Cael help gan CThEF os oes angen cymorth ychwanegol arnoch

Printable version

1. Help y gallwch ei gael

Gallwch gael cymorth ychwanegol os yw’ch cyflwr iechyd neu’ch amgylchiadau personol yn ei gwneud yn anodd wrth i chi gysylltu â Chyllid a Thollau EF (CThEF). Er enghraifft:

  • mae gennych ddyslecsia, awtistiaeth neu anawsterau gwybyddol
  • mae gennych anawsterau symud neu anableddau corfforol
  • mae gennych anableddau synhwyraidd, megis nam ar y golwg, clyw neu leferydd
  • mae gennych gyflyrau iechyd meddwl, megis iselder, straen neu orbryder
  • rydych yn profi caledi ariannol – er enghraifft, ni allwch fforddio hanfodion megis bwyd, biliau neu rent
  • rydych yn dioddef cam-drin domestig, gan gynnwys cam-drin economaidd
  • rydych yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch, gallwch gael apwyntiad dros y ffôn neu fideo gyda’r tîm cymorth ychwanegol. Gofynnwch i’ch ymgynghorydd pan fyddwch yn ffonio llinell gymorth CThEF neu defnyddiwch wasanaeth sgwrsio dros y we (yn Saesneg) y tîm cymorth ychwanegol.

Cysylltwch â gwasanaethau ar-lein CThEF os ydych yn cael problemau wrth fewngofnodi neu ddefnyddio gwasanaeth ar-lein CThEF.

Mae gwahanol ffyrdd o gysylltu â CThEF os oes angen:

2. Os ydych yn methu defnyddio ffôn a bod angen ffordd wahanol o gysylltu â CThEF arnoch

Mae ffyrdd eraill o gysylltu â Chyllid a Thollau EF (CThEF) ar wahân i siarad dros y ffôn. Efallai y bydd angen i chi ddefnyddio math arall o gyswllt os yw un neu fwy o’r canlynol yn wir:

  • rydych yn fyddar, â nam ar eich clyw neu’n drwm eich clyw
  • mae gennych nam ar eich lleferydd
  • rydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
  • mae defnyddio’r ffôn yn peri trafferth i chi

Gwasanaeth Testun (Relay UK)

Deialwch 18001 ac yna’r rhif cyswllt perthnasol (yn Saesneg) i ddefnyddio Gwasanaeth Testun Relay UK. Dim ond galwadau ffôn Saesneg eu hiaith y mae Relay UK yn gallu ymdrin â nhw.

Enghraifft

Rhif y llinell gymorth Saesneg ar gyfer ymholiadau cyffredinol sy’n ymwneud â Threth Incwm yw 0300 200 3300.

Deialwch 18001 0300 200 3300 er mwyn cysylltu â’r llinell gymorth honno drwy’r gwasanaeth Text Relay.

Mae CThEF hefyd yn cynnig gwasanaeth ffôn testun ar gyfer rhai o’i linellau cymorth (yn Saesneg).

Sgwrs dros y we

Gallwch gysylltu â thîm cymorth ychwanegol CThEF drwy sgwrs dros y we (yn Saesneg).

Os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Gallwch gysylltu â CThEF gan ddefnyddio dehonglydd fideo BSL o wasanaeth InterpretersLive!

Ymweliadau cartref ac apwyntiadau

Gallwch ofyn i Dîm Cymorth Ychwanegol CThEF am apwyntiad wyneb yn wyneb neu ymweliad cartref. Llenwch ffurflen apwyntiad i drefnu cyfarfod (yn Saesneg).

3. Os oes angen gwybodaeth arnoch mewn fformat gwahanol

Mae gwybodaeth Cyllid a Thollau EF (CThEF) ar gael mewn fformatau hygyrch. Efallai y bydd angen fformat arall arnoch os yw’r canlynol yn wir:

  • mae gennych nam ar eich golwg
  • mae gennych ddyslecsia neu awtistiaeth
  • mae gennych gyflwr arall sy’n gwneud print safonol yn anodd

Cysylltwch â CThEF os oes angen ffurflen, taflen neu wybodaeth arall arnoch yn unrhyw un o’r fformatau canlynol:

  • Braille
  • print bras
  • ar sain ar CD
  • testun ar CD (mewn print safonol neu brint bras)
  • fformatau eraill, er enghraifft papur lliw

Ffoniwch Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF a rhoi gwybod pa help sydd ei angen arnoch. Er enghraifft, gallwch ffonio Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i ofyn am Ffurflen Dreth mewn print bras. Byddant yn eich trosglwyddo i dîm cymorth ychwanegol CThEF, pe bai angen.

Gallwch hefyd gysylltu â thîm cymorth ychwanegol CThEF drwy sgwrs dros y we (yn Saesneg).

4. Os oes angen help arnoch i lenwi ffurflenni

Gall Cyllid a Thollau EF (CThEF) eich helpu i lenwi ffurflenni. Efallai y bydd angen help arnoch os yw’r canlynol yn wir:

  • mae gennych gyflwr iechyd meddwl, megis iselder, straen neu orbryder
  • mae gennych nam ar eich golwg, dyslecsia, awtistiaeth neu anawsterau gwybyddol
  • mae gennych gyflwr arall sy’n ei gwneud hi’n anodd i chi lenwi ffurflenni
  • rydych yn profi caledi ariannol – er enghraifft, ni allwch fforddio hanfodion megis bwyd, biliau neu rent
  • rydych yn dioddef cam-drin domestig, gan gynnwys cam-drin economaidd

I gael help i lenwi ffurflenni, ffoniwch Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF a rhoi gwybod pa help sydd ei angen arnoch. Byddant yn eich trosglwyddo i dîm cymorth ychwanegol CThEF, pe bai angen.

Gallwch hefyd gysylltu â thîm cymorth ychwanegol CThEF drwy sgwrs dros y we (yn Saesneg).

5. Os oes angen rhagor o amser arnoch oherwydd eich amgylchiadau

O dan rai amgylchiadau, gall Cyllid a Thollau EF (CThEF) roi estyniad i chi ar ddyddiad cau neu dreulio mwy o amser gyda chi ar y ffôn. Gallwch ofyn am fwy o amser os yw’r canlynol, er enghraifft, yn wir:

  • mae gennych gyflwr iechyd meddwl, megis iselder, straen neu orbryder
  • mae gennych nam ar eich golwg, dyslecsia, awtistiaeth neu anawsterau gwybyddol
  • mae gennych gyflwr arall sy’n golygu bod angen rhagor o amser arnoch
  • rydych yn profi anawsterau ariannol – er enghraifft, os ydych wedi colli’ch swydd oherwydd coronafeirws (COVID-19)
  • rydych yn yr ysbyty (gall rhywun arall ofyn i CThEF ar eich rhan)
  • rydych yn dioddef cam-drin domestig, gan gynnwys cam-drin economaidd

Gall Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF, fel y tîm cymorth ychwanegol, roi rhagor o amser i chi ar y ffôn hefyd.

I ofyn am ragor o amser oherwydd eich amgylchiadau, ffoniwch Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF a rhoi gwybod pa help sydd ei angen arnoch. Byddant yn eich trosglwyddo i dîm cymorth ychwanegol CThEF, pe bai angen. Efallai y bydd angen i chi brofi pam mae angen rhagor o amser arnoch.

Gallwch hefyd gysylltu â thîm cymorth ychwanegol CThEF drwy sgwrs dros y we (yn Saesneg).

6. Os oes angen gwybodaeth arnoch mewn iaith arall

Gallwch ddefnyddio ffrind neu aelod o’r teulu fel cyfieithydd ar y pryd pan fyddwch yn ffonio Cyllid a Thollau EF (CThEF).

Rhaid i’r unigolyn fod dros 16 oed, a bydd angen iddo fod yn yr un ystafell â chi pan fyddwch yn ffonio CThEF.

Efallai bydd CThEF hefyd yn gallu trefnu cyfieithydd ar y pryd ar eich cyfer.

Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os oes angen help arnoch gyda’ch Ffurflen Dreth.

7. Os oes angen rhywun arnoch i siarad â CThEF ar eich rhan

Os ydych yn ei chael hi’n anodd delio â Chyllid a Thollau EF (CThEF) eich hun, gallwch benodi rhywun i siarad â CThEF ar eich rhan (yn Saesneg). Gall hyn fod yn ffrind, yn berthynas neu’n ymgynghorydd o sefydliad gwirfoddol.