Anghytuno â phenderfyniad treth
Apelio yn erbyn cosb
Gallwch apelio ar Gyllid a Thollau EF (CThEF) yn erbyn cosb a godir, er enghraifft am y rhesymau canlynol:
- ffurflen wallus
- cyflwyno’ch ffurflen dreth yn hwyr
- talu treth yn hwyr
- peidio â chadw cofnodion digonol
Mae sut y byddwch yn apelio yn dibynnu a yw’r gosb ar gyfer naill ai:
- treth anuniongyrchol, er enghraifft TAW, Toll Dramor neu Doll Ecséis
- treth uniongyrchol, er enghraifft Treth Incwm, Treth Gorfforaeth neu Dreth Enillion Cyfalaf
Efallai y caiff eich cosb ei chanslo neu ei diwygio os oes gennych esgus rhesymol.
Sut i apelio yn erbyn cosb treth anuniongyrchol
Bydd adolygiad yn cael ei gynnig i chi gan CThEF yn eich llythyr o benderfyniad ynghylch cosb.
Gallwch naill ai dderbyn y cynnig o adolygiad neu apelio ar y tribiwnlys treth.
Sut i apelio yn erbyn cosb treth uniongyrchol
Bydd angen i chi ofyn i CThEF fwrw golwg dros eich achos eto ac ystyried eich apêl.
Os bydd CThEF yn anfon llythyr o gosb atoch drwy’r post, defnyddiwch y ffurflen apelio sy’n dod gydag ef. Fel arall, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y llythyr.
Ar gyfer Hunanasesiad, TWE, TAW a Threth Gorfforaeth, mae dogfennau ychwanegol y gallwch eu defnyddio i apelio, neu ddulliau eraill o apelio.
Os ydych yn apelio yn erbyn cosb Hunanasesiad
Os ydych wedi cael cosb am beidio ag anfon ffurflen dreth, ond nad oes rhaid i chi anfon un, gallwch ofyn i CThEF i’w chanslo. Gallwch wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:
- cysylltu â CThEF drwy e-bost, llythyr neu dros y ffôn
- llenwi ffurflen ar-lein
Os ydych yn apelio yn erbyn cosb am gyflwyno ffurflen dreth yn hwyr neu am dalu’n hwyr, mae’r modd yr ydych yn apelio yn dibynnu ar y canlynol:
- os ydych yn apelio yn erbyn ffurflen dreth unigol – defnyddiwch ffurflen SA370 neu apelio ar-lein
- os ydych yn apelio ynghlych ffurflen dreth partneriaeth – defnyddiwch ffurflen SA371
Bydd angen y canlynol arnoch:
- y dyddiad y cafodd y gosb ei chodi
- y dyddiad y gwnaethoch gyflwyno’ch ffurflen dreth Hunanasesiad
- manylion eich esgus rhesymol dros gyflwyno’n hwyr
Dim ond y partner enwebedig (yn agor tudalen Saesneg) a all apelio yn erbyn cosb ar gyfer ffurflen dreth partneriaeth.
Gallwch hefyd apelio drwy anfon llythyr at CThEF:
Hunanasesiad
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
Y Deyrnas Unedig
Os ydych yn gyflogwr sy’n apelio yn erbyn cosb TWE
Gallwch apelio ar-lein os ydych wedi’ch cofrestru ar gyfer gwasanaeth TWE i gyflogwyr CThEF. Ar ôl i chi fewngofnodi, dewiswch ‘Apelio yn erbyn cosb’. Byddwch yn cael cydnabyddiaeth ar unwaith pan fyddwch yn cyflwyno’ch apêl.
Os gwnaethoch gyflwyno ffurflen TAW neu ffurflen Dreth Gorfforaeth yn hwyr
Gallwch hefyd ddefnyddio’r ffurflenni penodol hyn ar gyfer:
- cyflwyno ffurflen TAW hwyr os oedd gennych esgus rhesymol
- Treth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg) os gwnaethoch gyflwyno’n hwyr o ganlyniad i broblemau cyfrifiadurol
Os nad oes gennych ffurflen apelio
Gallwch anfon llythyr wedi’i lofnodi at CThEF yn lle hynny. Mae’n rhaid i chi gynnwys esboniad llawn dros gyflwyno’ch ffurflen neu wneud eich taliad yn hwyr, gan gynnwys dyddiadau.
Dylech hefyd gynnwys y canlynol yn eich llythyr:
- eich enw
- eich cyfeirnod – er enghraifft, eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) ar gyfer Hunanasesiad neu’ch rhif cofrestru TAW
Os nad oeddech yn gallu cyflwyno neu dalu oherwydd problemau cyfrifiadurol, dylech gynnwys y canlynol:
- y dyddiad y gwnaethoch geisio cyflwyno neu dalu ar-lein
- manylion unrhyw neges wall gan y system
Anfonwch eich hawliad i’r swyddfa yn CThEF sy’n ymwneud â’ch ffurflen dreth.
Dyddiadau cau
Fel arfer, cewch apelio cyn pen 30 diwrnod i’r dyddiad yr anfonwyd eich cosb.
Os byddwch yn methu’r dyddiad cau, rhaid i chi esbonio’r rheswm dros yr oedi fel y gall CThEF benderfynu a fydd yn ystyried eich apêl.
Cael adolygiad
Os na fydd CThEF yn newid y penderfyniad a’ch bod yn dal i anghytuno, bydd adolygiad yn cael ei gynnig i chi.