Bonws Nadolig

Printable version

1. Trosolwg

Mae’r Bonws Nadolig yn daliad £10 di-dreth untro a wneir cyn y Nadolig, wedi’i dalu i bobl sy’n cael budd-daliadau penodol yn ystod yr wythnos gymhwyso. Fel arfer, hwn yw wythnos lawn gyntaf ym mis Rhagfyr.

Nid oes rhaid i chi wneud cais – dylech gael eich talu’n awtomatig.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

2. Beth fyddwch yn ei gael

Mae’r Bonws Nadolig yn daliad untro o £10.

Os ydych yn cael mwy nag un Bonws Nadolig, cysylltwch â’r swyddfa Canolfan Byd Gwaith sy’n delio â’ch taliadau neu’r Gwasanaeth Pensiwn.

Ni fydd yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau eraill rydych yn ei gael.

Sut byddwch yn cael eich talu

Mae pob budd-dal, pensiwn a lwfans fel arfer yn cael eu talu i mewn i gyfrif, er enghraifft eich cyfrif banc. Efallai y bydd yn ymddangos er eich cyfriflen banc fel ‘DWP XB’.

3. Cymhwyster

I gael Bonws Nadolig, mae rhaid i chi fod yn bresennol neu ‘fel arfer yn preswylio’n’ y DU, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Gibraltar yn ystod yr wythnos gymhwyso.

Os ydych yn byw mewn gwlad Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu’r Swistir neu’n symud iddi, darganfyddwch am fudd-daliadau i wladolion y DU yn yr UE, yr AEE a’r Swistir.

Mae rhaid i chi hefyd fod yn cael o leiaf un o’r budd-daliadau canlynol yn yr ‘wythnos gymhwyso’ - hwn fel arfer yw’r wythnos lawn cyntaf ym mis Rhagfyr:

  • Taliad Anabledd i Oedolion
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Gofalwr
  • Taliad Cymorth i Ofalwyr
  • Taliad Anabledd Plentyn
  • Lwfans Gweini Parhaus (a delir o dan gynlluniau Anafiadau Diwydiannol neu Bensiwn Rhyfel)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau (unwaith y byddwch wedi cyrraedd prif gyfnod y budd-dal ar ôl 13 wythnos gyntaf y cais)
  • Lwfans Byw i’r Anabl
  • Budd-dal Analluogrwydd ar y gyfradd hirdymor
  • Budd-dal Marwolaeth Ddiwydiannol (i wŷr gweddw neu wragedd gweddw)
  • Atodiad Symudedd
  • Credyd Pensiwn - yr elfen warantu
  • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
  • Pensiwn y Wladwriaeth (gan gynnwys Budd-dal Ymddeol Graddedig)
  • Lwfans Anabledd Difrifol (wedi’i amddiffyn dros dro)
  • Atodiad neu Lwfans i’r Anghyflogadwy (a delir o dan gynlluniau Anafiadau Diwydiannol neu Bensiwn Rhyfel)
  • Pensiwn Anabledd Rhyfel ar oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • Pensiwn Rhyfel Gwraig Weddw
  • Lwfans Mam Weddw
  • Lwfans Rhiant Gweddw
  • Pensiwn Gwraig Weddw

Os nad ydych wedi hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth ac nad oes gennych hawl i un o’r budd-daliadau cymwys eraill, ni fyddwch yn cael Bonws Nadolig.

4. Sut i wneud cais

Nid oes angen i chi gwneud cais am y Bonws Nadolig – dylech ei gael yn awtomatig.

Os ydych yn meddwl dylech ei gael, ond heb ei gael erbyn 1 Ionawr, cysylltwch â’r swyddfa Canolfan Byd Gwaith sy’n delio â’ch taliadau neu’r Gwasanaeth Pensiwn .

5. Gwybodaeth bellach

Os ydych yn rhan o gwpl priod, mewn partneriaeth sifil neu’n byw gyda’ch gilydd fel petaech yn gwpl priod a’ch bod chi’ch dau’n cael budd-daliadau cymwys, bydd y ddau ohonoch yn cael taliad Bonws Nadolig.

Os nad yw eich partner neu bartner sifil yn cael un o’r budd-daliadau cymwys, efallai y byddant yn gallu parhau i gael Bonws Nadolig os bydd y ddau beth canlynol yn gymwys:

  • rydych chi’ch dau dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth erbyn diwedd yr wythnos cymhwyso
  • roedd eich partner neu bartner sifil hefyd yn bresennol (neu ‘fel arfer yn preswylio’) yn y DU, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, Gibraltar, unrhyw wlad yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu’r Swistir yn ystod yr wythnos gymhwyso

Mae’n rhaid bod un o’r canlynol hefyd yn berthnasol:

  • mae gennych hawl i gynnydd mewn budd-dal cymwysedig ar gyfer eich partner neu bartner sifil
  • yr unig fudd-dal gymwys rydych yn ei gael yw Credyd Pensiwn