwaith a Phensiynau naill ai:

Os cewch unrhyw fudd-daliadau eraill

Llinell gymorth cap budd-dal os na chewch Gredyd Cynhwysol
Ffôn: 0800 169 0238
Ffôn (Saesneg): 0800 169 0145
Ffôn testun: 0800 169 0314
Relay UK (os na allwch glywed na siarad ar y ffôn): 18001 yna 0800 169 0145
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am daliadau galwadau