Anfon Ffurflen TAW
Llog ar TAW wedi’i thandalu neu ei gordalu
Gall Cyllid a Thollau EF (CThEF) godi llog arnoch os nad ydych yn rhoi gwybod am y swm cywir o TAW a’i thalu. Os ydych yn talu gormod o TAW oherwydd bod CThEF wedi gwneud camgymeriad, gallwch hawlio llog.
Mae CThEF ond yn codi neu’n talu llog syml (llog ar y swm gwreiddiol, nid llog ar log).
Mae cyfraddau llog gwahanol (yn Saesneg) ar gyfer treth a dandalwyd neu a ordalwyd cyn 22 Awst 2023.
Os nad ydych yn talu digon o TAW
Mae’n bosibl y codir llog o 7.75% arnoch os ydych yn gwneud y canlynol:
-
rhoi gwybod am lai o TAW na’r hyn a godoch, neu’n adhawlio mwy na’r hyn rydych yn ei thalu
-
talu asesiad y gwnaeth CThEF ei ganfod yn rhy isel wedi hynny
-
mae arnoch TAW i CThEF oherwydd camgymeriad ar eich Ffurflen TAW
Gallwch ddefnyddio’ch cyfrif TAW ar-lein i wirio’r swm sydd arnoch.
Bydd CThEF hefyd yn anfon hysbysiad atoch yn rhoi gwybod i chi faint sydd arnoch a sut y caiff ei gyfrifo.
Os nad ydych yn talu cyn pen 30 diwrnod, codir llog pellach ar y TAW sy’n ddyledus o ddyddiad yr hysbysiad. Codir llog arnoch am yr holl amser nad ydych yn ei dalu, hyd at uchafswm o ddwy flynedd.
Ni allwch ddidynnu’r llog y mae CThEF yn ei godi arnoch wrth gyfrifo’ch elw trethadwy.
Os ydych yn talu gormod o TAW
Mae’n bosibl y gallwch hawlio llog o 4.25% os yw camgymeriad CThEF yn golygu’r canlynol:
-
rydych yn talu gormod o TAW
-
nid ydych yn adennill digon o TAW
-
cafodd eich taliad gan CThEF ei oedi
Fel arfer, ni fydd CThEF yn ad-dalu llog os ydych wedi talu gormod o TAW o ganlyniad i gamgymeriad a wnaethoch.
Fel arfer, caiff llog ei dalu am y cyfnod llawn, o’r cyfnod pan ordalwyd neu adenillwyd y TAW hyd at y dyddiad y caiff yr ad-daliad ei awdurdodi.
Os gwnaethoch achosi oedi i unrhyw daliadau (er enghraifft, drwy beidio â hawlio ar unwaith), efallai y bydd CThEF yn hepgor yr amser hwn.
Mae’n rhaid i chi hawlio’r llog ar wahân i’r ad-daliad ei hunan.
Ysgrifennwch at CThEF gyda manylion yr ad-daliad, gan egluro pam bod llog yn ddyledus i chi. Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn pen pedair blynedd i’r dyddiad a awdurdododd CThEF yr ad-daliad yn wreiddiol. Defnyddiwch y cyfeiriad post ar y llythyr a gawsoch gan CThEF am eich TAW.
Mae unrhyw log a gewch gan CThEF yn cyfrif fel incwm trethadwy.
Talu llog i’ch cwsmeriaid
Mae’n rhaid i chi dalu unrhyw log a gewch (yn ogystal â’r TAW) i’ch cwsmeriaid os yw camgymeriad CThEF yn golygu eu bod wedi talu gormod o TAW.
Cysylltwch â’r person yn CThEF a ddeliodd â’ch hawliad os oes angen i chi gael gwybod sut y cafodd y llog ei gyfrifo. Gall hyn eich helpu i gyfrifo faint sydd angen i chi ei ad-dalu i bob cwsmer.
Mae’n rhaid i chi roi’r arian yn ôl i CThEF cyn pen 14 diwrnod os na allwch gysylltu â chwsmer i’w ad-dalu.
Herio penderfyniad gan CThEF
Ni allwch apelio yn erbyn y penderfyniad i godi llog arnoch ond gallwch herio’r swm o log a godir arnoch.