Apelio yn erbyn penderfyniad budd-dal

Printable version

1. Trosolwg

Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad ynglŷn â’ch hawl i gael budd-daliadau, er enghraifft Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) a Chredyd Cynhwysol.

Y Tribiwnlys Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant, sy’n rhan o Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF), sy’n penderfynu ar apeliadau. Mae’r tribiwnlys yn ddiduedd ac yn annibynnol ar y llywodraeth.

Bydd y tribiwnlys yn gwrando ar y ddwy ochr cyn gwneud penderfyniad.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Cyn i chi apelio

Fel arfer mae’n rhaid i chi [ofyn i’r penderfyniad am eich budd-daliadau gael ei ystyried eto] (/ailystyriaeth-orfodol) cyn y gallwch apelio – gelwir hyn yn ‘ailystyriaeth orfodol’.

Os nad oes angen i chi wneud hyn, bydd eich llythyr penderfyniad yn dweud y gallwch apelio ar unwaith. Bydd y llythyr yn esbonio pam nad oes angen ailystyriaeth orfodol arnoch – dylech gynnwys hwn pan fyddwch yn cyflwyno’ch apêl.

Sut i apelio

Mae apelio yn erbyn penderfyniad budd-dal am ddim.

Dylech apêlio i’r tribiwnlys o fewn mis i gael eich penderfyniad ailystyriaeth orfodol. Os byddwch yn dechrau eich apêl ar ôl mis bydd yn rhaid i chi esbonio pam na wnaethoch yr apêl yn gynharach. Efallai na fydd eich apêl yn cael ei derbyn.

Ar ôl i chi gyflwyno’ch apêl, gallwch reoli eich apêl ar-lein a darparu tystiolaeth i’r tribiwnlys. Penderfynir ar eich apêl mewn gwrandawiad tribiwnlys.

Penderfyniadau budd-dal y gallwch apelio yn eu herbyn

Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad ynglŷn â:

  • 30 awr o gynllun gofal plant am ddim
  • Lwfans Gweini
  • Taliad Cymorth Profedigaeth
  • Lwfans Gofalwr
  • Budd-dal Plant
  • Cynnal Plant neu Gynhaliaeth Plant
  • Uned Adfer Iawndal
  • Grŵp Cyflogaeth Wedi’i Eithrio
  • Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
  • Lwfans Gwaith i’r Anabl
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)
  • Taliad Costau Angladd
  • Grant Iechyd mewn Beichiogrwydd
  • Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Cymhorthdal Incwm
  • Budd-dal Marwolaeth Diwydiannol
  • Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Lwfans Mamolaeth
  • Credydau Yswiriant Gwladol (os ydych yn ddi-waith ac yn chwilio am waith, ond ddim yn cael Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd)
  • Credyd Pensiwn
  • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
  • Pensiwn y Wladwriaeth
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn
  • Credydau Treth
  • Gofal Plant Di-dreth
  • Credyd Cynhwysol
  • Taliad Tanwydd Gaeaf
  • Taliad Niwed trwy Frechiad

Gwiriwch unrhyw lythyrau rydych wedi’u cael am eich budd-dal os nad ydych yn gwybod yr union enw.

Cael help a chyngor

Gallwch gael cymorth a chyngor am ddim gan:

Gallwch hefyd ofyn am gyngor gan ymgynghorydd cyfreithiol neu gyfreithiwr.

2. Cyflwyno'ch apêl

Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad ynglŷn â’ch hawl i gael budd-daliadau, er enghraifft Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) a Chredyd Cynhwysol.

Mae’n rhaid i chi ofyn i ni edrych eto ar y penderfyniad am eich budd-daliadau cyn y gallwch apelio, oni bai bod eich llythyr penderfyniad yn dweud nad oes angen ‘ailystyriaeth orfodol’ arnoch.

Byddwch angen:

  • eich Rhif Yswiriant Gwladol
  • manylion y cynrychiolydd sy’n eich helpu gyda’ch apêl (os ydych yn defnyddio un)
  • eich hysbysiad gorfodi i ailystyried - rydych yn cael hwn ar ôl i chi ofyn i ni edrych eto ar y penderfyniad budd-dal

Os nad oes angen ailystyriaeth orfodol arnoch, bydd eich llythyr penderfyniad yn dweud pam. Dylech gynnwys yr esboniad hwn pan fyddwch yn cyflwyno’ch apêl.

Bydd angen i chi ddewis a ydych am fynd i’r gwrandawiad tribiwnlys i egluro’ch apêl yn bersonol. Os na fyddwch yn mynychu, bydd eich apêl yn cael ei phenderfynu ar sail eich ffurflen apêl ac unrhyw dystiolaeth ategol rydych yn ei darparu.

Dechrau nawr

Parhau gydag apêl sy’n bodoli’n barod

Mewngofnodwch i barhau gyda’ch cais apelio yn erbyn penderfyniad budd-dal.

Os oes arnoch angen cymorth i apelio ar-lein

Mae pwy y dylech gysylltu â hwy yn dibynnu ar y math o help sydd ei angen arnoch.

Os ydych yn cael problemau technegol neu angen cyfarwyddyd ar sut i wneud cais

Cysylltwch â llinell gymorth apeliadau budd-dal. Mae’r manylion ar waelod y dudalen hon.

Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd neu os nad ydych yn teimlo’n hyderus yn defnyddio’r rhyngrwyd

We Are Group
support@wearegroup.com
Rhif ffôn: 03300 160 051
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am - 5pm
Ar gau ar wyliau banc
Tecstiwch FORM i 60777 a bydd rhywun yn eich ffonio’n ôl
Gwybodaeth am gost galwadau

Apelio trwy’r post

Defnyddiwch ffurflen SSCS1 i apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch budd-daliadau drwy’r post, ac eithirio os yw’n ymwneud â Taliad Niwed trwy Frechiad.

Defnyddiwch ffurflen SSCS2 i apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch Cynhaliaeth Plant drwy’r post. Ni allwch apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch Cynhaliaeth Plant ar-lein.

Defnyddiwch ffurflen SSCS5 i apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi (HMRC) drwy’r post. Ni allwch apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed gan HMRC ar-lein.

Defnyddiwch ffurflen SSCS7 i apelio ynghylch penderfyniad am Taliad Niwed trwy Frechiad drwy’r post.

Penodi rhywun i helpu gyda’ch apêl

Gallwch benodi rhywun yn ‘gynrychiolydd’ i’ch helpu gyda’ch apêl. Gall cynrychiolydd:

  • eich helpu i gyflwyno’ch apêl neu baratoi eich tystiolaeth
  • gweithredu ar eich rhan
  • rhoi cyngor i chi

Gall unrhyw un fod yn gynrychiolydd, gan gynnwys ffrindiau a theulu.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu dod o hyd i gynrychiolydd trwy lyfrgell lleol neu gan sefydliad yn eich ardal sy’n rhoi cyngor ar hawlio budd-daliadau, fel Cyngor ar Bopeth.

Bydd gan eich cynrychiolydd ganiatâd i weithredu ar eich rhan, er enghraifft i ymateb i lythyrau. Anfonir yr holl wybodaeth atynt am eich apêl, gan gynnwys unrhyw dystiolaeth feddygol.

I gofrestru cynrychiolydd, gallwch naill ai:

  • enwi eich cynrychiolydd pan fyddwch yn cyflwyno’ch apêl
  • cofrestru cynrychiolydd ar unrhyw adeg ar ôl i chi gyflwyno’ch apêl

Ysgrifennwch at Apeliadau Budd-daliadau GLlTEF i gofrestru cynrychiolydd ar ôl i chi gyflwyno’ch apêl.

Os ydych chi’n byw yng Nghymru neu Loegr, ysgrifennwch at:

Apeliadau Budd-daliadau GLlTEF
PO Box 12626
Harlow
CM20 9QF

Os ydych yn byw yn yr Alban, ysgrifennwch at:

Apeliadau Budd-daliadau GLlTEF
PO Box 13150
Harlow
CM20 9TT

Mwy o ffyrdd i gael help

Cysylltwch â’r llinell gymorth ar gyfer apeliadau ynghylch budd-daliadau os oes gennych gwestiynau am apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch budd-daliadau.

Llinell gymorth apeliadau budd-daliadau (ar gyfer siaradwyr Cymraeg)
Ffôn: 0300 303 5170
Dydd Llun i ddydd Iau, 9.00am i 5pm, dydd Gwener, 9.00am i 4.30pm
Gwybodaeth am gostau galwadau

Llinell gymorth apeliadau budd-daliadau (Yr Alban)
Ffôn: 0300 790 6234
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm
Gwybodaeth am gostau galwadau
Ebost: SSCSA-Glasgow@justice.gov.uk

3. Ar ôl i chi gyflwyno'ch apêl

Anfonir eich apêl at yr adran a wnaeth y penderfyniad ynglŷn â’ch hawl i fudd-daliadau. Byddant yn ymateb i’ch apêl gan egluro pam y gwnaethant y penderfyniad.

Byddwch yn cael copi o’r ymateb.

Rheoli eich apêl ar-lein

Gallwch greu cyfrif ar ôl cyflwyno’ch apêl trwy ddefnyddio’r ddolen yn eich e-bost cydnabyddiaeth. Gallwch hefyd greu cyfrif nes ymlaen trwy gysylltu â’r llinell gymorth apeliadau budd-daliadau a rhoi eich cyfeiriad e-bost iddynt.

Unwaith y byddwch wedi creu eich cyfrif, byddwch yn gallu:

  • dilyn trywydd eich apêl

  • llwytho tystiolaeth i gefnogi eich apêl

  • gwneud datganiad i gefnogi eich apêl neu gofyn i’ch manylion gael eu diweddaru, er enghraifft, os ydych yn symud tŷ neu os bydd manylion eich cynrychiolydd yn newid

Darparu tystiolaeth

Gallwch ddarparu tystiolaeth i helpu’r tribiwnlys i ddeall eich cyflwr neu’ch amgylchiadau fel y gallant wneud penderfyniad. Gall tystiolaeth gynnwys:

  • adroddiad neu gynllun gofal gan arbenigwr, therapydd neu nyrs
  • llythyr gan rywun sy’n eich adnabod.

Gallwch gyflwyno tystiolaeth ar-lein neu drwy’r post. Os ydych yn cyflwyno tystiolaeth drwy’r post, fe gewch wybod yn eich llythyr cydnabyddiaeth am lle dylech ei hanfon ar ôl ichi gyflwyno eich apêl.

Anfonwch y dystiolaeth cyn gynted ag y gallwch fel bod gan y tribiwnlys amser i’w darllen cyn y gwrandawiad.

Y gwrandawiad

Penderfynir ar eich apêl mewn gwrandawiad tribiwnlys. Bydd y tribiwnlys yn dweud wrthych ymhle a phryd cynhelir y gwrandawiad.

Byddwch yn cael y penderfyniad trwy’r post ar ôl y gwrandawiad. Efallai y cewch benderfyniad ar y diwrnod os byddwch yn mynd i’r gwrandawiad.

Pa mor hir mae’n ei gymryd

Fel arfer mae’n cymryd hyd at 6 mis i apêl gael ei gwrando gan y tribiwnlys.

Efallai y bydd eich apêl yn cael ei gohirio oni bai eich bod yn:

  • anfon unrhyw dystiolaeth cyn gynted ag y gallwch cyn y gwrandawiad
  • cyrraedd y gwrandawiad mewn pryd (os ydych chi’n mynychu)
  • cofrestru eich cynrychiolydd cyn gynted ag y gallwch (os ydych chi’n defnyddio un)

4. Beth sy'n digwydd yn y gwrandawiad

Cyflwynwch unrhyw dystiolaeth cyn gynted â phosibl cyn y gwrandawiad fel bod gan y tribiwnlys amser i’w darllen. Fel arfer, bydd tystiolaeth yn cael ei rhannu gyda’r holl bartïon, gan gynnwys eich cynrychiolydd (os ydych yn defnyddio un).

Bydd barnwr ac un neu ddau o arbenigwyr yn gwneud penderfyniad am yr achos. Mae pwy yw’r arbenigwyr yn dibynnu ar ba fudd-dal rydych yn apelio yn ei erbyn. Mae’r barnwr a’r arbenigwyr yn ddiduedd ac yn annibynnol ar y llywodraeth.

Os ydych yn mynychu’r gwrandawiad

Bydd cyfle i chi egluro’ch apêl.

Bydd y barnwr neu’r arbenigwyr yn gofyn cwestiynau i chi am eich cyflwr neu’ch amgylchiadau.

Efallai y bydd yr adran a wnaeth y penderfyniad gwreiddiol hefyd yn y gwrandawiad. Efallai y byddant yn gofyn cwestiynau, ond nid ydynt yn rhan o’r tribiwnlys ac nid ydynt yn penderfynu canlyniad yr apêl.

Os ydych chi neu eich cynrychiolydd y tu allan i’r DU ac eisiau rhoi tystiolaeth trwy gyswllt fideo neu sain byw, cysylltwch â’r tribiwnlys i wneud cais am hyn. Dywedwch wrth y tribiwnlys ym mha wlad ydych chi neu’ch cynrychiolydd a pha fath o dystiolaeth sy’n cael ei rhoi. Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn gynted â phosibl.

Gallwch gael cymorth yn ystod y gwrandawiad, er enghraifft cyfieithydd, dolen clyw neu ystafell dribiwnlys hygyrch. Gallwch ofyn am gymorth pan fyddwch yn apelio.

Ni allwch ddefnyddio’ch cyfieithydd eich hun yn ystod y gwrandawiad.

Hawlio costau

Efallai y gallwch hawlio am gostau rhesymol am fynd i’r tribiwnlys, er enghraifft:

  • costau teithio i dalu am eich tocyn os byddwch yn cyrraedd yno gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus
  • costau teithio o 12c y filltir os ydych yn gyrru, ynghyd â 2c y filltir ar gyfer hyd at 2 deithiwr
  • prydau bwyd - £4.25 os ydych i ffwrdd am fwy na 5 awr, £9.30 am fwy na 10 awr neu £13.55 am fwy na 12 awr
  • colli enillion - £38.96 os ydych i ffwrdd o’r gwaith am hyd at 4 awr neu £75.59 am 4 awr neu fwy
  • costau gofal hyd at yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, er enghraifft ar gyfer gwarchodwr plant

Bydd y clerc yn eich helpu i lenwi ffurflen hawlio pan ewch i’r gwrandawiad.

Bydd angen i chi gynnwys prawf, er enghraifft:

  • derbynebau
  • llythyr gan eich cyflogwr oherwydd colli enillion

5. Os ydych yn anfodlon gyda phenderfyniad y tribiwnlys

Efallai y gallwch:

Mae rhagor o wybodaeth yn eich llythyr penderfyniad.

Cael penderfyniad wedi’i osod o’r neilltu

Fe’ch hysbysir sut i gael penderfyniad wedi’i ‘osod o’r neilltu’ (canslo) os credwch bod camgymeriad wedi bod yn y broses. Gallwch yna ddechrau’r broses eto fel y gall penderfyniad newydd cael ei wneud. Cysylltwch â Cyngor ar Bopeth os ydych angen help.

Apelio i’r Uwch Dribiwnlys - Siambr Apeliadau Gweinyddol

Dim ond os credwch fod y penderfyniad yn anghywir am reswm cyfreithiol y gallwch apelio i’r Uwch Dribiwnlys (Siambr Apeliadau Gweinyddol), er enghraifft, os na wnaeth y tribiwnlys:

  • roi rhesymau cywir dros ei benderfyniad, neu cefnogi’r penderfyniad â ffeithiau
  • cymhwyso’r gyfraith yn gywir

Efallai y gallwch gael cymorth cyfreithiol pan fyddwch yn apelio i’r Uwch Dribiwnlys (Siambr Apeliadau Gweinyddol) - gall hyn helpu i dalu am gyngor cyfreithiol.

Cysylltwch â Cyngor ar Bopeth os ydych angen help.

Yna mae’n rhaid i chi ddilyn 3 cam.

  1. Gofynnwch i’r Tribiwnlys Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant am ddatganiad o resymau llawn yn ysgrifenedig (a elwir yn ‘datganiad o resymau’) o fewn mis o ddyddiad y penderfyniad. Bydd y llythyr penderfyniad yn dweud wrthych sut i wneud hyn.

  2. Gofynnwch i’r Tribiwnlys Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant am ganiatâd i apelio i’r Uwch Dribiwnlys (Siambr Apeliadau Gweinyddol).

  3. Os bydd y Tribiwnlys Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant yn gwrthod, gofynnwch i’r Uwch Dribiwnlys (Siambr Apeliadau Gweinyddol) am ganiatâd i apelio.